Partneriaeth ryngwladol newydd i hybu technolegau amaethyddol gwyrdd

Yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth, a'r Athro Feng Guansheng, Is-lywydd Academi Gwyddorau Amaethyddol Zhejiang.
24 Medi 2025
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi llofnodi partneriaeth newydd gydag Academi Gwyddorau Amaethyddol Zhejiang i gryfhau ei gwaith mewn technolegau amaethyddol gwyrdd.
Mae'r Memorandwm o Ddealltwriaeth gyda'r sefydliad addysg uwch yn Hangzhou, Tsieina, yn amlinellu cynlluniau i gydweithio ar gyfnewidfeydd ymchwil a datblygu technoleg mewn cnydau a ffermio.
Mae Academi Zhejiang yn un o ganolfannau ymchwil amaethyddol hynaf Tsieina ac mae'n cynnwys 18 o sefydliadau ymchwil sy'n cwmpasu ymhell dros gant o feysydd ymchwil ar draws bron i dri deg o ddisgyblaethau. Yn ogystal â datblygu technolegau amaethyddol gwyrdd, mae'r academi wedi gwneud cyfraniadau sylweddol mewn meysydd fel bridio reis hybrid a bio-gynhyrchu.
Cafodd y cytundeb ei lofnodi gan yr Athro Angela Hatton o Brifysgol Aberystwyth a'r Athro Feng Guansheng o’r Academi Gwyddorau Amaethyddol Zhejiang (ZAAS).
Dywedodd yr Athro Angela Hatton, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae’r bartneriaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad cyffredin i fynd i’r afael â heriau amaethyddol byd-eang drwy arloesi a chydweithio. Ar adeg o newid hinsawdd a phryderon cynyddol ynghylch diogelwch bwyd, rydym yn falch o uno â ZAAS i hyrwyddo ffermio cynaliadwy a biodechnoleg. Drwy gyfuno ein harbenigedd, ein nod yw darparu atebion effeithiol sy’n fuddiol i’n rhanbarthau ac yn cyfrannu at gynnydd byd-eang.”
Dywedodd yr Athro Feng Guansheng, Is-lywydd Academi Gwyddorau Amaethyddol Zhejiang:
“Mae Prifysgol Aberystwyth, gyda’i hanes nodedig, ei phortffolio academaidd eang, a’i sylfaen gref mewn ymchwil amaethyddol, yn rhannu llawer o ddiddordebau a dyheadau cyffredin â ZAAS. Mae llofnodi'r Memorandwm o Ddealltwriaeth hwn yn nodi cam sylweddol ymlaen o ran cryfhau ein cydweithrediad rhyngwladol. Drwy ymweliadau cyfnewidiol, mentrau ymchwil ar y cyd, a cheisiadau grant cydweithredol, rydym yn edrych ymlaen at ddyfnhau ein partneriaeth a chyflawni llwyddiant ar y cyd yn y blynyddoedd i ddod.”