Gwobrau rhagoriaeth am effaith ymchwil ar bolisïau byd-eang

Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Gwobr Effaith Ymchwil Eithriadol i’r Athro Ryszard Piotrwicz.

Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Gwobr Effaith Ymchwil Eithriadol i’r Athro Ryszard Piotrwicz.

25 Hydref 2023

Mae gwaith arloesol gan ddau ymchwilydd ym meysydd bioamrywiaeth fyd-eang a rheoleiddio masnachu mewn pobl wedi cael cydnabyddiaeth arbennig.

Cyflwynwyd Gwobr flynyddol Prifysgol Aberystwyth am Effaith Eithriadol yn y Celfyddydau a Gwyddorau Cymdeithasol i’r Athro Ryszard Piotrowicz o Adran y Gyfraith a Throseddeg am safon rhagorol ei waith ar ddeddfwriaeth a pholisïau rheoleiddio masnachu mewn pobl, yn ystod dathliadau Diwrnod Sylfaenwyr ddydd Gwener 13 Hydref.

Cyflwynwyd y Wobr am Ymchwil Effaith Eithriadol yn y Gwyddorau i Michael Christie, Athro Economeg Amgylcheddol ac Ecolegol yn Ysgol Fusnes Aberystwyth, am ei gyfraniad at adroddiad nodedig a luniwyd ar gyfer y Llwyfan Polisi Gwyddoniaeth-Rynglywodraethol ar Fioamrywiaeth a Gwasanaethau Ecosystemau (IPBES).

Wrth gyflwyno’r gwobrau, dywedodd Is-Ganghellor y Brifysgol, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae’n gwobrau blynyddol ar gyfer effaith eithriadol yn cydnabod sut mae ymchwil a wneir yn Aberystwyth yn gwneud gwahaniaeth yn y byd ehangach. Mae’n bleser mawr gennyf heddiw longyfarch yr Athro Christie a’r Athro Piotrowicz ar ansawdd rhagorol eu hymchwil a’r ffordd y maent yn mynd â’u gwaith y tu hwnt i’r Brifysgol er budd cymdeithas.”

Bioamrywiaeth a Gwerthoedd Natur
Roedd yr Athro Christie yn un o bedwar cyd-gadeirydd asesiad byd-eang a baratowyd ar gyfer yr IPBES yn craffu ar werthoedd cymdeithasol a diwylliannol byd natur yn ogystal â'i gyfraniad i'r economi ehangach.

Cyflwynodd eu hadroddiad, a gyhoeddwyd yn 2022, dystiolaeth gadarn i lunwyr polisi ar ddiogelu holl werthoedd natur mewn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth byd-eang.

Mae’n darparu fframwaith i ymgorffori gwerthoedd economaidd a chymdeithasol-ddiwylliannol natur a’i gwasanaethau mewn polisïau a phrosesau penderfynu cyhoeddus.

Rheoleiddio Masnachu Pobl
Mae ymchwil yr Athro Piotrowicz yn amlygu’r hawliau sydd gan bobl sydd wedi’u masnachu, neu sydd mewn perygl o gael eu masnachu, i gael eu hamddiffyn yn gyfreithiol ynghyd â rhwymedigaethau gwladwriaethau i ddarparu amddiffyniad o’r fath.

Mae ei waith wedi cael effaith sylweddol ar gyfraith a pholisi masnachu mewn pobl mewn pedwar maes pwysig: wrth fonitro cydymffurfiaeth gwladwriaethau â’u rhwymedigaethau o dan gonfensiwn gwrth-fasnachu Cyngor Ewrop; wrth hysbysu polisi'r wladwriaeth; wrth wreiddio'r egwyddor o beidio â chosbi pobl sy'n cael eu masnachu mewn systemau cyfreithiol cenedlaethol ac wrth ddarparu hyfforddiant a chanllawiau i wladwriaethau ar faterion cyfreithiol sy'n ymwneud â masnachu mewn pobl.

Mae’r Athro Piotrowicz hefyd wedi dyfeisio a chyfrannu at raglenni hyfforddi ar fasnachu mewn pobl ar gyfer cyrff anllywodraethol a sefydliadau rhyngwladol.

Cafodd prosiectau’r Athro Christie a’r Athro Piotrowicz eu cyflwyno fel astudiaethau achos effaith ar gyfer Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021.