Mererid Hopwood yn ennill Medal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli

Yr Athro Mererid Hopwood

Yr Athro Mererid Hopwood

30 Mawrth 2023

Mererid Hopwood, Athro Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd wedi ennill Medal Farddoniaeth Gŵyl y Gelli eleni.

Dyfarnwyd Medalau’r Ŵyl yn flynyddol ers blwyddyn Olympaidd Prydain yn 2012, a’r ysbrydoliaeth iddynt yw’r fedal Olympaidd wreiddiol am farddoniaeth. Athena yw eu hawen, ac maent wedi'u saernïo gan y gof arian lleol, Christopher Hamilton.

Yn ymuno â'r Athro Hopwood am Fedalau Gŵyl y Gelli fydd yr awdur, darlunydd a sgriptiwr Alice Oseman (Medal am Ffuglen), y bardd roc o Wcráin Serhiy Zhadan (Medal am Ysgrifennu Caneuon) a'r nofelydd arobryn Salman Rushdie (Medal am Ryddiaith).

Meddai'r Athro Mererid Hopwood, a fydd yn derbyn ei Medal yn fyw ar lwyfan yr ŵyl:

“Wrth dderbyn y Fedal hon ac edrych yn ôl, mae llawer yr hoffwn i ddiolch iddynt am eu cefnogaeth o’r dyddiau cynnar. Yn eu plith mae’r cyfeillion yn Ysgol Farddol Caerfyrddin am y dysgu, cymdeithas y Talwrn am y gwrando, y myfyrwyr am eu brwdfrydedd a Peter Florence a Gŵyl y Gelli am eu hanogaeth. Gan edrych ymlaen, hoffwn fynegi fy ngobaith y bydd pawb ohonom sy’n llenydda yn dal ati i chwilio am y geiriau a all ein tynnu ynghyd mewn heddwch, yn hytrach na’r rhai sy’n ein gwthio ni ar wahân mewn rhyfel.”

Treuliodd Mererid Hopwood ei gyrfa yn gweu cysylltiadau rhwng iaith, llenyddiaeth, addysg, a'r celfyddydau.  Ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth yn Athro Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd fis Ionawr 2021, a hi yw ysgrifennydd yr Academi Heddwch.

Am ei barddoniaeth, mae hi wedi ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Cymru, gwobr Tir na n'Og, Coron a Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol, a gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru. Mae hi'n gyfrannwr rheolaidd yng Ngŵyl y Gelli, ac wedi cymryd rhan mewn gwyliau llenyddiaeth yn Ewrop, Asia a De America.

Cynhelir Gŵyl y Gelli 2023 rhwng 25 Mai–4 Mehefin yn y Gelli Gandryll.  Dywedodd Prif Weithredwr Gŵyl y Gelli, Julie Finch: 

“Cyflwynir Medalau Gŵyl y Gelli eleni i anrhydeddu gwaith eithriadol mewn barddoniaeth, ffuglen, ysgrifennu caneuon, a rhyddiaith wrth i ni ddathlu pedwar storïwr arloesol yng Ngŵyl y Gelli 2023. Mae rhifyn y gwanwyn hwn yn begwn o oleuni, yn symbol rhyngwladol o obaith i'r dychymyg cyfun, creadigol ac i ddyfodol gwell. Ymunwch â ni.”