Ymgynghori â rhanddeiliaid ar gyfer adolygiad treftadaeth er mwyn llunio argymhellion meini prawf coffáu newydd

Prifysgol Aberystwyth
18 Mehefin 2026
Bydd ymgynghorydd treftadaeth yn ymgynghori gyda rhanddeiliaid er mwyn darparu gwybodaeth sylfaenol a fydd yn sail i ddatblygu meini prawf coffáu newydd i Brifysgol Aberystwyth.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i feithrin dull cynhwysol a theg i’r ffordd y mae’n ymdrin ag eitem coffaol ar draws ei hystad, mae wedi penodi’r ymgynghorydd treftadaeth i lunio adroddiad a fydd yn gallu ei helpu i wneud penderfyniadau i’r dyfodol.
Dros yr haf, bydd yr ymgynghorydd arbenigol, Dr Marian Gwyn, yn siarad â rhanddeiliaid lleol a chenedlaethol perthnasol er mwyn ymgynghori ar feini prawf coffáu newydd.
Fel rhan o’r adolygiad bydd yr ymgynghorydd yn archwilio gwaith prifysgolion eraill yn y maes ynghyd ag asedau presennol y Brifysgol, ystyried ei chynlluniau ar gyfer buddsoddiadau yn ei hystâd ac ymrwymiadau strategol er mwyn bod yn sefydliad sy’n edrych i’r dyfodol.
Dywedodd Dr Gwyn, sy’n ymgynghorydd treftadaeth o Ynys Môn, a fydd yn cynnal y gwaith:
“Mae nifer o sefydliadau yn edrych ar eu meini prawf coffáu o dro i dro er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn yr arfer gorau. Dros yr wythnosau a misoedd nesaf, bydda i’n casglu barn a gwybodaeth gan amryw o randdeiliad o fewn y Brifysgol a thu hwnt. Gan dynnu ar y canfyddiadau hyn, ynghyd â’r arfer gorau mewn llefydd eraill, bydda i’n datblygu set o argymhellion i helpu i lunio penderfyniadau’r Brifysgol yn y maes hwn i’r dyfodol.”
Ychwanegodd Julie Archer Pennaeth Llywodraethiant Prifysgol Aberystwyth:
“Mae’n bwysig bod y Brifysgol yn dilyn yr arfer gorau o ran y meini prawf rydym yn eu defnyddio wrth fuddsoddi a gwneud penderfyniadau ar draws ein hystad. Ni fydd y gwaith hwn, sy’n gyffredin mewn sefydliadau addysg uwch, yn golygu bod yr ymgynghorydd yn gwneud penderfyniad ei hunan. Mae’n bwysig fodd bynnag bod ganddi hi’r rhyddid i drin a thrafod ystod eang o opsiynau a hynny mewn ymgynghoriad gyda rhanddeiliaid perthnasol.
