Hwb ariannol i brosiect cymorth cyfreithiol i gyn-filwyr

Dr Ola Olusanya, Darllenydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg a Sylfaenydd a Phrif Ymchwilydd (Cyfarwyddwr) prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr.

Dr Ola Olusanya, Darllenydd yn Adran y Gyfraith a Throseddeg a Sylfaenydd a Phrif Ymchwilydd (Cyfarwyddwr) prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr.

02 Hydref 2023

Mae un o brosiectau Prifysgol Aberystwyth sy'n darparu cymorth cyfreithiol yn rhad ac am ddim i gyn-filwyr wedi derbyn rhagor o gyllid gwerth £499,885 dros 3 blynedd oddi wrth Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Yn rhan o Adran y Gyfraith a Throseddeg, fe sefydlwyd Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yn 2015.  Mae'r prosiect yn cynnig cymorth cyfreithiol, cyngor, a chyfeiriadau at arbenigwyr ar gyfer cyn-aelodau o’r lluoedd arfog a'u teuluoedd.

Dywedodd Dr Ola Olusanya o Adran y Gyfraith a Throseddeg, sy'n arwain y prosiect:

"Rwy wrth fy modd bod prosiect Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr wedi derbyn tair blynedd arall o gyllid gan y Loteri Genedlaethol. Bydd hyn yn golygu y gallwn gynyddu’r gefnogaeth a ddarparwn i gyn-filwyr a'u teuluoedd.

"Mae'r prosiect hwn - y cyntaf o'i fath - yn cael effaith sylweddol ar fywydau pobl sydd ymhlith y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas. Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelsom fwyfwy o alw am gyngor cyfreithiol, yn enwedig ym meysydd troseddol, teulu a phlant, cyflogaeth ac ymgyfreitha sifil cyffredinol. Mae gan y rhan fwyaf sy’n defnyddio’r gwasanaeth gymysgedd o anghenion cymhleth, gan gynnwys cymorth iechyd meddwl, anghenion tai a phroblemau â pherthynas, a does dim hawl gan lawer ohonynt i gael cymorth cyfreithiol i'w helpu â'u problemau cyfreithiol.

"Ar hyn o bryd ymchwiliwn i'r effaith y mae’r gallu i ddefnyddio gwasanaethau cyfreithiol yn ei chael ar les seicolegol cyn-filwyr. Bwriadwn gyhoeddi canlyniadau’r gwaith hwn yn 2024."

Yn gynharach eleni, lansiodd y prosiect Auxilium sef llwyfan ar-lein unswydd sy'n dod â chleientiaid ac ymarferwyr ynghyd mewn un lle, sy’n hwyluso cyfathrebu a chyfeiriadau at sefydliadau partneriaethol, gwasanaethau ac elusennau. Mae'r porth meddalwedd, a gyd-ddyluniwyd â defnyddwyr y gwasanaeth, wedi lleihau costau a gwella’r effeithlonrwydd, ac wedi creu gwasanaeth mwy cyfannol ac amlbwrpas, wedi'i deilwra at gyn-filwyr a'u teuluoedd.

Dywedodd Rob Roffe, Pennaeth rhanbarth Canolbarth a’r Gorllewin yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: 

“Llongyfarchiadau i Brifysgol Aberystwyth a wnaeth gais llwyddiannus am grant o bron i hanner miliwn i gefnogi Cyn-filwyr sy'n byw yng Nghymru am y tair blynedd nesaf.   Mae grantiau'n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy'n codi dros £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da fel Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr.   Dros dair blynedd, bydd y grŵp yn cynnig cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim, gwasanaeth cyfeirio arbenigol, gwaith achos ac eiriolaeth i helpu i wella bywydau cyn-filwyr yng Nghymru." 

Mae Cyswllt Cyfreithiol Cyn-filwyr yn gweithio gyda 40 o sefydliadau partneriaethol ledled Cymru a'r DU, gan gynnwys y Lleng Brydeinig Frenhinol, Help for Heroes, GIG Cymru i Gyn-Filwyr, Alabaré Christian Care & Support, Woody's Lodge, Byddin yr Iachawdwriaeth, a Chymdeithas y Milwyr, y Morwyr, yr Awyrenwyr a’u Teuluoedd (SSAFA).

Yn 2020, derbyniodd y prosiect grant gwerth £498,392 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.  Cyn hynny, derbyniodd £45,800 gan y Lleng Brydeinig Frenhinol yn 2019, ac yn 2016 dyfarnwyd £20,000 iddo gan Gronfa Cyfamod Lluoedd Arfog y Weinyddiaeth Amddiffyn a £5,000 drwy Ddyfarniadau'r Loteri Genedlaethol i Gymru Gyfan.