Marciau gorau i Aberystwyth gan arbenigwyr addysg rhyngwladol

Yr Athro Nigel Holt, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol gyda chyfrifoldeb am ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth
13 Mai 2025
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill y marciau uchaf am ansawdd ei haddysg a darpariaeth ehangach gan un o’r sefydliadau addysg byd-eang mwyaf blaenllaw.
Mae’r system raddio QS Stars yn ddadansoddiad manwl o brifysgolion.
Cafodd y brifysgol yng ngorllewin Cymru’r marciau uchaf ym mhob un o’r 9 categori.
Fe enillodd nid yn unig y marciau uchaf, pum marc allan o bump, yn gyffredinol, ond hefyd mewn naw maes penodol, gan gynnwys dysgu, cynhwysiant, effaith amgylcheddol, cyflogadwyedd ac ymchwil.
Dywedodd yr Athro Nigel Holt, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol gyda chyfrifoldeb am ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydym wrth ein boddau yn derbyn y gydnabyddiaeth ryngwladol hon am safon ac ansawdd cymaint o agweddau o waith y Brifysgol. Ers dros ganrif a hanner, mae rhagoriaeth dysgu ac ymchwil Prifysgol Aberystwyth wedi ysbrydoli cenedlaethau o bobl o bob cwr o’r byd i newid bywydau er gwell: yn meithrin gwybodaeth, adeiladu cymunedau a chryfhau Cymru a’r byd yn ehangach.
“Fel y Brifysgol gyntaf yng Nghymru, rydym yn gwthio ffiniau arloesi a gwybodaeth - gan feithrin a rhannu’r syniadau a’r arbenigedd sydd o fudd i bobl, y blaned a chyfoeth bywyd diwylliannol. Mae’r ganmoliaeth ryngwladol newydd yn tanlinellu sut rydym yn parhau i feithrin Cymru sy’n ffynnu ac yn estyn allan i’r byd.”
Ychwanegodd:
“Mae Aberystwyth yn lle arbennig iawn i fyw a gweithio ynddo. Mae’n wych bod ein gwaith wedi cael ei gydnabod fel hyn. Mae’r dref a’r gymuned yn darparu lle ysbrydoledig sy’n meithrin rhagoriaeth fel hyn ac rwy’n falch iawn o fod yn rhan o Brifysgol wirioneddol ryngwladol yma yn yng ngorllewin Cymru.