Darlith Goffa EH Carr 2023 - 'Thinking with the Enemy'

28 Medi 2023

Bydd ysgolhaig blaenllaw ym maes cysylltiadau rhyngwladol, yr Athro Kimberly Hutchings, yn traddodi Darlith Goffa Flynyddol EH Carr 2023 am 6.30pm ddydd Mawrth 10 Hydref ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae Darlith Goffa EH Carr bellach yn cael ei hystyried yn eang yn un o'r cyfresi o ddarlithoedd mwyaf nodedig ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol. 

Mae’r ddarlith gyhoeddus, ‘Thinking with the Enemy: critique is dead but it won’t lie down’, yn ystyried y ffyrdd y mae gwladychiaeth Ewropeaidd yn dal i lunio ein patrymau meddwl. A all safbwyntiau o Dde’r Byd a meddylfryd brodorol, er enghraifft, ddarparu ymatebion ffrwythlon i'r cyfyng-gyngor hwn? Mae'r ddarlith yn mynd i'r afael â'r cwestiwn dyrys hwn.

Mae Kimberley Hutchings yn Athro Gwleidyddiaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol yn Queen Mary, Prifysgol Llundain. Mae'n ymdrin â chwestiynau cyfoes pwysig ym maes gwleidyddiaeth ryngwladol yn ymwneud â rhyfel cyfiawn, trais, anghydraddoldeb, rhywedd a dad-drefedigaethu.

Mae hi wedi derbyn nifer o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol am ei chyfraniadau nodedig i astudiaethau gwleidyddiaeth ryngwladol a'r gwyddorau cymdeithasol, gan gynnwys Gwobr Syr Isaiah Berlin am gyfraniad proffesiynol eithriadol gydol oes i Astudiaethau Gwleidyddol yn gynharach eleni.

Wrth siarad am y ddarlith arfaethedig, dywedodd yr Athro Mustapha Pasha, Cyfarwyddwr Ymchwil yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol:

"Yr Athro Kimberly Hutchings yw'r meddyliwr mwyaf blaenllaw yn y maes, ac mae darlith Carr eleni yn cynnig cyfle gwych i gyfoethogi ein dealltwriaeth o gysylltiadau rhyngwladol."

Noddir y ddarlith gan y cyfnodolyn International Relations a'i gyhoeddwr Sage, yn ogystal â Sefydliad Coffa David Davies (DDMI).

Cynhelir y ddarlith gyhoeddus, ‘Thinking with the Enemy: critique is dead but it won’t lie down’ am 6.30pm ddydd Mawrth 10 Hydref ym Mhrif Neuadd yr Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar Gampws Penglais. Cyn y ddarlith, bydd derbyniad croeso am 6pm. Croeso i bawb.