Affrica Is-Sahara wedi colli hyd at hanner ei phrimatiaid - astudiaeth newydd

Mapungubwe National Park, South Africa

Mapungubwe National Park, South Africa

05 Rhagfyr 2025

Mae Affrica Is-Sahara eisoes wedi colli hyd at hanner ei phrimatiaid - math o anifeiliaid sy'n cynnwys epaod a mwncïod - ers y cyfnod cyn-ddiwydiannol, yn ôl astudiaeth ryngwladol o bwys.

Mae’r prosiect ymchwil pum mlynedd, a gyhoeddwyd yr wythnos hon yn Nature, yn cyflwyno'r asesiad mwyaf cynhwysfawr hyd yma o gyfanrwydd bioamrywiaeth ledled y rhanbarth, ac mae’n dangos bod 24% o'r fioamrywiaeth wedi'i cholli.

Mae'r canfyddiadau'n dangos bod niferoedd y planhigion a'r anifeiliaid brodorol wedi gostwng bron i chwarter ar gyfartaledd, gyda rhai rhywogaethau - yn enwedig mamaliaid mawr - yn profi colledion mwy difrifol o lawer.

Daeth yr astudiaeth â 200 o arbenigwyr ar fioamrywiaeth ac ecoleg Affrica at ei gilydd, i edrych ar sut mae gweithgareddau dynol ar draws gwahanol dirweddau yn effeithio ar rywogaethau brodorol.

Meddai Dr Birthe (Bibi) Linden, Darlithydd Bioleg Cadwraeth Gymhwysol ym Mhrifysgol Aberystwyth ac arweinydd tîm arbenigwyr primatiaid yr astudiaeth:

"Trwy fanteisio ar wybodaeth leol 200 o unigolion sy’n arbenigwyr ar blanhigion ac anifeiliaid Affrica, mae'r prosiect uchelgeisiol hwn wedi llenwi bwlch hollbwysig i wledydd Affrica, sydd yn draddodiadol wedi’u tangynrychioli mewn setiau data ac asesiadau bioamrywiaeth byd-eang.

"Roedd fy nghyfraniad i yn canolbwyntio ar brimatiaid, un o’r urddau o famaliaid mawr sydd fwyaf dan fygythiad yn fyd-eang. Yn Affrica Is-Sahara, primatiaid sydd wedi profi’r dirywiad mwyaf, ar ôl cigysyddion a llysysyddion mawr. Rhywogaethau coedwigoedd glaw – megis epaod, mwncïod, galagoid a lorisiaid – yw'r rhai yr effeithiwyd arnynt fwyaf; maent wedi colli dros hanner o’u helaethrwydd hanesyddol ar gyfartaledd, ac mae rhywogaethau coetiroedd y safana wedi colli o leiaf traean o’u niferoedd, ar gyfartaledd."

Dywedodd y prif awdur Dr Hayley Clements, o Ganolfan Trawsnewidiadau Cynaliadwyedd Prifysgol Stellenbosch:

"Mewn llawer o asesiadau bioamrywiaeth byd-eang, rydym yn gweld nad yw amodau Affrica yn cael eu cynrychioli yn dda iawn gan eu bod yn dibynnu ar yr ychydig fesuriadau lleol sydd ar gael ac yn dod i gasgliadau ar sail gwybodaeth o ranbarthau sy’n fwy cyfoethog o ran data, lle mae’r cyd-destun yn wahanol iawn. Trwy weithio'n uniongyrchol â'r bobl sy'n astudio ac yn rheoli ecosystemau yn Affrica, bu modd i ni gael darlun llawer mwy realistig o ran ble mae bioamrywiaeth yn dirywio, ble mae'n cael ei chynnal, a pham."

Mae'r ymchwil yn defnyddio'r Mynegai Cyfanrwydd Bioamrywiaeth (BII) ar gyfer Affrica, sef set ddata sy’n seiliedig ar arbenigedd ecolegol rhanbarthol. Nod yr adnodd hwn yw cynorthwyo’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel genedlaethol a rhanbarthol i gynllunio i ddiogelu bioamrywiaeth mewn ffyrdd sydd wedi'u teilwra i gyd-destunau Affricanaidd.

Canfu'r astudiaeth amrywiadau sylweddol ar draws ecosystemau, gwledydd a grwpiau o rywogaethau. Er bod planhigion sy'n gallu gwrthsefyll tarfiadau amgylcheddol wedi profi dirywiad mor fach â 10%, mae mamaliaid mawr fel eliffantod, llewod a rhai rhywogaethau o antelop wedi colli mwy na 75% o'u helaethrwydd hanesyddol.

 Mae'r astudiaeth yn amlygu’r cynnydd mewn tir âr ar gyfer tyfu cnydau fel un o’r prif ffactorau sy’n arwain at golli bioamrywiaeth, gyda ffermio dwys yn lleihau amrywiaeth cynefinoedd a chynyddu’r defnydd o gemegau. Rhagwelir y bydd tir cnydau yn dyblu, a'r galw am rawnfwyd yn treblu, erbyn 2050, felly bydd arferion ffermio sy’n gyfeillgar i fioamrywiaeth yn hanfodol i sicrhau cydbwysedd rhwng yr angen i ddiogelu cyflenwadau bwyd ac iechyd ecosystemau.

Yn hollbwysig, mae dros 80% o blanhigion ac anifeiliaid gwyllt y rhanbarth yn byw y tu allan i diroedd a warchodir yn ffurfiol - mewn tirweddau lle mae pobl a natur yn cydfodoli. Mae'r ardaloedd hyn yn cynnal dros 500 miliwn o bobl ac yn darparu gwasanaethau ecosystem hanfodol fel dŵr glân, peillio, deunyddiau adeiladu, adnoddau pori, bwydydd gwyllt a storio carbon.

Ychwanegodd Dr Linden:

"Mae'r darlun o fioamrywiaeth a ddarperir gan yr astudiaeth ddigynsail hon yn arfogi llunwyr polisi a chadwraethwyr â'r data sydd eu hangen i ddiogelu ecosystemau y tu hwnt i’r ardaloedd gwarchodedig. Trwy bontio’r bylchau mewn gwybodaeth ag arbenigedd rhanbarthol, mae'n gosod y sylfaen ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus sy'n taro cydbwysedd rhwng datblygu a bioamrywiaeth, gan sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i'r cyfandir."

Ariannwyd y prosiect gan Grant Ymchwil Jennifer Ward Oppenheimer sy’n cynorthwyo ymchwilwyr Affricanaidd sydd ar ddechrau eu gyrfaoedd i ddatblygu atebion i heriau'r cyfandir.

 

AU28725