Canolfan cywarch diwydiannol newydd i yrru arloesedd gwyrdd

Cnwd cywarch diwydiannol ym Mhrifysgol Aberystwyth
19 Mehefin 2025
Mae canolfan newydd sydd wedi’i sefydlu i ddatgloi potensial cywarch diwydiannol wedi'i lansio ar Gampws ArloesiAber Prifysgol Aberystwyth.
Bydd y Ganolfan Arloesi Cywarch Diwydiannol yn cwmpasu sectorau allweddol — o decstilau a gwaith adeiladu i fiodanwydd, bwyd, bioplastigau, cynhyrchion anifeiliaid, a defnydd meddygol — gan ddod ag academyddion, modelau arloesi byd-eang, a chydweithwyr yn y diwydiant ynghyd.
Mae galw cynyddol am gywarch diwydiannol gyda rhagolygon y bydd y farchnad fyd-eang werth $38 biliwn erbyn 2035.
Mae'r cnwd eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn adeiladu fel dewis amgen i goncrit ac mewn deunydd inswleiddio, yn ogystal ag mewn cydrannau modurol ysgafn, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir yn Fformiwla 1. Yn y diwydiant tecstilau, mae ffibr cywarch yn disodli cotwm yn gynyddol fel dewis cynaliadwy, tra yn y sector bwyd, mae hadau cywarch ac olew yn ennill poblogrwydd oherwydd eu manteision maethol.
Mae datblygu cywarch diwydiannol yn y Deyrnas Gyfunol yn wynebu heriau megis cyfyngiadau trwyddedu, cadwyni cyflenwi llai datblygedig, ac arbenigedd agronomegol cyfyngedig. Ystyrir bod ymchwil barhaus i botensial cywarch, yn enwedig mewn hinsoddau’r Deyrnas Gyfunol, a datblygiad pellach o gyfleusterau prosesu yn allweddol i lwyddiant y diwydiant.
Bydd y Ganolfan newydd yn gweithio'n agos gyda'r diwydiant cywarch a’r sectorau cysylltiedig i gyflymu cynnydd ar Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Bydd yn blaenoriaethu rôl y sector amaethyddol ac yn hyrwyddo arallgyfeirio, atafaelu carbon, adfywio pridd, a gwydnwch gwledig mewn ffordd sy'n cefnogi incwm ffermwyr.
Dywedodd Dr Ana Winters o IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Rydym ni’n llawn cyffro am lansio’r ganolfan newydd yma. Mae gennym ni arbenigedd hirsefydlog gyda’r cnwd hwn ac rydym ni’n croesawu’r cyfle i helpu lledaenu’r manteision i gynulleidfa ehangach. Mae hyn yn cynnig y cyfle i hyrwyddo cnwd hynod gynaliadwy a hyblyg ar gyfer y dyfodol. Yn ogystal â’r rhai cosmetig, bwyd a fferyllol, mae gan gywarch nifer o ddefnyddiau diwydiannol a gallai leihau’r angen am fewnforion drud yn sylweddol.
“Mae’r diwydiant cywarch diwydiannol yn cynnig cyfleoedd sylweddol ar gyfer swyddi gwyrdd, twf economaidd gwledig, ac arferion ffermio cynaliadwy. Mae twf cyflym cywarch—hyd at bedwar metr mewn dim ond 100 diwrnod—a’i ofynion mewnbwn isel, gan gynnwys y diffyg angen am wrteithiau a phlaladdwyr, yn ei wneud yn gnwd amgen cynaliadwy i ffermwyr y Deyrnas Gyfunol.”
Er mwyn cefnogi'r defnydd o'r cnwd, bydd y Ganolfan Arloesi Cywarch Diwydiannol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn canolbwyntio ar eiriolaeth ac ymgysylltu â pholisi, ymchwil a datblygu, hyfywedd economaidd, a bydd yn cefnogi prosesu cywarch y Deyrnas Gyfunol ac asesu’r farchnad ariannol.
Dywedodd Sonia Klein, Arweinydd Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol ar Gywarch Diwydiannol:
"Mae'r Ganolfan Arloesi Cywarch Diwydiannol yn newid y gêm i'r Deyrnas Gyfunol, gan greu cyfleoedd ar gyfer twf busnes cynaliadwy wrth fynd i'r afael â heriau amgylcheddol allweddol. Mae ein gwaith yn gosod Cymru a Phrydain ar flaen y gad yn yr economi werdd gan gyflawni nodau economaidd ac amgylcheddol."
Fel Ysgrifenyddiaeth y Grŵp Seneddol Trawsbleidiol Cywarch Diwydiannol newydd, bydd y Ganolfan hefyd yn gallu dylanwadu ar bolisi cenedlaethol a datgloi gwerth amgylcheddol ac economaidd llawn cywarch diwydiannol.
Dywedodd Ben Lake, AS Plaid Cymru dros Geredigion Preseli, a Chadeirydd Grŵp Seneddol Trawsbleidiol Cywarch Diwydiannol:
"Mae'r Ganolfan Arloesi Cywarch Diwydiannol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn sbarduno peiriant economaidd newydd sydd wedi'i wreiddio mewn gwydnwch, cynaliadwyedd a ffyniant lleol. Wrth i ni adeiladu economi gylchol sy'n addas ar gyfer yr 21ain ganrif, mae Cymru ar flaen y gad o ran datgloi potensial llawn cywarch i greu swyddi, datgarboneiddio diwydiant ac adfywio cymunedau gwledig. Mae'r model hwn yn drawsnewidiol ac yn lasbrint ar gyfer economi werdd ffyniannus ledled y Deyrnas Gyfunol."
Ychwanegodd y ffermwr a myfyriwr doethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, John Goodwin:
"Mae gan gywarch y potensial i arallgyfeirio systemau cynhyrchu yn sylweddol yn y Deyrnas Gyfunol. Ar ben hynny, gall helpu amaethyddiaeth i gyrraedd targedau bioamrywiaeth a sero net. Roedden ni wedi gobeithio tyfu cywarch i arbed ar gostau mewnbwn, a hefyd i ddarparu cnwd toriad amgen a fyddai o fudd i iechyd y pridd. Cynigiodd y cyfoeth o gynhyrchion y mae’n bosibl cael o'r planhigyn hwn ffynhonnell incwm newydd i ni, a nifer o gyfleoedd marchnata."
"Fodd bynnag, achosodd y diffyg capasiti prosesu lleol ac ansicrwydd am farchnadoedd i ni ailystyried ein cynlluniau. Profodd yr heriau rheoleiddiol sy'n gysylltiedig â'i drwyddedu i fod yn rhy llym, a phenderfynon ni beidio â mynd ar drywydd y fenter hon. Gobeithiwn y bydd llacio'r deddfau trwyddedu yn sbarduno’r diwydiant cywarch ar bob lefel, ac yn rhoi cyfle i ffermwyr dyfu'r cnwd newydd cyffrous hwn."