Comisiynydd yn trafod rôl gwirfoddolwyr mewn taclo rhaniadau cymunedol

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Derek Walker

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Derek Walker

17 Ebrill 2023

Caiff cyfraniad mudiadau gwirfoddol at fynd i’r afael â pholareiddio mewn cymunedau lleol ei drafod gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn Aberystwyth fis nesaf.

Bydd academyddion Prifysgol Aberystwyth o Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yn cynnal symposiwm ar y cyd â phartneriaid o Rwydwaith Astudiaethau’r Sector Gwirfoddol ddydd Mercher 24 Mai yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Derek Walker, fydd y prif siaradwr yn y digwyddiad, sydd hefyd yn cael cefnogaeth gan Ganolfan Ddeialog newydd Prifysgol Aberystwyth.

Bydd Alison Goldsworthy, cyd-awdur Poles Apart: Why People Turn Against Each Other, and How to Bring Them Together (Random House Business, 2021), yn cynnig rhagolwg o’r gweithdy mae’n ei threfnu gyda WISERD ar fynd i’r afael â phegynnu yng Nghymru.

Bydd y siaradwyr yn trafod amrywiaeth eang o bynciau o gynhwysiant ac allgáu o fewn y sector cymunedol a gwirfoddol, pegynnu a gwrthdaro gwleidyddol yn y gymdeithas sifil leol, i'r rôl y mae sefydliadau cymunedol a gwirfoddol yn ei chwarae wrth atgyfnerthu neu wrthsefyll polareiddio.

Dywedodd yr Athro Michael Woods o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth:

“Mae gan grwpiau cymunedol ran allweddol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â gwrthdaro a pholareiddio o fewn ein cymunedau lleol ac mae’r digwyddiad hwn wedi’i gynllunio i drin a thrafod yr heriau hyn. Rydym yn gwahodd academyddion, ymarferwyr yn y sector gwirfoddol ac unrhyw un sydd â diddordeb yn y drafodaeth pegynnu yma i ymuno â ni. Rydyn ni’n croesawu deialog ac arbenigedd a byddwn yn defnyddio dulliau cynnwys cynhwysol a chyfranogol trwy gydol y dydd, gan roi theorïau ar waith wrth graffu ar sut i fynd i’r afael â rhaniadau o fewn ein cymuned.”

Wrth siarad cyn y digwyddiad, dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Derek Walker:

“Ein cymunedau a'n gwirfoddolwyr diflino sy'n gwneud Cymru heddiw yn genedl fechan ond nerthol. Er ein bod yn byw mewn Byd lle mae pegynnu ar gynnydd, yn economaidd ac yn gymdeithasol, mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn cydnabod pwysigrwydd cymunedau cydlynus i lesiant Cymru, ac yn rhoi'r offer i ni wrando, dysgu, ac yn bwysicaf oll, gweithredu i sicrhau bod cymunedau cyfartal, iach, ffyniannus ar draws Cymru'n cael eu cefnogi a'u dathlu.”

Am ragor o wybodaeth neu i archebu eich lle yn y digwyddiad, ewch i: https://cwps.aber.ac.uk/events/

Mae’r symposiwm yn rhan o brosiect ymchwil “Poblyddiaeth, Gwrthdaro a Phegynnu” yng  Nghanolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD, a ariennir gan gyngor ymchwil yr ESRC.