Cerbydau hunan-yrru i'w profi mewn cyfleuster newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae safle brofi yn Brignant, ger Pwllpeiran

Mae safle brofi yn Brignant, ger Pwllpeiran

17 Chwefror 2023

Bydd ffermio annibynnol, gwasanaethau danfon y filltir olaf a cherbydau hunan-yrru oddi ar y ffordd yn cael eu profi mewn prawf robotig graddfa fawr newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd Tirwedd Naturiol Aberystwyth ar gyfer Roboteg Ddigymell - ANTUR - yn cwmpasu tua 500 hectar gydag 11.5 cilomedr o draciau.

Bydd y safle'n rhychwantu glaswelltir,  mawnog, creigiau a mwd. Bydd modd i gerbydau deithio i uchder o hyd at 600 metr uwchben lefel y môr.

Ar ôl ei adeiladu, bydd y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio i brofi'r datblygiadau arloesol diweddaraf ym maes cerbydau annibynnol sydd wedi'u datblygu gan y Brifysgol ar dir ac yn yr awyr.

Mae ymchwilwyr wedi adeiladu nifer o gerbydau robotig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cerbydau mawr sydd â gyriant pedair a chwe olwyn a dronau.

Dywedodd Dr Frédéric Labrosse o Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Aberystwyth: "Mae gyrru annibynnol yn un o ddatblygiadau technolegol arloesol mwyaf cyffrous y blynyddoedd diwethaf a gellir ei ddefnyddio mewn sawl maes lle nad yw’n ddiogel i anfon gyrwyr dynol neu lle gall defnyddio systemau wedi’u hawtomeiddio ryddhau amser i yrwyr dynol.

"Mae'r blynyddoedd i ddod yn cynnig hyd yn oed mwy o botensial gyda gwaith ar y gweill ar awtomeiddio tasgau ffermio, gan gynnwys gyrru'n annibynnol ar dir anodd."

Mae'r cyfleuster newydd yn cynnwys Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran yng Ngheredigion a'r tir yn Aberystwyth a'r cyffiniau.

Cam cyntaf y prosiect yw adeiladu dau safle swyddfa a gweithdy diogel gyda phŵer, gwres a chysylltedd. Bydd y gwaith adeiladu wedi'i gwblhau erbyn Ebrill 2023. Mae'r cynlluniau ar gyfer yr ail gam, sydd i fod i gael ei gwblhau erbyn 2024, yn cynnwys adeiladu cyfleuster profi mawr dan do, gofod swyddfa ac ardaloedd gweithdy.

Mae'r prosiect yn dod â'r cyfleusterau presennol at ei gilydd a bydd yn ychwanegu galluoedd unigryw a fydd yn caniatáu datblygu a phrofi roboteg i raddfa wahanol. Bydd y cyfleuster hwn ar gael i sefydliadau ymchwil eraill a phartneriaid masnachol i brofi eu systemau mewn amodau gweithredol go iawn.

Dywedodd yr Athro Mariecia Fraser, Pennaeth Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran: “Rydym wrth ein boddau yn cael gweithio gyda Dr Labrosse a chydweithwyr ar y cyfleuster newydd cyffrous hwn. Mae’r tir yma ym Mhwllpeiran yn rhychwantu glaswelltir,  mawnog, creigiau a mwd, ac fe fydd yn sicr yn rhoi prawf ar y cerbydau arloesol newydd sy’n cael eu datblygu.”

Wrth greu'r cyfleuster hwn, nod Prifysgol Aberystwyth yw darparu cyrchfan profi nodedig ar gyfer cerbydau hunan-yrru a robotig. Bydd hyn yn annog cydweithio â phartneriaid yn y Brifysgol ac mewn diwydiant.

Ychwanegodd Dr Labrosse: "Rydym wedi bod yn profi ein halgorithmau a'n robotiaid yn y bryniau sydd y tu ôl i Aberystwyth ers tipyn bellach ac yn dangos pa mor gadarn yw ein systemau ni, ond bydd ANTUR yn creu llawer o bosibiliadau newydd megis caniatáu ffrydio data a delweddau yn fyw, yn ogystal â chynnig lefel o gysur nad oedd gennym erioed o'r blaen diolch i'r gweithdai yn y bryniau.

Mae'r cyfleusterau’n cael eu hariannu gan grant o £180,000 gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ac Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.