Cymrodoriaeth er Anrhydedd i filfeddyg adnabyddus, Dr Kate O’Sullivan

Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Dr Kate O’Sullivan

Dr Emyr Roberts, Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Dr Kate O’Sullivan

20 Gorffennaf 2023

Mae Cyfarwyddwr Milfeddygfa Ystwyth yn Aberystwyth, Dr Kate O’Sullivan, wedi’i gwneud yn Gymrawd er Anrhydedd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ganed Kate O'Sullivan yn Lurgan yn Swydd Armagh, a graddiodd gyda gradd Baglor mewn Milfeddygaeth o Goleg Prifysgol Dulyn ym 1988.

Roedd ei swydd gyntaf fel milfeddyg yn Llandeilo, lle dysgodd Gymraeg. 

Yna treuliodd dair blynedd yn gwirfoddoli gyda Gweinyddiaeth Amaethyddiaeth Cambodia drwy’r Gwasanaethau Gwirfoddol Dramor. 

Ar ôl dychwelyd, astudiodd yng Nghanolfan Milfeddygaeth Drofannol Prifysgol Caeredin.

Ym 1997, symudodd i Aberystwyth a dechreuodd weithio ym maes milfeddygaeth anifeiliaid bach a mawr ym Milfeddygfa Ystwyth, lle’r aeth ymlaen i fod yn gyfarwyddwr, gan gyfuno hyn â magu pedwar o blant.

Mae hi wedi cymryd rhan mewn cyfresi teledu milfeddygol megis Y Fet a Fi ac Y Fets ar gyfer S4C.

Mae Kate bellach yn gweithio fel milfeddyg amser-llawn, yn darparu gwasanaethau a gynigir gan Mill Referrals, wedi'i lleoli ym Milfeddygfa Ystwyth.

Mae hi wedi dysgu ar wahanol gyrsiau yn y Brifysgol, yn fwyaf diweddar i'r israddedigion Milfeddygaeth. Yn ei rôl fel gwirfoddolwr gyda Chymdeithas Milfeddygaeth Anifeiliaid Bach Prydain, mae hi hefyd wedi helpu i drefnu cynadleddau Vets Cymru a gynhelir yn y Brifysgol. 

Cyflwynwyd Dr Kate O’Sullivan fel Cymrawd er Anrhydedd gan Sharon King, Darlithydd mewn Gwyddor Milfeddygol yn Adran Gwyddorau Bywyd, ddydd Iau 20 Gorffennaf 2023.

Mae’r cyflwyniad llawn ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyno Dr Kate O’Sullivan gan Sharon King:

Cadeirydd y Cyngor, Dirprwy Is-Ganghellor,  graddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Kate O’Sullivan yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Chair of Council, Pro Vice-Chancellor, graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Kate O’Sullivan as a Fellow of Aberystwyth University.

Cafodd Kate O'Sullivan ei geni, ei magu a'i haddysgu yn Lurgan, Swydd Armagh, Gogledd Iwerddon, cyn iddi raddio o Goleg Prifysgol Dulyn gyda gradd meddygaeth filfeddygol MVB ym 1988. Ar ôl graddio, mentrodd ar draws y dŵr i Gymru a dechrau gweithio yn Llandelio lle bu'n gweithio mewn practis anifeiliaid cymysg a ble bu iddi gyfarfod â'i darpar ŵr, Phil. Yma, fe ddysgodd Gymraeg, a dywedir wrthyf mai gyda chymorth Phil, fe gyrhaeddodd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 1991.

Between 1991 and 1994 she worked as a Voluntary Service Office (VSO) with the Cambodian Ministry of Agriculture, working to develop veterinary services in Battambang, one of the Cambodian western provinces. On her return to the UK, she studied at the Centre of Tropical Veterinary Medicine at the University of Edinburgh, before going on to help teach on that course.

