Hwb hanner miliwn i ymchwil cnydau deallusrwydd artiffisial yn Aberystwyth 

Miscanthus yng nghaeau Prifysgol Aberystwyth

Miscanthus yng nghaeau Prifysgol Aberystwyth

22 Mehefin 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn hwb o hanner miliwn o bunnau gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ar gyfer ymchwil i swyddogaeth deallusrwydd artiffisial mewn bridio cnydau.  

Mae’r prosiect, sy’n cael ei arwain gan wyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, yn edrych ar sut mae’r dechnoleg yn gallu dethol y mathau gorau o fiscanthus i helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd.

Mae’r gwaith yn rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth miliynau o bunnoedd i ddatblygu ymchwil deallusrwydd artiffisial dibynadwy a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Wyddoniaeth, Arloesedd a Thechnoleg y Deyrnas Gyfunol Chloe Smith.

Mae miscanthus yn blanhigyn gyda choesyn sy’n debyg i wellt ac yn tyfu hyd at bedair metr o uchder mewn blwyddyn. Caiff ei gynaeafu yn y gwanwyn ac mae’n tyfu rhisom sydd yn y ddaear dros y gaeag ac yn  cynhyrchu cnwd blynyddol.

Gall dyfu yn dda ar dir sydd yn llai addas ar gyfer cnydau bwyd, ac fel arfer defnyddir y cnwd ar gyfer bio-ynni, sef gwres a phŵer.   Yn ogystal gellir ei ddefnyddio ar gyfer adeiladu, ar gyfer y diwydiant cynhyrchu gwyrdd ac fel gwely ar anifeiliaid mewn ffermio da byw.

Dywedodd yr Athro John Doonan o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’n anrhydedd fawr derbyn cymorth o’r fenter hon - dim ond nifer dethol o brifysgolion sydd wedi elwa o’r buddsoddiad. Mae’n tanlinellu pwysigrwydd ein hymchwil yma yn Aberystwyth nid yn unig yn lleol ond yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. 

“Mae angen i'r Deyrnas Gyfunol a’r byd leihau allyriadau CO2 er mwyn lliniaru newid yn yr hinsawdd, felly mae’n rhaid i ni  hefyd ddatblygu ein heconomi i fanteisio ar dechnolegau gwyrdd yn hytrach na dibynnu ar danwydd ffosil. Bydd manteisio ar ddeallusrwydd artiffisial i fridio cnydau bio-ynni yn rhan sylweddol o’r ateb.”

Dywedodd yr Ysgrifennydd Technoleg y Deyrnas Gyfunol Chloe Smith:

“Er gwaethaf ein maint fel cenedl ynys fach, mae’r Deyrnas Gyfunol yn bwerdy technoleg. Y llynedd, y Deyrnas Gyfunol oedd y drydedd wlad yn y byd i fod â sector technoleg gwerth $1 triliwn. Dyma'r mwyaf yn Ewrop o bell ffordd ac ar ôl yr Unol Daleithiau a Tsieina yn unig yn fyd-eang. 

“Fodd bynnag, mae’r dirwedd dechnoleg yn esblygu’n barhaus, ac mae angen ecosystem dechnoleg arnom sy’n gallu ymateb i’r newidiadau hynny, harneisio cyfleoedd, a mynd i’r afael â heriau sy’n dod i’r amlwg. Bydd y mesurau a gafodd eu cyhoeddi heddiw [14 Mehefin] yn gwneud yn union hynny.

“Rydyn ni’n buddsoddi yn ein llif talent deallusrwydd artiffisial gyda phecyn gwerth £54 miliwn i ddatblygu deallusrwydd artiffisial dibynadwy a diogel, a chamu ymlaen fel arweinydd byd-eang mewn technoleg nawr, ac yn y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd yr Athro Fonesig Ottoline Leyser, Prif Weithredwr Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Gyfunol (UKRI): 

“Mae UKRI yn buddsoddi yn y bobl a’r technolegau a fydd yn gwella bywydau pobl yn y DU ac o gwmpas y byd. Drwy gefnogi ymchwil i ddatblygu deallusrwydd artiffisial sy'n ddefnyddiol, yn ddibynadwy ac yn ddibynadwy, rydym yn gosod sylfeini cadarn y gallwn adeiladu diwydiannau, cynnyrch a gwasanaethau newydd ar draws ystod eang o feysydd. 

“Drwy weithio mewn partneriaethau trawsddisgyblaethol byddwn yn sicrhau bod arloesedd cyfrifol yn cael ei integreiddio ar draws pob agwedd o’r gwaith wrth iddo fynd yn ei flaen.”        

Mae’r prosiect a arweinir gan Brifysgol Aberystwyth sy’n derbyn arian gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cynnwys academyddion o brifysgolion Lincoln a Southampton yn ogystal.