Graddedigion Aberystwyth i arloesi mewn bioweithgynhyrchu ac AI

Bioburo ym Mhrifysgol Aberystwyth

Bioburo ym Mhrifysgol Aberystwyth

19 Rhagfyr 2025

Mae rhaglenni hyfforddi doethurol newydd, a ddarperir gan Brifysgol Aberystwyth gyda phrifysgolion partner a diwydiant, wedi'u lansio i arfogi graddedigion â'r sgiliau a'r wybodaeth i ddatblygu bioweithgynhyrchu a biowyddoniaeth wedi’i galluogi gan ddeallusrwydd artiffisial.

Mae'r rhaglenni'n rhan o fuddsoddiad ehangach gwerth £40 miliwn gan UKRI mewn hyfforddiant doethurol, a gynlluniwyd i hybu arloesedd a thwf economaidd y Deyrnas Gyfunol.

Bydd rhaglen y Ganolfan Gynaliadwy ar gyfer Effeithlonrwydd AI mewn Biotechnoleg Ddiwydiannol (SCALE-IB), dan arweiniad Coleg Imperial Llundain a'r cwmni cemegol byd-eang BASF, mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth a Choleg Prifysgol Llundain (UCL), yn hyfforddi myfyrwyr i fynd â phrosesau biolegol o adweithyddion labordy i raddfa systemau diwydiannol.

Mae'r cynllun yn cyfuno profiad ymarferol â bioweithgynhyrchu ar raddfa beilot, peirianneg, deallusrwydd artiffisial ac optimeiddio prosesau. Bydd myfyrwyr hefyd yn gweithio'n agos gyda phartneriaid yn y diwydiant, gan helpu i bontio'r bwlch rhwng gwaith labordy a chynhyrchu ar lefel fasnachol.

Yn ogystal â hyn, bydd y rhaglen Galluogi Deallusrwydd Artiffisial y Genhedlaeth Nesaf ar gyfer Economi Biowyddoniaeth (ENAIBLE), dan arweiniad Prifysgol Rhydychen mewn partneriaeth â Phrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Birmingham a Sefydliad Francis Crick, yn canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial uwch, dysgu peirianyddol a gwyddoniaeth ddata i hyrwyddo ymchwil ac arloesedd biowyddoniaeth.

Bydd y prosiect yn paratoi ymchwilwyr doethurol i ddefnyddio offer arloesol sy'n seiliedig ar ddeallusrwydd artiffisial a data i gyflymu ymchwil ac arloesedd biowyddoniaeth ar draws sawl maes.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mewn byd sy'n newid yn gyflym, mae'n hanfodol bod gwyddonwyr y dyfodol â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i gofleidio'r technolegau diweddaraf a symud gwyddoniaeth yn ei blaen. Felly rydym wrth ein bodd i fod yn rhan o'r ddwy wobr ddoethurol gydweithredol hyn ac yn edrych ymlaen at groesawu dwy garfan newydd o fyfyrwyr doethurol i IBERS. Er enghraifft, yn y prosiect deallusrwydd artiffisial, byddwn yn hyfforddi myfyrwyr doethurol i ddefnyddio offer a dulliau deallusrwydd artiffisial y genhedlaeth nesaf er mwyn datblygu atebion bridio planhigion ar gyfer cnydau'r dyfodol gan gynnwys mynd i'r afael â heriau diogelwch bwyd, maeth a chynaliadwyedd."

Ychwanegodd Dr David Bryant, Uwch Gymrawd Ymchwil yn IBERS a Phrif Ymchwilydd ar gyfer prosiect SCALE-IB ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae SCALE-IB yn cyfuno bioburo ymarferol a hyfforddiant gyda gwyddor data arloesol a deallusrwydd artiffisial, gan drawsnewid cysyniadau labordy arloesol yn gynhyrchion effeithiol o ran cost a’r gallu i’w gweithgynhyrchu. Drwy ddatblygu cenhedlaeth o Fiotechnolegwyr Diwydiannol sy'n barod ar gyfer deallusrwydd artiffisial ar draws ein consortiwm, rydym ni’n cryfhau gweithlu bioweithgynhyrchu datblygedig y Deyrnas Gyfunol, gan hybu twf glân ac adeiladu bioeconomi wydn.”

Mae'r rhaglenni'n uno arbenigedd ar draws prifysgolion a phartneriaid diwydiant. Bydd IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yn arwain yr hyfforddiant technegol, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, gan ddatblygu arbenigedd myfyrwyr mewn biodechnoleg yn ei bioburfa ar raddfa beilot. Bydd prifysgolion a sefydliadau ymchwil partner yn cyfrannu gwybodaeth arbenigol mewn bioleg peirianneg, biobrosesu diwydiannol a biowyddoniaeth sy'n canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial, gan gefnogi amcanion rhyngddisgyblaethol SCALE-IB ac ENAIBLE.

Bydd graddedigion mewn sefyllfa dda i ddilyn gyrfaoedd mewn bioweithgynhyrchu diwydiannol a biowyddoniaeth ddeallusrwydd artiffisial, gan gynnwys cyfleoedd mewn cwmnïau newydd, rolau rheoleiddio mewn bwydydd newydd ac ymchwil academaidd neu gymhwysol bellach.

Cyllidwyd gan y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a chefnogwyd gan bartneriaid yn y diwydiant, bydd y rhaglenni'n dechrau recriwtio ym mis Rhagfyr, gyda chyfleoedd ar gyfer nifer o brosiectau doethurol ar draws y prifysgolion a phartneriaid yn y diwydiant.

Dywedodd yr Athro Anne Ferguson-Smith, Cadeirydd Gweithredol BBSRC:

“Drwy’r buddsoddiadau hyn, mae UKRI yn cryfhau arweinyddiaeth y Deyrnas Gyfunol mewn technolegau hanfodol tra’n creu cyfleoedd ystyrlon i fusnesau, ymchwilwyr a rhanbarthau ledled y wlad. Bydd y rhaglenni’n rhoi’r sgiliau i genhedlaeth newydd o ymchwilwyr talentog i arloesi, cefnogi sectorau twf uchel a gwella bywydau.”