Yn 1996, dychwelodd Kate i weithio mewn milfeddygfa gymysg, gydag Aberystwyth yn dod yn gartref iddi ers 1997, ac Ystwyth Vets yn dod yn gartref proffesiynol iddi lle mae wedi dod yn gyfarwyddwr ers hynny. Yn ystod yr adeg hon y cwrddais i â Kate am y tro cyntaf, fi fel myfyriwr milfeddygol brwdfrydig a Kate fel y mentor a'r athrawes brofiadol, pwyllog. Gallwn adrodd hanes y nifer anturiaethau a gawsom wrth deithio ffyrdd Gogledd Ceredigion yn trin gwahanol anifeiliaid fferm ond nid wyf am godi cywilydd ar yr un o’r ddwy ohonom ar y llwyfan hwn!

Kate has successfully juggled a prominent veterinary career with raising 4 children with her husband Phil, achieving a Certificate in Small Animal Surgery in 2004 and entering the RCVS register as an Advanced Practitioner in Small Animal Surgery. Up until last year she was the president of the Welsh Branch of the British Small Animal Veterinary Association and heavily involved with the Wales Veterinary Science Centre in organising the Vets Cymru Conference that was held here at Aberystwyth University in 2019 and 2022.

Yn ogystal a bod yn fabolgampwraig brwd, yn cynrychioli Cymru mewn trywyddu, ac yn aml yn rhedeg i fyny Cader Idris ar doriad gwawr cyn dechrau gwaith am 9.00 am, mae hi'n dipyn o seleb teledu ar ôl cymryd rhan mewn amryw gyfresi teledu fel 'Y Fet a Fi' ac 'Y Fets' i S4C, cyfres pry ar wal yn dangos uchafbwyntiau a digalondid bywyd go iawn milfeddyg yng nghefn gwlad canolbarth Cymru.

Lately Kate has transitioned from being a mixed practitioner to full-time surgeon, having taken on the services offered by Mill Referrals based within Ystwyth Vets accepting varied referral surgical cases from across Wales. She has also taught on varied University courses over the years and most recently for the veterinary science undergraduates at the Aberystwyth School of Veterinary Science. Kate’s passion for her profession is undeniable and her desire to continue challenging herself and others admirable.

Cadeirydd y Cyngor, mae’n bleser gen i gyflwyno Kate O’Sullivan i chi yn Gymrawd. 

Chair of Council, it is my absolute pleasure to present Kate O‘Sullivan to you as a Fellow of Aberystwyth University.

Yr Athro Neil Glasser (Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Ddaear a Bywyd), Dr Kate O'Sullivan (Cymrawd Anrhydeddus), Dr Emyr Roberts (Cadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth)

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2023

Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn dyfarnu Graddau er Anrhydedd i nifer fach o unigolion nodedig er mwyn cydnabod eu cyflawniad a’u cyfraniad rhagorol.

Mae gwobrau Prifysgol Aberystwyth yn dathlu unigolion sydd â gwreiddiau neu gysylltiadau yn yr ardal, ac sydd naill ai: wedi gwneud cyfraniad eithriadol ac arbennig i ddatblygiad y Brifysgol dros gyfnod maith; wedi ennill cydnabyddiaeth am ragoriaeth genedlaethol neu ryngwladol mewn maes academaidd sy’n berthnasol i’r Brifysgol; neu wedi gwneud cyfraniad sylweddol i’r byd diwylliannol, academaidd, addysgol, proffesiynol, neu economaidd.

Dyma Gymrodyr er Anrhydedd 2023 (yn y drefn y’u cyflwynir):

  • Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol
  • Tina Evans, awdur blogiau ac areithwraig lawn ysbrydoliaeth 'Human on Wheels', a chyflwynydd teledu
  • Ben Thompson, Rhaglennydd Ffilmiau Byrion yng Ngŵyl Tribeca, Efrog Newydd
  • Ann Griffith, Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol 2022
  • Yr Athro Dato' Dr Rahmat Mohamad, Athro yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Dechnolegol MARA, Malaysia
  • Kate O'Sullivan, milfeddyg gyda Mill Referrals, Cyfarwyddwr Milfeddygon Ystwyth a gwirfoddolwr gyda Chymdeithas Filfeddygol Anifeiliaid Bach Prydain
  • Phil Thomas, milfeddyg, Cyfarwyddwr Milfeddygon Ystwyth a Chyfarwyddwr Iechyd Da
  • Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cysylltiadau Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru a chyn ohebydd pêl-droed BBC Cymru.