Hwb i ymchwil trafnidiaeth gyda phartneriaeth rhwng Aberystwyth a De Korea

Yr Athro Inseop Shin a’r Athro Peter Merriman gyda’r Memorandwm o Ddealltwriaeth a lofnodwyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Konkuk

Yr Athro Inseop Shin a’r Athro Peter Merriman gyda’r Memorandwm o Ddealltwriaeth a lofnodwyd rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Konkuk

10 Gorffennaf 2023

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi croesawu partneriaeth newydd gyda Phrifysgol Konkuk yn Ne Korea fel hwb mawr i’w hymchwil trafnidiaeth a symudedd.

Fel rhan o’r partneriaeth, bydd y ddau sefydliad yn cyfnewid ysgolheigion a deunydd academaidd yn ogystal â chynnal rhaglenni ymchwil ar y cyd.

Mae’r cytundeb newydd yn adeiladu ar gysylltiadau rhwng Academi’r Dyniaethau Symudedd ym Mhrifysgol Konkuk a’r Ganolfan Trafnidiaeth a Symudedd (CeTraM) ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Cafodd y Memorandwm o Ddealltwriaeth ei lofnodi gan yr Athro Peter Merriman a’r Athro Colin McInnes ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth gyda’r Athro Inseop Shin o Brifysgol Konkuk.

Dywedodd yr Athro Colin McInnes, Dirprwy Is-Ganghellor Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesedd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’n bleser arwyddo’r memorandwm newydd hwn sy’n adeiladu ar y berthynas ymchwil hir sefydlog rhwng ein dau sefydliad. Bydd y cydweithio hyn yn gwneud cyfraniad pwysig i feysydd ymchwil trafnidiaeth a symudedd, sydd ymhlith prif gryfderau academaidd y naill sefydliad a’r llall.”

“Mae’r bartneriaeth hon yn adeiladu ar yr ymchwil ac addysgu o'r radd flaenaf yma gan arbenigwyr sy’n flaenllaw yn eu meysydd, ac yn esgor ar newidiadau cadarnhaol yn lleol ac yn rhyngwladol.”

Dywedodd yr Athro Donghyuck Lee, Is-Lywydd dros Faterion Rhyngwladol ym Mhrifysgol Konkuk yn Seoul:

“Rydym ni’n falch iawn o feithrin cysylltiadau agosach fyth gyda’n partneriaid ym Mhrifysgol Aberystwyth wrth i ni gydweithio ar ymchwil arloesol. Mae hyn yn gyfle cyffrous iawn i gyfnewid ymchwil ac arbenigedd.”