Academyddion Aberystwyth yn ei throi hi am y Gelli

Gŵyl y Gelli 2022. Credyd: Adam Tatton-Reid

Gŵyl y Gelli 2022. Credyd: Adam Tatton-Reid

13 Ebrill 2023

Bydd academyddion o Brifysgol Aberystwyth yng Ngŵyl y Gelli eleni i arwain sgyrsiau ar sut rydym yn dychmygu'r tywyllwch, dysgu gwersi o hanes ffoaduriaid a mudwyr, a’r byd ar ôl y rhyfel yn Wcráin.

Bydd Gŵyl y Gelli, a gynhelir eleni rhwng y 25ain o Fai a’r 4ydd o Fehefin, yn cynnwys cyfraniadau gan bedwar academydd o Brifysgol Aberystwyth, yn rhan o bartneriaeth barhaus y Brifysgol â’r digwyddiad diwylliannol a llenyddol mawr ei fri.

Bydd Dr Andrea Hammel yn traddodi darlith o'r enw ‘Refugees and Migrants – Can history give us hope?’ Hefyd, bydd y darlithydd ysgrifennu creadigol, Dr Jacqueline Yallop, yn sôn am sut mae’r tywyllwch yn ysbrydoli ein dychymyg.  Bydd darlith Dr Jan Ruzicka yn gwahodd pobl i ystyried sut le fydd y byd ar ôl y rhyfel yn Wcráin, a bydd yr Athro Mererid Hopwood yn cynnal gweithdy am rythm iaith.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol: "Mae’r Brifysgol yn dathlu ei phen-blwydd yn 150 oed eleni, ac rydym wedi bod yn cynnal digwyddiadau i ddathlu cyfraniad unigryw'r sefydliad a'i threftadaeth academaidd ers 1872. Dros y degawdau, mae ein hacademyddion wedi cynnal ymchwil arloesol, ac rwy'n falch iawn y bydd ymchwilwyr Aberystwyth yn ennyn diddordeb y cynulleidfaoedd yn y Gelli â blas ar y gwaith eang ei gwmpas yn y Brifysgol sy'n ysgogi'r meddwl."

Manylion llawn y digwyddiadau

Bydd Dr Andrea Hammel yn traddodi darlith, ‘Refugees and Migrants – Can history give us hope?’, ddydd Mawrth, y 30ain o Fai am 1pm yn The Hive. Mae Dr Hammel, sy’n Ddarllenydd yn yr Adran Ieithoedd Modern ac yn Gyfarwyddwr y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn arwain prosiect o’r enw 'Ffoaduriaid yng Nghymru a ddihangodd rhag Sosialaeth Genedlaethol: Dysgu oddi wrth y Gorffennol i Lywio'r Dyfodol', a hi yw awdur Finding Refuge: Stories of the men, women and children who fled to Wales to escape the Nazis, a gyhoeddwyd gan Wasg Honno yn 2022.

Bydd ei hanerchiad yn bwrw golwg dros gymariaethau rhwng ffoaduriaid hanesyddol, fel y rhai a ddihangodd rhag Natsïaeth yn Ewrop a ffoaduriaid a mudwyr yr oes fodern. Bydd yn trafod y gwersi y gallwn ni eu dysgu o hanes a bydd yn ystyried a all archwilio naratifau hanesyddol roi gobaith i ni a'n galluogi i oresgyn yr heriau y mae ein cymdeithas, mudwyr a ffoaduriaid yn eu hwynebu.
Ar ôl y digwyddiad: Gwyliwch sgwrs Dr Andrea Hammel.

Dr Jacqueline Yallop yn traddodi darlith, 'Into the Dark: How we imagine and understand the dark around us’, ddydd Iau, y 1af o Fehefin am 7pm yn The Hive. Mae Dr Yallop yn dysgu rhyddiaith ac ysgrifennu creadigol yn yr Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, ac mae'n awdur dwy nofel a thri gwaith ffeithiol.

Bydd yn holi yn ei darlith sut brofiad yw bod mewn tywyllwch llwyr. Bydd yn ymchwilio i enigma tywyllwch ac yn ystyried sut mae gwyddoniaeth, celf, llenyddiaeth a seicoleg wedi llunio ein dealltwriaeth am y tywyllwch. Bydd yn ystyried sut mae ein dychymyg yn parhau i gael ei ysbrydoli gan y tywyllwch, a’i ystyr i ni, fel unigolion a chymdeithasau, ddoe a heddiw.
Ar ôl y digwyddiad: Gwrandewch ar sgwrs Dr Jacqueline Yallop

Ar ddydd Sul, y 4ydd o Fehefin am 1pm yn The Hive, bydd Dr Jan Ruzicka, Darlithydd Astudiaethau Diogelwch yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, yn cyflwyno darlith, ‘What will the world look like after the war in Ukraine?’

Bydd y ddarlith yn tynnu ar y gwrthgyferbyniad rhwng cynllunio ar gyfer y byd wedi'r Ail Ryfel Byd a diffyg cynllunio o'r fath ar ddiwedd y Rhyfel Oer. Bydd yn trafod sut olwg fydd ar y byd pan ddaw’r rhyfel yn Wcráin i ben, a bydd yn gofyn i'r gynulleidfa ddychmygu byd mwy diogel.
Ar ôl y digwyddiad: Gwrandewch ar sgrws Dr Jan Ruzicka

Yn ogystal â'r tair darlith, bydd Athro'r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ac enillydd Medal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli eleni, Mererid Hopwood, yn cyfrannu at y Rhaglen Ysgolion.

Bydd yn arwain gweithdy amlieithog i ddisgyblion Cyfnod Allweddol 2, Cerdd Iaith – Listening to Language. Bydd y gweithdy chwareus hwn yn canolbwyntio ar rythm geiriau a brawddegau gan gyflwyno tair neu bedair iaith i gyd ar yr un pryd. Bydd y disgyblion yn treulio peth amser yn dysgu ieithoedd newydd a sut i wrando'n ofalus ar rythm ac odl.

Mae Rhaglen lawn Gŵyl y Gelli 2023 ar gael ar-lein.