System bleidleisio newydd y Senedd yn aneglur i’r cyhoedd, yn ôl astudiaeth

Y Senedd ym Mae Caerdydd
26 Ebrill 2026
Mae dwy ran o dair o bobl yng Nghymru yn ansicr ynghylch newidiadau mawr i system bleidleisio'r Senedd, yn ôl arolwg barn cyhoeddus newydd.
Dan arweiniad ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Abertawe, mae canfyddiadau cychwynnol Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 yn rhan o'r don gyntaf o ddata sy'n edrych ar wybodaeth wleidyddol, ymddiriedaeth yn y llywodraeth, diddordeb gwleidyddol ac ymgysylltiad yng Nghymru cyn etholiad y Senedd ar 7 Mai.
Yn seiliedig ar ymatebion i arolwg gan 10,000 o bobl yng Nghymru, nid oedd dwy ran o dair yn gallu ateb cwestiynau'n gywir am ehangu'r Senedd, creu etholaethau newydd a sut y bydd y system etholiadol yn gweithio.
Roedd 88% o'r ymatebwyr naill ai'n anghywir neu ddim yn gwybod am y system etholiadol rhestr gaeedig newydd, gyda llai na 12% yn ei deall.
Er bod y rhan fwyaf o bobl yn nodi bod ganddyn nhw rywfaint o ddiddordeb neu ddiddordeb mawr mewn gwleidyddiaeth ar draws gwahanol feysydd gwleidyddol – gan gynnwys 59% â diddordeb yn etholiad y Senedd – datgelodd yr ymchwil lefelau anghyson o ddealltwriaeth o gyfrifoldebau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.
Roedd tua hanner o'r ymatebwyr naill ai'n anghywir neu'n anymwybodol bod y Senedd yn rheoli'r GIG, amaethyddiaeth a datblygu economaidd, a dim ond 40% o bobl oedd yn gwybod bod gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol bwerau dros blismona.
Mae'r arolwg yn datgelu bwlch gwybodaeth rhwng y cenedlaethau, gyda'r ymatebwyr iau yn llai gwybodus ynghylch pa lefel o lywodraeth sy'n gyfrifol am bob maes polisi. Dim ond 28% o'r ymatebwyr 16–25 oed oedd yn gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am y gwasanaeth iechyd, o gymharu â 62.7% o'r ymatebwyr 65 oed a throsodd.
Mae'r arolwg mawr hefyd yn datgelu diffyg ymddiriedaeth yn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, gyda dros ddwy ran o dair yn nodi ymddiriedaeth gyfyngedig neu ddim ymddiriedaeth o gwbl. Er bod ymddiriedaeth yn Llywodraeth Cymru ychydig yn well, roedd bron i hanner yr ymatebwyr yn dal i nodi diffyg ymddiriedaeth.
Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn teimlo nad oeddent yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau gwleidyddol, gyda dros 60% yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw ddylanwad dros benderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, o gymharu â 52% ar gyfer penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru, ac ychydig dros 40% ar lefel leol.
Pan ofynnwyd iddynt ddisgrifio etholiad y Senedd mewn un gair, mynegodd 83% o'r ymatebwyr emosiynau negyddol, tra bod dim ond 17% yn gadarnhaol – y themâu mwyaf cyffredin oedd siom, rhwystredigaeth a phryder.
Dywedodd Dr Anwen Elias o Brifysgol Aberystwyth, a ysgrifennodd y dadansoddiad o’r canlyniadau ac sy’n cyd-arwain yr astudiaeth:
“Mae’r canfyddiadau hyn yn rhoi cipolwg pwysig ar sut mae pobl yng Nghymru yn deall ac yn ymgysylltu â gwleidyddiaeth ar adeg hollbwysig cyn etholiad y Senedd. Maent yn tynnu sylw at fylchau mewn ymwybyddiaeth o ddiwygiadau etholiadol mawr ac yn codi cwestiynau pwysig am gyfranogiad democrataidd, ymddiriedaeth yn y llywodraeth, a pha mor wybodus y mae pobl yn teimlo wrth wneud penderfyniadau gwleidyddol.
“Ar y cyfan, mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod gan etholwyr Cymru ddiddordeb cyffredinol mewn gwleidyddiaeth, gan gynnwys etholiad y Senedd. Fodd bynnag, mae dealltwriaeth o sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru yn gymysg, ac mae gwybodaeth am y diwygiadau etholiadol ar gyfer yr etholiad nesaf yn gyfyngedig.”
“Mae gwybodaeth am y diwygiadau etholiadol sy’n dod i rym ar gyfer etholiad y Senedd yn gyffredinol yn isel iawn. O fewn y sylfaen wybodaeth isel hon, mae ychydig mwy o ymwybyddiaeth o nifer yr aelodau Senedd a fydd yn cael eu hethol, ac y bydd pob pleidleisiwr, o dan y system etholiadol newydd, yn gallu bwrw un bleidlais yn unig. Mae llai o wybodaeth am nifer yr Aelodau o’r Senedd sy’n cynrychioli pob etholaeth, ac hyd yn oed llai am weithrediad y system rhestr gaeedig o gynrychiolaeth gyfrannol, gyda dim ond ychydig dros un o bob deg yn ei deall.”
Ychwanegodd Dr Bettina Petersohn o Brifysgol Abertawe:
“Mae’r canfyddiadau’n datgelu rhywbeth diddorol am bobl yng Nghymru a’u hagweddau tuag at wleidyddiaeth Cymru. Mae’r ymatebion yn dangos bod gan bobl, ar y cyfan, agweddau cadarnhaol tuag at brosesau democrataidd allweddol yng Nghymru, eu bod yn ymddiddori yn yr etholiad sydd i ddod, a bod y mwyafrif yn credu bod pwy fydd yn ennill etholiad y Senedd yn gwneud gwahaniaeth. Ar yr un pryd, roedd dealltwriaeth am y system etholiadol newydd yn isel ar ddechrau’r ymgyrch etholiadol. Yn gyffredinol, mynegodd pobl hefyd teimlad nad oes ganddynt lawer o ddylanwad dros benderfyniadau a wneir ar gyfer y Deyrnas Gyfunol, ond hefyd yng Nghymru a'r ardal leol.”
Cyflwynir y canfyddiadau yn y papur briffio ‘Ciplun o Ddemocratiaeth a Chymdeithas yng Nghymru: Canfyddiadau Cychwynnol o Astudiaeth Etholiad Cymru, Ebrill 2026’, sy'n edrych ar agweddau allweddol ar ddemocratiaeth a chymdeithas yng Nghymru.
Mae Astudiaeth Etholiad Cymru 2026 yn brosiect ymchwil pedair blynedd a ariennir gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) UKRI.
Mae'r cydweithrediad yn dwyn ynghyd Dr Anwen Elias (Prifysgol Aberystwyth), yr Athro Matt Wall, Dr Bettina Petersohn a Dr Mohsin Hussain (Prifysgol Abertawe), gan weithio mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), fel rhan o fuddsoddiad y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) mewn seilwaith data ar gyfer ymchwil etholiadol.
Mae'r canfyddiadau'n seiliedig ar sampl tebygolrwydd cynrychioliadol o 10,001 o oedolion 16 oed a hŷn yng Nghymru a holwyd rhwng 26 Chwefror a 7 Ebrill 2026 gan Ipsos UK.
