Ymosodiad Rhywiol a Chamymddwyn Rhywiol - Atal a Chefnogi

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i hyrwyddo amgylchedd campws diogel a chefnogol i bob aelod o'n cymuned. Os ydych wedi profi aflonyddu rhywiol neu drais rhywiol eich hun, neu yn cefnogi rhywun sydd wedi, fe welwch wybodaeth yma am opsiynau cymorth ac adrodd

Gweler isod am fwy o wybodaeth am yr opsiynau ar gyfer y rhai sydd wedi goroesi, a chanllawiau i'r rhai sy'n ei cefnogi.

 Gallwch adrodd drwy gysylltu â’r Gwasanaeth Cymorth - Ymosodiad Rhywiol a  Chamymddwyn Rhywiol trwy e-bost neu drwy fynd i'n system adrodd ar-lein 'Rhannu a Chefnogaeth' lle gallwch ddarparu eich manylion neu rannu gyda ni yr hyn sydd wedi digwydd yn ddienw.

Os ydych chi neu rywun arall mewn perygl, ffoniwch 01970 622649 i gysylltu a Gwasanaeth Diogelwch Safle Prifysgol Aberystwyth, neu 999 ar gyfer y Gwasanaethau Brys.

Beth yw Ymosodiad Rhywiol/Camymddwyn Rhywiol?

Ymosodiad Rhywiol yw'r term cyffredinol i ddisgrifio unrhyw fath o weithgaredd rhywiol dieisiau, gan gynnwys treisio, ymosodiad rhywiol, cam-drin rhywiol, a llawer eraill. Nid yw'r term bob amser yn cynnwys cyswllt corfforol; mae pornograffi dial, anfon delweddau noethlymun diangen, a gwneud sylwadau rhywiol dieisiau i gyd yn enghreifftiau sy'n disgyn o dan bennawd Ymosodiad Rhywiol. Gall Ymosodiad Rhywiol ddigwydd i unrhyw un, waeth beth fo'u hoedran, rhyw, hil, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd, dosbarth neu gefndir.

Gwasanaeth Cymorth Ymosodiad Rhywiol a Chamymddwyn Rhywiol

Ynglŷn â'r Gwasanaeth

Mae'r Gwasanaeth Cymorth Ymosodiad Rhywiol a Chamymddwyn Rhywiol ym Mhifrifysgol Aberystwyth ar gael i gefnogi myfyrwyr sydd wedi eu heffeithio gan unrhyw fath o gamymddwyn neu drais rhywiol. Nod y gwasanaeth yw darparu man diogel a chefnogol, lle gall myfyrwyr dderbyn cymorth a gwrandawiad cyn ystyried yr opsiynau.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys tîm o Swyddogion Cyswllt Ymosodiad Rhywiol Prifysgol (SVLOs) sydd ar gael i gefnogi myfyrwyr, beth bynnag eu profiad. Boed i’r  camymddygiad rhywiol neu'r trais ddigwydd yn Aberystwyth neu peidio, yn ddiweddar neu yn y gorffennol, mae’r gefnogaeth a gwasanaeth ar gael.

Mae pob person yn cael ei trin â sensitifrwydd a pharch. Mae’r gwasanaeth yn gefnogol i bob penderfyniad a phob dadleniad yn cael ei ymdrin â chyfrinachedd. Mae’r gwasanaeth wedi ei sefydlu gan rhai sydd wedi goroesi, sy'n golygu y byddan nhw'n gwrando ac yn  rhoi cymorth a chefnogaeth wrth benderfynu yr hyn sydd ei angen I. Nid yw’n ofynol I rannu unrhyw fanylion nac I gysylltu a’r heddlu.  Mae’r gefnogaeth ar gael I roi help os bydd trafferth gyda'ch astudiaethau a/neu agweddau eraill ar eich profiad fel myfyriwr o ganlyniad I'r hyn ddigwyddodd. Fe fydd cyfle I drafod drwy'r gwahanol opsiynau cymorth.

Sut mae'r Gwasanaeth yn Gweithio?

Mae'r gwasanaeth ar gael i gynnig cefnogaeth di-duedd, gan sicrhau bod gan myfyrwyr gyfle i archwilio'r opsiynau er mwyn gwneud y penderfyniad sydd yn  gywir iddyn nhw.

Beth i'w ddisgwyl gan y gwasanaeth:

  • Gwrando ar eich stori (cymaint neu gyn lleied ag yr hoffech ei rannu)
  • Cefnogaeth i ystyried pob dewis, a chefnogaeth i wneud penderfyniad am y camau nesaf ( gan gynnwys cais am ymestyniad academaidd neu amgylchiadau arbennig)
  • Hwyluso'r cymorth fel eich bod yn teimlo’n ddiogel tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth.
  • Cefnogaeth I greu i cynllun sy’n cyd-fynd a’ch anghenion
  • Eich cefnogi drwy brosesau cwynion a chamymddwyn y brifysgol.

Sut gall Swyddog Cyswllt Ymosodiad Rhywiol (SVLO) Helpu?

Gall SVLO wrando a thrafod yr opsiynau sydd ar gael i chi drwy wasanaethau allanol ac o fewn y brifysgol. Gall eich SVLO penodedig hefyd gysylltu â'r gwasanaethau allanol a staff y Brifysgol, lle bo angen, a bydd yn darparu gofal a chefnogaeth parhaus.

Mae gennych fynediad i gymorth gan SVLO, boed i’r Ymosodiad Rhywiol ddigwydd ar y camwps neu beidio, neu os oeddech chi'n dioddef Ymosodiad Rhywiol cyn i chi ddod i Aberystwyth.

Gyda'ch caniatâd, gallant eich helpu gyda:

  • Atgyfeiriadau at wasanaethau iechyd meddwl a meddygol
  • Addasiadau academaidd a llety
  • Deall yr opsiynau adrodd sydd ar gael i chi
  • Llywio systemau ac adnoddau o fewn y Brifysgol
  • Cyfeirio cefnogaeth yn yr ardal leol ac ar-lein

Mae pobl yn ymateb ac yn delio â chamymddwyn rhywiol a/neu drais mewn sawl ffordd wahanol. Bydd y modd rydych chi'n dewis yn cael ei barchu'n llawn.

Cyfrinachedd

Fel gwasanaeth cefnogi myfyrwyr rydym yn gweithio'n gyfrinachol, sy'n golygu na fyddwn yn rhannu unrhyw beth rydych chi'n ei ddweud wrthym gyda'ch Adran Academaidd, ffrindiau, teulu, na'r heddlu heb eich caniatâd penodol. Efallai y bydd adegau, megis pan fydd myfyriwr neu rywun arall mewn perygl sylweddol o niwed, lle mae angen i ni feddwl am rannu rhywfaint o wybodaeth, ond os daw hyn i fyny byddwn yn trafod hyn gyda chi'n gyntaf.

Sut mae cysylltu?

I wneud apwyntiad, gallwch chi naill ai;

Anfon e-bost at svlo@aber.ac.uk ac mi fydd  cynghorydd addas yn cysylltu â chi'n uniongyrchol. Nid oes angen i chi ddarparu unrhyw fanylion yn eich e-bost.

Neu, fe allwch,

Cyflwyo adroddiad i'n system Rhannu a Chefnogaeth - Prifysgol Aberystwyth a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi'n uniongyrchol. Mae'r system Adroddiad a Chymorth yn caniatáu ichi adrodd gyda'ch manylion cyswllt neu yn ddienw.