Gwyddonwyr Aberystwyth yn helpu i warchod taith ofod i’r blaned Iau rhag ymbelydredd eithafol

JUICE mewn cynhwysydd trafnidiaeth.

JUICE mewn cynhwysydd trafnidiaeth.

06 Ebrill 2023

Bydd taith ofod arloesol i astudio lleuadau’r blaned Iau yn cael ei gwarchod rhag peth o’r ymbelydredd llymaf yng Nghysawd yr Haul, diolch i gyfrifiadau gan ymchwilwyr Prifysgol Aberystwyth. 

Disgwylir i’r llong ofod Jupiter Icy Moons Explorer (JUICE) gychwyn ar ei thaith 390 miliwn o filltiroedd o Giana Ffrengig ar 13 Ebrill 2023. 

Ymhlith amcanion niferus y daith mae archwilio a allai bywyd fodoli ar dri o leuadau'r blaned - Ganymede, Callisto ac Europa. Credir fod cefnforoedd dwfn o ddŵr yn llechu o dan eu harwynebau rhewllyd. 

Mae disgwyl i’r llong ofod JUICE gyrraedd y blaned Iau erbyn 2031 a bydd yn treulio pedair blynedd yn arsylwi’r blaned a’i lleuadau. 

Y daith hon fydd y tro cyntaf erioed i long ofod hedfan mewn cylch o gwmpas lleuad heblaw'r Ddaear yn ogystal â newid orbit o blaned arall i un o'i lleuadau. 

Fodd bynnag, mae lefelau ymbelydredd amgylcheddau Iau a'i lleuadau ymhlith y mwyaf dwys yng Nghysawd yr Haul ac o’r herwydd, fe allai offerynnau electronig hanfodol llong ofod gael eu dinistrio o fewn dim.

I oresgyn yr her hon, bu’r Athro Manuel Grande, Pennaeth Ffiseg Cysawd yr Haul yn Adran Ffiseg Prifysgol Aberystwyth, yn arwain tîm fu’n gyfrifol am ddylunio a datblygu technoleg gwrth-ymbelydredd arloesol i warchod chwech offeryn ar y llong ofod.

Dywedodd yr Athro Grande, sydd wedi gweithio ar deithiau gofod blaenorol Asiantaeth Ofod Ewrop gan gynnwys yr holl blanedau a lleuadau rhwng Mercher a Sadwrn yn 2018: 

“Y brif her wrth ymweld â lleuadau rhewllyd Iau, yn enwedig Europa, yw’r amgylchedd ymbelydredd eithafol a fyddai’n ymyrryd ag offer y llong ofod. a llethu unrhyw ddarlleniadau. Mae dyluniad arloesol y tariannau amddiffyn, a ddyfeisiwyd yn Aberystwyth, yn ei gwneud hi'n bosibl osgoi effeithiau ymbelydredd ar ddarlleniadau’r offer a chaniatáu canfod a oes moleciwlau organig yn rhanbarth Europa, sef y safle mwyaf tebygol o bosib ar gyfer cynnal bywyd yng Nghysawd ein Haul ar ôl ein Daear ni.” 

Dan arweiniad yr Asiantaeth Ofod Ewropeaidd, daw taith €1.6bn JUICE â gwyddonwyr o 18 sefydliad ynghyd, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth. Ariennir yn rhannol gan Asiantaeth Ofod y DU.  

Dywedodd Dr Caroline Harper, Pennaeth Gwyddor Gofod yn Asiantaeth Ofod y DU:  

“Mae lansiad JUICE yn nodi blynyddoedd o waith caled a chydweithio gan wyddonwyr, peirianwyr ac asiantaethau gofod ledled y byd, ond mae’r daith ymhell o fod ar ben. 

“Rydym yn edrych ymlaen at ddilyn y llong ofod wrth iddi wneud ei thaith wyth mlynedd i’r blaned Iau ac yna wrth iddi astudio’r blaned a’i lleuadau, gan ddefnyddio offerynnau gwyddonol arbenigol a ddatblygwyd yn y DU. Mae gennym gymuned fawr o arbenigwyr ymchwil yn y DU sy’n aros yn eiddgar am y data a ddaw gan JUICE. Gyda’r wybodaeth hon rydym yn gobeithio darganfod mwy am natur cewri nwy yn y gofod, a’u lleuadau rhewllyd, gan ddod â ni gam arall yn nes at ddeall esblygiad y Bydysawd.”