Cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Diwtor Dysgu Cymraeg

Helen Prosser

Helen Prosser

18 Gorffennaf 2023

Mae Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth.

Ganwyd a magwyd Helen Prosser yn Nhonyrefail.  Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae Helen yn ddiolchgar iawn i’r Brifysgol am feithrin ynddi yr angerdd i ddysgu’r Gymraeg i eraill.

Mae wedi treulio ei gyrfa gyfan yn dysgu’r Gymraeg i Oedolion - ym Mhrifysgol Abertawe, CBAC, Prifysgol Caerdydd  a Phrifysgol De Cymru.

Erbyn hyn, mae’n gweithio fel Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Helen wedi’i phenodi’n Gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ac mae’n edrych ymlaen at flwyddyn brysur iawn wrth i’r ardal baratoi i groesawu’r Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf ers 1956.

Cyflwynwyd Helen Prosser fel Cymrawd er Anrhydedd gan Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol yn Prifysgol Aberystwyth, ar ddydd Mawrth 18 Gorffennaf 2023.

Mae’r cyflwyniad llawn ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyno Helen Prosser gan Dr Rhodri Llwyd Morgan:

Dirprwy Ganghellor, Dirprwy Is-Ganghellor, graddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Helen Prosser yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Pro-Chancellor, Pro Vice-Chancellor, graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Helen Prosser as a Fellow of Aberystwyth University.

Eilydd ydw i heddiw i Siôn Meredith, Pennaeth Dysgu Cymraeg y rhanbarth ac a fyddai wedi bod wrth ei fodd gyda’r gorchwyl hwn ond yn anffodus yn methu bod yma.

Ganwyd a magwyd Helen Prosser yn Nhonyrefail ac aeth i Ysgol Gyfun Tonyrefail lle astudiodd y Gymraeg hyd at bwnc Safon Uwch Ail Iaith. Ym Mhrifysgol Aberystwyth daeth y cyfle i ddatblygu ei Chymraeg a chychwyn ar daith sydd wedi llywio ei bywyd. Tra’n astudio’r Gymraeg yn y brifysgol, bu’n weithgar gyda Chymdeithas Llywelyn, y gymdeithas ar gyfer myfyrwyr oedd eisiau helpu myfyrwyr eraill i ddysgu’r Gymraeg. Bu’n weithgar hefyd gyda llawer o achosion, gan gynnwys ymgyrchu’n frwd ac yn ddewr gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Cafodd ei blas cyntaf ar ddysgu swyddogol tra yn y brifysgol trwy ddysgu ar gwrs haf Prifysgol Cymru yn Llanbedr Pont Steffan. Mae wedi treulio ei gyrfa gyfan – 40 mlynedd ac yn cyfri – yn dysgu’r Gymraeg i Oedolion: ym Mhrifysgol Abertawe, CBAC, Prifysgol Caerdydd  a Phrifysgol De Cymru. Erbyn hyn, mae’n gweithio fel Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Helen yn dal i fyw yn Nhonyrefail gyda’i gŵr, Danny. Mae ganddynt ddau o blant, sef Fflur a Gwynfor. Mae Helen yn ddiarhebol o brysur ac mae’r 12 mis nesaf yn flwyddyn fawr gan mai hi yw Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2024.

Helen Prosser is Director of Learning and Teaching at the National Centre for Learning Welsh and has dedicated the entirety of her 40-year career to teaching Welsh to adults.  She loves Welsh learners.  Her dedication and inspirational Leadership was recognised in 2018 at the ‘Leading Wales Awards’, held in association with the Institute of Leadership and Management, where she was presented the ‘Women in Leadership’ Award.  Quite an accolade.  And ironic too since her former line manager said to me last week that she was impossible to manage.  She also told that Helen had the knack of appearing to be collaborative and inclusive but went off instead and did all the work herself.

Hi sy’n arwain hyfforddi tiwtoriaid Cymraeg yn genedlaethol, rhyw 650 ohonynt.  Hi hefyd sydd wedi arwain datblygu’r cynllun ‘Siarad’ sy’n cefnogi dysgwyr.  A hi yw prif bensaer y Cwricwlwm Dysgu Cymraeg cenedlaethol ac awdur pennaf yr holl gwrs-lyfrau ar bob lefel.

Helen, rwyt ti yn ysbrydoliaeth, mae mor syml â hynny.

Dirprwy Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Helen Prosser i chi yn Gymrawd. 

Pro Chancellor, it is my absolute pleasure to present Helen Prosser to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Yr Athro Colin McInnes, Helen Prosser a Dr Rhodri Llwyd Morgan

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2023

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn dyfarnu Graddau er Anrhydedd i nifer fach o unigolion nodedig er mwyn cydnabod eu cyflawniad a’u cyfraniad rhagorol.

Mae gwobrau Prifysgol Aberystwyth yn dathlu unigolion sydd â gwreiddiau neu gysylltiadau yn yr ardal, ac sydd naill ai: wedi gwneud cyfraniad eithriadol ac arbennig i ddatblygiad y Brifysgol dros gyfnod maith; wedi ennill cydnabyddiaeth am ragoriaeth genedlaethol neu ryngwladol mewn maes academaidd sy’n berthnasol i’r Brifysgol; neu wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r byd diwylliannol, academaidd, addysgol, proffesiynol, neu economaidd.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2023 (yn y drefn y’u cyflwynir):

  • Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Tina Evans, awdur blogiau ac areithwraig lawn ysbrydoliaeth 'Human on Wheels', a chyflwynydd teledu
  • Ben Thompson, Rhaglennydd Ffilmiau Byrion yng Ngŵyl Tribeca, Efrog Newydd
  • Ann Griffith, Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol 2022
  • Yr Athro Dato' Dr Rahmat Mohamad, Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Dechnolegol MARA, Malaysia
  • Kate O'Sullivan, milfeddyg gyda Mill Referrals, Cyfarwyddwr Milfeddygon Ystwyth a gwirfoddolwr gyda Chymdeithas Filfeddygol Anifeiliaid Bach Prydain
  • Phil Thomas, milfeddyg, Cyfarwyddwr Milfeddygon Ystwyth a Chyfarwyddwr Iechyd Da
  • Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn ohebydd pêl-droed BBC Cymru.