Llunio addysg nyrsio yng nghanolbarth Cymru

25 Tachwedd 2025

Gofynnir i ddefnyddwyr gwasanaethau iechyd rannu eu profiadau i helpu i lunio dyfodol addysg nyrsio yng nghanolbarth Cymru.

Mae Rhwydwaith Addysg Gofal Iechyd Aberystwyth (HENA) yn gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol Aberystwyth i sicrhau bod ei rhaglenni addysg gofal iechyd yn adlewyrchu realiti gofal ac anghenion y gymuned leol.

Mae'r Rhwydwaith yn chwilio am gleifion a gofalwyr newydd i ymuno a rhannu eu profiadau.

Meddai Ellie Jolley-Dawson o Ganolfan Addysg Gofal Iechyd Prifysgol Aberystwyth:

"P'un a ydych chi wedi derbyn gofal eich hun, wedi rhoi cymorth i rywun ar daith iechyd, neu'n syml eisiau gwneud gwahaniaeth, mae ymuno â HENA yn rhoi cyfle i chi gynnig eich safbwynt unigryw eich hun ac i gyfrannu'n uniongyrchol at addysg nyrsys y dyfodol.

"Gall eich stori helpu myfyrwyr nyrsio i ddeall yr ochr ddynol o ofal iechyd.  Trwy rannu eich profiadau, byddwch chi'n cyfoethogi eu dysgu a sicrhau bod ein rhaglenni'n adlewyrchu anghenion a phrofiadau ein cymuned."

Efallai y bydd aelodau'r rhwydwaith yn cael eu gwahodd i rannu profiadau personol yn ystod sesiynau dysgu, i gyfrannu at sesiynau dysgu sy’n efelychu sefyllfaoedd neu gymryd rhan mewn cyfweliadau myfyrwyr.  

Gellir bod yn hyblyg wrth gymryd rhan – gall aelodau ddewis pa mor gysylltiedig yr hoffent fod.  Gellir ad-dalu costau teithio trwy drefniant.

I gael gwybod mwy, neu i fynegi eich diddordeb i ymuno â HENA, cysylltwch ag Ellie Jolley-Dawson trwy e-bost elj78@aber.ac.uk neu ewch i'r wefan https://www.aber.ac.uk/cy/hec/hena/.