Prifysgol Aberystwyth yn datblygu meddalwedd i gynorthwyo i drin dioddefwyr trawma

Dr Ola Olusanya

Dr Ola Olusanya

19 Mehefin 2023

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi arwain prosiect i ddatblygu meddalwedd i gynorthwyo gwahanol sefydliadau i rannu gwybodaeth am gyn-filwyr ac eraill fel nad oes rhaid iddynt drafod eu trawma dro ar ôl tro.

Mae Auxilium yn ateb ar ffurf meddalwedd a ddatblygwyd yn gyntaf ar gyfer prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr, sy'n cynorthwyo i roi cyngor cyfreithiol a gwasanaethau cymorth arbenigol am ddim i gyn-filwyr ledled y Deyrnas Unedig. Cafodd y feddalwedd ei hadeiladu gan dîm amlddisgyblaethol dan arweiniad Dr Ola Olusanya o Adran y Gyfraith a Throseddeg gyda chefnogaeth adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi Prifysgol Aberystwyth a chyllid gan y Loteri Genedlaethol.

Mae'r feddalwedd yn dod â chleientiaid ac ymarferwyr ynghyd mewn un lle, gan ganiatáu cyfathrebu ac atgyfeirio rhwydd rhwng sefydliadau sy’n bartneriaid i’w gilydd. Gyda'u caniatâd, gall defnyddwyr gael y cymorth sydd ei angen arnynt heb orfod disgrifio profiad trallodus bob tro y byddant yn gofyn am gymorth.

Yn ôl Dr Olusanya: "Fel llawer o sefydliadau cymorth bach eraill, nid oedd gan Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr system reoli data, ac roedd yn dibynnu ar gofnodion papur, gan olygu bod dadansoddi data yn hynod o heriol. Roeddem hefyd, fel arfer, yn cyfeirio ein defnyddwyr gwasanaeth dros y ffôn neu drwy e-bost neu lythyr, felly roedd yn rhaid i ni ddibynnu ar y cyn-filwyr i gadw cofnod o’u presenoldeb eu hunain. Roedd hon yn ffordd feichus ac aneffeithlon o gasglu data, ac yn sgil y sgyrsiau a gawsom gydag elusennau eraill fe welsom fod y problemau hyn yn rhai cyffredin."

Mae'r feddalwedd yn gweithio trwy gyfuno system rheoli achosion, system rheoli atgyfeirio a system rheoli’r berthynas â chwsmeriaid.

Ychwanegodd Dr Olusanya: "Gall ymweld drachefn â phrofiadau trawmatig esgor ar ymateb a pheri straen mawr i'r rhai sy'n cymryd rhan. Gall achosi loes mawr ac arwain at fwy o drawma, hyd yn oed. Gobeithiwn y bydd Auxilium, trwy gysylltu sefydliadau sy'n gallu rhannu'r un wybodaeth, yn golygu y bydd y rhai sydd â phroblemau cymhleth yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt."

Dywedodd Rheolwr y Prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr, Simon Marshall: "Pan aethom ati i ddatblygu Auxilium ar gyfer Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr nid oeddem yn disgwyl cael ymateb mor gadarnhaol gan y sefydliadau sy’n bartneriaid inni. Daeth yn amlwg bod llawer ohonynt hwythau hefyd angen meddalwedd tebyg ar gyfer eu gwaith eu hunain. Ar sail yr adborth hwn aethom ati i sicrhau bod y feddalwedd ar gael i eraill, a chafodd brand Auxilium ei greu.”

Mae rhagor o wybodaeth am Auxilium ar gael ar www.auxiliumsoftware.co.uk