Uwchraddiad gwerth £750,000 gan y Brifysgol i gyfleusterau addysgu Cyfrifiadureg

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Jon Timmis, a Phennaeth yr Adran Cyfrifiadureg, Dr Thomas Jansen, gyda phensaeriaid a staff y Brifysgol sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect adnewyddu.

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Jon Timmis, a Phennaeth yr Adran Cyfrifiadureg, Dr Thomas Jansen, gyda phensaeriaid a staff y Brifysgol sydd wedi bod yn rhan o’r prosiect adnewyddu.

09 Hydref 2025

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi agor mannau addysgu sydd newydd eu hailwampio yn yr Adran Gyfrifiadureg yn swyddogol, gan nodi buddsoddiad sylweddol yn nyfodol addysg ddigidol.

Mae'r uwchraddiad gwerth £750,000 yn cynnwys ystafelloedd cyfrifiaduron o'r radd flaenaf yn adeilad Llandinam a Labordy Systemau Digidol wedi'i ailgynllunio'n llwyr yn adeilad y Gwyddorau Ffisegol.

Mae'r mannau hyn a ailwampiwyd yn cynnig amgylcheddau modern, hygyrch a deinamig wedi'u teilwra i feithrin arloesedd, cydweithredu a dysgu ymarferol. 

Yn ogystal â gwella profiad y myfyriwr, mae'r gwaith adnewyddu yn blaenoriaethu cynaliadwyedd. Mae'r cyfleusterau newydd yn cynnwys systemau gwresogi ac awyru ynni-effeithlon, goleuadau LED, rheolaethau ynni clyfar, a seilwaith rheoli pŵer uwch – yn unol ag uchelgais y Brifysgol i sicrhau ystâd sero net.  

Wrth siarad yn yr agoriad swyddogol, Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Jon Timmis:

"Mae'n bleser agor y cyfleusterau newydd gwych hyn. Mae'r ystafelloedd addysgu a'r labordy hyn a uwchraddiwyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad i ddarparu amgylchedd dysgu rhagorol i'n myfyrwyr ac mae'n dyst i waith caled cydweithwyr o'n hadrannau academaidd, a’r timau Ystadau a Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth."

Ychwanegodd Dr Thomas Jansen, Pennaeth yr Adran Gyfrifiadureg:

“Mae'r adnewyddiad wedi trawsnewid ein mannau addysgu yn llwyr a bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad ein myfyrwyr. Mae'r cyfleusterau newydd yn llawn offer, yn ddatblygedig o ran technoleg ac wedi'u cynllunio ar gyfer hyblygrwydd - yn union beth sydd ei angen arnom i gefnogi'r genhedlaeth nesaf o wyddonwyr cyfrifiadurol i ffynnu ym myd cyfrifiadura sy'n newid yn gyflym.

“Mae gan ein Hadran enw da ers amser maith am ragoriaeth mewn addysgu ac ymchwil. Bydd y cyfleusterau newydd yn cefnogi ein cenhadaeth i gyflwyno addysg flaengar mewn maes sy'n symud yn gyflym."

Dan arweiniad staff academaidd o'r gyfadran, cyflawnwyd y prosiect mewn partneriaeth â'r contractwyr lleol Sonny Vaughan Electrical a J&E Woodworks gan weithio'n agos â staff o adrannau Ystadau a Gwasanaethau Gwybodaeth y Brifysgol.