Llwyddiant i Aberystwyth yng ngwobrau Whatuni?

Aelodau staff Prifysgol Aberystwyth yn derbyn gwobr Bywyd Myfyrwyr yng ngwobrau Whatuni? 2023.

Aelodau staff Prifysgol Aberystwyth yn derbyn gwobr Bywyd Myfyrwyr yng ngwobrau Whatuni? 2023.

27 Ebrill 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill dwy wobr fawr yng ngwobrau Whatuni Student Choice Awards 2023 gafodd eu cynnal yn Llundain nos Fercher 26 Ebrill.

Cipiodd Aberystwyth y wobr gyntaf yn y categoriau Darlithwyr ac Ansawdd yr Addysg a Bywyd y Myfyrwyr mewn seremoni tei ddu dan arweinyddiaeth y digrifwr, actor ac awdur Ellie Taylor.

Derbyniodd Prifysgol Aberystwyth hefyd y drydedd wobr yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn, yr uchaf o blith prifysgolion Cymru.

Bellach yn eu degfed flwyddyn, derbyniodd gwobrau Whatuni Student Choice Awards 35,000 o adolygiadau wedi’u dilysu gan fyfyrwyr o fwy na 240 o sefydliadau addysg uwch ar draws y DU eleni.

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ddysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae hwn yn newyddion rhagorol ac yn gydnabyddiaeth haeddiannol iawn o ymroddiad cydweithwyr ar draws y sefydliad i ddarparu profiad o’r radd flaenaf i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r gwobrau hyn yn deillio o adolygiadau a ddarparwyd gan ein myfyrwyr presennol ac yn tanlinellu unwaith eto enw da Aberystwyth fel un o’r prifysgolion gorau yn y DU am brofiad myfyrwyr a rhagoriaeth addysgu.”

Roedd Aberystwyth ar y rhestr fer mewn pump o’r 12 categori a oedd yn rhan o wobrau Whatuni Student Choice Awards 2023, gyda Chyfleusterau a Neuaddau a Llety Myfyrwyr hefyd yn cael sylw.

Dywedodd Aisleen Sturrock, Llywydd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: “Rydym yn gwybod bod gan ein Prifysgol gymaint i fod yn falch ohono ac mae’r llwyddiant hyn yng ngwobrau Whatuni? yn haeddiannol iawn ac yn glod gwirioneddol i’n Prifysgol a staff Undeb y Myfyrwyr, arweinwyr myfyrwyr a'n holl fyfyrwyr yn gyffredinol. Rydym bob amser wrth ein bodd yn gweld cydnabyddiaeth o’r dysgu a’r addysgu yn y Brifysgol ac yn llongyfarch pawb ar draws y campws a thu hwnt am ddod yn drydydd yng nghategori Prifysgol y Flwyddyn hefyd. Da iawn pawb.”

Dywedodd Simon Emmett, Prif Swyddog Gweithredol IDP Connect, perchnogion Whatuni?: "Mae gwobrau Whatuni yn dathlu creadigrwydd, gwytnwch ac arloesedd o fewn addysg uwch. Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dangos hyn yn amlwg iawn, gan sicrhau’r gwobrau uchel eu parch Darlithwyr ac Ansawdd yr Addysgu a Bywyd Myfyrwyr yng ngwobrau Whatuni? eleni.

“Gyda’r heriau parhaus yn sgil y cynnydd mewn costau byw, rydym yn falch o ganolbwyntio ar yr holl bethau da y mae prifysgolion yn ei wneud a dathlu eu llwyddiannau.

"Llongyfarchiadau i'r enillwyr, a 'da iawn' enfawr i'n holl sefydliadau ar y rhestr fer a'r sector yn ei chyfanrwydd. Mae'r sgoriau eleni yn sylweddol uwch na'r blynyddoedd blaenorol, gan amlygu'r gwaith da sydd wedi ei wneud ar draws y sector. Rwy'n gobeithio y bydd y gwobrau'n amlygu ansawdd addysg a phrofiadau myfyrwyr ar draws ein sector eang ac amrywiol.

"Mae pob un o'n henillwyr a'n cystadleuwyr yn y rownd derfynol wedi mynd gam ymhellach er mwyn effeithio’n gadarnhaol ar brofiadau prifysgol myfyrwyr. Mae'r gwobrau hyn yn arddangos ansawdd addysg uwch yn y DU a'i chreadigrwydd, ei gwytnwch a'i harloesedd."

Dangosodd yr Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr diweddaraf, a ryddhawyd ym mis Gorffennaf 2022, fod Prifysgol Aberystwyth ar y brig yng Nghymru a Lloegr am foddhad cyffredinol myfyrwyr, ar sail y prifysgolion a gafodd eu cynnwys yn rhifyn 2022 The Times / Sunday Times Good University Guide.

Roedd Aberystwyth hefyd ar frig y tablau yng Nghymru ac yn drydydd yn y DU am Brofiad Myfyrwyr ac Ansawdd yr Addysgu yn rhifyn 2023 The Times & Sunday Times Good University Guide.