Cam-drin pobl hŷn yn 'weladwy ond heb ei weld' gan wasanaethau cyhoeddus – adroddiad

02 Mawrth 2026

Gall gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn aml fethu cam-drin domestig pobl hŷn ac mae angen iddynt greu mannau diogel i siarad allan, yn ôl ymchwil newydd gan academyddion Prifysgol Aberystwyth.

Rhin gwymon yn dangos buddiannau gwrthlidiol ac iechyd y perfedd addawol

03 Mawrth 2026

Gallai rhin gwymon gael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl a lles, yn ôl gwyddonwyr sy'n ei brofi fel rhan o ymdrechion i wella iechyd y genedl.

Gweinidog Diogelwch y DU yn ymweld â Phrifysgol Aberystwyth

04 Mawrth 2026

Mae Gweinidog Diogelwch Llywodraeth y DU ac un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, Dan Jarvis MBE AS, wedi annerch myfyrwyr yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn ystod ymweliad â'r Brifysgol.

Ysgrifenwyr Cymraeg yn cydweithio i herio casineb tuag at fenywod gyda cherdd gydweithredol

08 Mawrth 2026

Mae grŵp o ysgrifenwyr Cymraeg – gan gynnwys y bardd a’r ddarlithwraig Mari Ellis Dunning o Aberystwyth – wedi dod ynghyd i ryddhau cerdd cydweithredol newydd, They Call Us, er mwyn herio casineb yn erbyn rhyw a chasineb yn erbyn menywod.

Hanes yr alwad ffôn gyntaf – naw gair a newidiodd y byd

10 Mawrth 2026

Mewn erthygl yn The Conversation, mae'r Athro Iwan Morus yn esbonio mae nid Alexander Graham Bell oedd yr unig berson a geisiodd ddyfeisio'r ffôn. Ond 150 mlynedd yn ôl, enillodd y ras – o drwch blewyn – a hanes yw'r gweddill.

Cyhoeddi enillwyr Gwobrau Hybu’r Gymraeg

10 Mawrth 2026

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi anrhydeddu unigolion am eu cyfraniad i’r Gymraeg. 

Cyfnewidfa Busnes ac Arloesi Canolbarth Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth

12 Mawrth 2026

Bydd busnesau o bob rhan o’r Canolbarth yn dod at ei gilydd i drafod heriau allweddol sy’n wynebu’r sector mewn digwyddiad wedi’i drefnu gan Brifysgol Aberystwyth fis nesaf.

Datblygu model newydd i ragfynegi tywydd y gofod

17 Mawrth 2026

Mae ymdrechion newydd i ragfynegi tywydd y gofod yn fwy cywir a dibynadwy yn cael eu harwain gan academyddion ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Gallai prawf syml i brofi wrin ganfod canser y fron yn ei gyfnod cynnar

19 Mawrth 2026

Cyn hir, gallai pecyn syml, anfewnwthiol i wneud profion yn y cartref drawsnewid y broses o ganfod canser y fron yn gynnar, diolch i ymchwil arloesol sy'n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Beth mae hiwmor yn ei olygu i bobl hŷn – a pham mae rhai yn ei chael hi'n anodd dal ati i chwerthin

23 Mawrth 2026

Mewn erthygl yn The Conversation, mae Heather Heap o'm Hadran Seicoleg yn trafod sut nad yw cymaint ynglŷn â phobl hŷn yn colli eu hiwmor, ag ynglŷn â newidiadau yn y ffordd y gallant ei ddefnyddio a'i fwynhau.

Dathlu dynodiad Dinas Llên drwy oleuo Castell Aberystwyth

23 Mawrth 2026

Mae llwyddiant diweddar Aberystwyth a Cheredigion i ddod yn Ddinas Llên UNESCO wedi’i ddathlu trwy daflunio arddangosfa o gelf leol ar Gastell Aberystwyth.

Ymchwilwyr yn y Cenhedloedd Unedig yn trafod trais yn erbyn menywod hŷn

25 Mawrth 2026

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth wedi rhannu eu harbenigedd yn y Cenhedloedd Unedig ar atal ac ymateb i drais yn erbyn menywod hŷn.