Gwobr o fri i fath ‘eithriadol’ o geirch a fridiwyd yn Aberystwyth

Dr Catherine Howarth
13 Mehefin 2025
Mae’r math mwyaf poblogaidd o geirch yn y DG, a fridiwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi cipio un o wobrau uchaf ei bri y diwydiant.
Mae Sefydliad Cenedlaethol Botaneg Amaethyddol NIAB wedi dyfarnu ei Gwpan Math (Variety Cup) i geirch gaeaf Mascani gan ei ddisgrifio fel "math eithriadol" a’i ganmol am "ei ansawdd a'i ddibynadwyedd heb eu hail".
Cafodd Mascani ei fridio gan ymchwilwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae'n cael ei farchnata ledled y DG gan gwmni Senova.
Mae'n fath hynod boblogaidd yn y diwydiant melino ac mae'n adnabyddus am ansawdd cyson ei rawn ynghyd â’i ddibynadwyedd yn y maes a'i ymwrthedd i glefydau sy’n effeithio ar gnydau.
Cyflwynwyd Cwpan Math NIAB 2025 ar gyfer Mascani i Dr Catherine Howarth o IBERS ac Alison Barrow o Senova Ltd mewn seremoni wobrwyo yn nigwyddiad ‘Cereals’ yn Swydd Lincoln.
Mae’r Cwpan yn cydnabod mathau eithriadol o gnydau sydd wedi gwneud cyfraniad enfawr tuag at gynhyrchiant cnydau trwy wella ansawdd, ymwrthedd i glefydau, proffidoldeb tyfwyr neu lwyddiant masnachol, a gall gael ei gyflwyno ar draws yr ystod cyfan o gnydau garddwriaethol, addurniadol ac amaethyddol.
Dywedodd Clare Leaman, arbenigwr grawnfwydydd Niab:
“Er gwaethaf ymddangosiad mathau newydd o geirch sy'n brolio cynnyrch a nodweddion agronomegol gwell, mae Mascani yn dal i oruchafu yn y diwydiant oherwydd ei nodweddion ansawdd eithriadol, sy'n parhau i gwrdd â safonau llym melinwyr. Mae ei lwyddiant yn dyst i ddeinameg unigryw rhaglenni bridio ceirch y DG sy'n aml yn arwain at fathau ag iddynt hirhoedledd rhyfeddol. Mae perthnasedd parhaus Mascani yn tynnu sylw at ei ansawdd a'i ddibynadwyedd heb eu hail, hyd yn oed mewn tirwedd gystadleuol, gan ei wneud yn brif gystadleuydd ar gyfer y Niab Variety Cup.”
Dechreuodd ymchwil ar ddatblygu ceirch Mascani yn IBERS ddeng mlynedd ar hugain yn ôl ac fe’i ychwanegwyd at y rhestr hadau a argymhellir gan y Bwrdd Datblygu Amaethyddol a Garddwrol (yr AHDB) yn 2004.
Dywedodd Dr Catherine Howarth, arweinydd bridio ceirch ac ymchwil yn IBERS:
“Fel tîm ymchwil, rydyn ni’n hynod falch o dderbyn Cwpan Math Niab ar gyfer Mascani. Mae'n anrhydedd enfawr i bawb sydd wedi bod yn rhan o ddatblygu'r math - o'r groes wreiddiol ym 1995 a'r blynyddoedd dilynol o ddethol i'w ryddhau ar y farchnad fel math sy’n torri cwys newydd. Mae ei ansawdd gwych, ei gynnyrch a'i gysondeb melino rhagorol wedi gwneud Mascani yn ffefryn ledled y DG ymhlith tyfwyr, masnachwyr a melinwyr fel ei gilydd. Mae ei lwyddiant parhaus yn amlwg o'i gyfran o farchnad ceirch gaeaf y DG, sydd wedi bod yn uwch na 70% dros y chwe blynedd diwethaf. Mae ceirch yn cynnig manteision clir i iechyd pobl, gan gynnwys gostwng colesterol yn ogystal â chyfrannu at amgylchedd mwy cynaliadwy.”
Tynnodd Alison Barrow, Rheolwr Marchnata Technegol Senova Ltd, sylw at y ffaith fod Mascani, wedi 21 mlynedd ar Restr Argymhellion yr AHDB, wedi sefyll prawf amser ac yn parhau i fod y math o geirch gaeaf sy'n gwerthu orau, gyda dros 70% o farchnad geirch gaeaf y DG.
“Rydyn ni wrth ein bodd bod statws ac enw da Mascani yn y farchnad yn cael cydnabyddiaeth gan Niab. Gellir priodoli llwyddiant Mascani i'w gyfuniad o ansawdd grawn a pherfformiad uwchraddol yn y felin, ynghyd â'i ddibynadwyedd yn y cae a'i addasrwydd ar gyfer cylchdroadau cynaliadwy. Gan apelio at ddefnyddwyr terfynol a ffermwyr fel ei gilydd, mae'r amrywiaeth wedi arwain y cynnydd mewn plannu ceirch ledled y DG ac wedi hybu gwaith datblygu i farchnadoedd ceirch amgen, wrth i fanteision iechyd a maethol ceirch gael eu cydnabod. O ganlyniad, rydyn ni bellach yn gweld ceirch yn cael eu bwyta ar wahanol adegau o'r dydd i’r achlysur brecwast traddodiadol yn unig.”
Wrth siarad yn seremoni gwobrau ‘Cereals’, dywedodd Prif Weithredwr Niab, yr Athro Mario Caccamo:
“Mae'n cymryd math eithriadol i ennill Cwpan Math, neu ei chwaer Gwpan Grawnfwydydd, ac mae’n harbenigwyr cnydau ac agronomegwyr yn adolygu'r ymgeiswyr yn flynyddol. Eleni, roedd gennym sawl cystadleuydd cryf ar gyfer y Cwpan Math, ac mae’n destun boddhad mawr i gydnabod cyfraniad hirhoedlog Mascani i'r diwydiant. Mae ei lwyddiant yn enghraifft o'r effaith y gall mathau cnydau rhagorol ei chael ar gynhyrchiant ac elw tyfwyr.
“Wrth i etifeddiaeth Mascani barhau i ysbrydoli arloesedd mewn bridio cnydau, mae Niab yn ailddatgan ei ymrwymiad i gydnabod a meithrin rhagoriaeth mewn amaethyddiaeth. Mae Cwpan Math Niab yn parhau i fod yn symbol o gyrhaeddiad ac ymroddiad, gan ysbrydoli bridwyr i wthio ffiniau bridio planhigion.”
Sefydlwyd Cwpan Math Niab ym 1986 ac nid yw’n cael ei ddyfarnu’n flynyddol ond yn hytrach fe’i cyflwynir dim ond pan mae’r trefnwyr yn penderfynu bod math eithriadol sy'n haeddu cydnabyddiaeth. Enillwyd y cwpan ddwywaith cyn hyn gan fridwyr planhigion Aberystwyth – am y glaswellt lluosflwydd Aberdart yn 2003 ac Abergreen yn 2015.