Prifysgol Aberystwyth yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn #NewidYStori

Nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn (chwith i'r dde); Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ddysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr; Anna Simpkins, Swyddog Materion Academaidd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth; Jessica Jackson, Cydlynydd Gwrth-aflonyddu a Thrais, Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth; Elize Freeman, Dewis Choice, y Ganolfan dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Oed a Rhyw; Trish McGrath, Prifweithredwr Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a Dylan Jones, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant.

Nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn (chwith i'r dde); Yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ddysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr; Anna Simpkins, Swyddog Materion Academaidd Undeb Myfyrwyr Aberystwyth; Jessica Jackson, Cydlynydd Gwrth-aflonyddu a Thrais, Gwasanaethau Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth; Elize Freeman, Dewis Choice, y Ganolfan dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Oed a Rhyw; Trish McGrath, Prifweithredwr Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a Dylan Jones, Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant.

23 Tachwedd 2023

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn nodi Diwrnod y Rhuban Gwyn (dydd Sadwrn 25 Tachwedd) eleni gyda lansiad poster newydd i dynnu sylw at yr ymgyrch ryngwladol i ddod â thrais yn erbyn menywod a merched i ben.

Mae’r poster, sy’n cynnwys lluniau o fyfyrwyr a staff y Brifysgol sy’n sillafu’r geiriau “Diwrnod Rhuban Gwyn”, wedi’i greu gan brosiect Dewis Choice y Ganolfan dros Cyfiawnder Cymdeithasol, Oed a Rhyw sydd wedi’i leoli yn Adran y Gyfraith a Throseddeg y Brifysgol.

Gyda chefnogaeth gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae’r poster yn cynnwys cod QR sy’n cysylltu â chyngor a chefnogaeth i fyfyrwyr a allai fod wedi profi cam-drin o fewn perthynas, trais rhywiol neu aflonyddu rhywiol.

Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn hefyd yn nodi dechrau 16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn Trais ar Sail Rhyw sy’n dod i ben ar 10 Rhagfyr, sef Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol.

Fel rhan o’r ymgyrch hon bydd Dewis Choice yn dangos dwy ffilm fer yn Undeb Myfyrwyr Aberystwyth i godi ymwybyddiaeth o gam-drin domestig a chymryd safiad unedig yn erbyn trais ar sail rhywedd.

Bydd ‘Did you see me?’ cyd-gynhyrchwyd gan Dewis Choice a dioddefwyr-goroeswyr LGBQT+ hŷn, a bydd ‘Hidden Harms Animation’, a grëwyd gan Fwrdd Diogelu Oedolion Norfolk mewn partneriaeth â Dewis Choice, yn cael eu dangos ddydd Mawrth 28 Tachwedd.

Mae gwybodaeth am y dangosiadau ar gael ar-lein a bydd yn cynnwys cyfraniad gan Wasanaeth Cam-drin Domestig Gorllewin Cymru.

Ym mis Tachwedd 2022, ymrwymodd Prifysgol Aberystwyth i fynd i’r afael â thrais yn erbyn menywod a merched.

Ers hynny mae Gwasanaethau Myfyrwyr y Brifysgol wedi cymryd camau breision tuag at feithrin amgylchedd diogel a chefnogol i bob myfyriwr.

Yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/23 cyflwynodd y Brifysgol y Gwasanaeth Cymorth Ymosodiad Rhywiol a Chamymddwyn Rhywiol newydd ynghyd â gwasanaeth Adrodd a Chymorth cyfrinachol ar-lein.

Penodwyd Cydgysylltydd Gwrth-aflonyddu a Thrais hefyd a hyfforddwyd tîm o Swyddogion Cyswllt Trais Rhywiol i wasanaethu fel pwyntiau cyswllt allweddol ar gyfer goroeswyr sy'n ceisio cymorth.

Dechreuodd Jessica Jackson yn ei swydd fel Cydlynydd Gwrth-aflonyddu a Thrais yng ngwanwyn y flwyddyn hon. Dywedodd: “Roedd datblygiad y gwasanaeth trais rhywiol a chamymddwyn ochr yn ochr â’r penderfyniad i benodi cydlynydd gwrth-aflonyddu a thrais yn nodi pennod newydd arwyddocaol i’n Prifysgol – nid yn unig ar gyfer mynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd ond hefyd o ran nodi ein safbwynt rhagweithiol wrth fynd i’r afael ag aflonyddu, bwlio a thrais o bob math.”

Mae gwaith y tîm eisoes wedi derbyn cydnabyddiaeth ar ffurf dwy wobr nodedig gan ddarparwyr cymorth trais rhywiol blaenllaw, Lime Culture, un o brif sefydliadau hyfforddi ac ymgynghori trais rhywiol y Deyrnas Gyfunol, a’r darparwr cymorth trais rhywiolNew Pathways.

Ychwanegodd Jessica: “Mae derbyn cydnabyddiaeth trwy wobrau nid yn unig yn dyst i’r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud i gefnogi ein myfyrwyr sydd wedi profi trais rhywiol ond mae hefyd yn arwydd o’r fraint o gael effaith ystyrlon ar ddiogelwch a lles ein cymuned ar y campws.”

Mae Trish McGrath, Prif Weithredwr Undeb Myfyrwyr Aberystwyth wedi cymeradwyo’r ffordd y mae’r Brifysgol wedi gweithredu: “Fel Undeb Myfyrwyr rydyn ni’n falch o weithio gyda’r Brifysgol i weithio tuag at greu byd heb drais, lle mae pob merch yn byw heb ofn a lle rydyn ni i gyd yn cael ein cefnogi a’n hannog i ffynnu a chyrraedd ein llawn botensial “

Ar gyfer staff, mae'r Brifysgol wedi bod yn darparu hyfforddiant gwylwyr rhagweithiol ac ymyrraeth ac mae ei Rhaglen Cymorth i Weithwyr (Care First) yn cynnig cwnselwyr a chynghorwyr sy'n gallu gwrando, cefnogi, neu gyfeirio at gymorth ar drais a cham-drin domestig.

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor Dysgu, Addysgu a Phrofiad Myfyrwyr: “Mae Diwrnod y Rhuban Gwyn wedi sefydlu ei hun fel dyddiad pwysig yn ein calendr, un sy’n ein hatgoffa o bwysigrwydd ein hymrwymiad i sicrhau bod y campws yn lle diogel a chefnogol. Mae’n destun boddhad mawr fod gwaith cydweithwyr yn cael ei gydnabod gan arweinwyr yn y sector hwn ac mae’n darparu sylfaen gadarn ar gyfer datblygu ein darpariaeth ymhellach a gosod safonau newydd ym maes gwasanaethau myfyrwyr. Rwy’n mawr obeithio y bydd yr ymgyrch eleni a’r poster newydd gan Dewis Choice yn peri i bawb fyfyrio ar y ffordd y caiff merched a menywod eu trin yn ogystal â thynnu sylw at y gwasanaethau hanfodol sydd ar gael i’r rhai sydd wedi goroesi trais a chamdriniaeth rywiol.”

Bydd copiau o boster Diwrnod y Rhuban Gwyn ar gael yn Llyfrgell Hugh Owen ac Undeb Myfyrwyr Aberystwyth o ddydd Mawrth 28 Tachwedd.

Mae rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Cymorth Trais Rhywiol, Aflonyddu a Chamymddwyn y Brifysgol ar gael ar-lein yma.