Darlithydd milfeddygol yn ennill gwobr genedlaethol am fentora ysbrydoledig

Sharon King yn derbyn Gwobr Mentor Milfeddygol Cymdeithas Milfeddygol Prydain 2026. Llun: Cymdeithas Milfeddygol Prydain

Sharon King yn derbyn Gwobr Mentor Milfeddygol Cymdeithas Milfeddygol Prydain 2026. Llun: Cymdeithas Milfeddygol Prydain

18 Mehefin 2026

Mae darlithydd o’r Ysgol Gwyddorau Milfeddygol gyntaf yng Nghymru wedi cael ei chydnabod â gwobr genedlaethol o fri am ei chyfraniad eithriadol i fentora o fewn y proffesiwn milfeddygol.

Cyflwynwyd Gwobr Mentor Milfeddygol Cymdeithas Milfeddygol Prydain 2026 i Sharon King, Darlithydd Gwyddor Milfeddygol ym Mhrifysgol Aberystwyth a milfeddyg anifeiliaid bach yng ngwasanaethau milfeddygol Downes yn Aberystwyth.

Mae'r wobr, a gefnogir gan Hill's Pet Nutrition, yn dathlu unigolion sy'n mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau i gefnogi ac arwain eraill o fewn y gymuned filfeddygol.

Cydnabuwyd Sharon am ei thosturi a'i hymroddiad cyson i gefnogi myfyrwyr a chydweithwyr, yn enwedig y rhai a allai fel arall deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu.

Tynnodd yr enwebiadau sylw at ei hymagwedd bersonol a chyfannol, gan sicrhau bod unigolion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi nid yn unig fel gweithwyr proffesiynol dan hyfforddiant ond fel pobl, tra hefyd yn canmol ei rôl wrth feithrin hyder, lles a thwf proffesiynol.

Wrth siarad ar ôl derbyn y wobr, dywedodd Sharon King:

"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn golygu llawer iawn i mi. Mae chwarae rôl fach hyd yn oed yn cefnogi a helpu i lywio’r genhedlaeth nesaf o filfeddygon yn fraint go iawn, ac yn un o'r agweddau mwyaf gwerth chweil ar fy ngyrfa.  Rwy'n teimlo'n falch iawn o fod yn rhan o broffesiwn sy'n rhoi cymaint o bwysigrwydd ar fentora a chreu amgylchedd lle mae pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, eu hannog a’u galluogi i ffynnu."

Ychwanegodd yr Athro Darrell Abernethy, Pennaeth Ysgol Gwyddorau Milfeddygol Aberystwyth:

"Rydym yn hynod falch o Sharon a'r gydnabyddiaeth haeddiannol hon. Mae ei hymrwymiad i gefnogi eraill yn ymgorffori'r gwerthoedd yr ydym yn ymdrechu i'w cynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae hi'n fodel rôl eithriadol i'n myfyrwyr ac yn aelod gwerthfawr o'n cymuned addysgu, gan ddangos yr effaith drawsnewidiol y gall mentora meddylgar, tosturiol ei chael ar y genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol milfeddygol."

Agorwyd Ysgol Gwyddorau Milfeddygol Aberystwyth yn swyddogol gan y Brenin Siarl III yn 2021, yn sgil buddsoddiad o £2 filiwn a mwy mewn adnoddau dysgu newydd ar gampws Penglais y Brifysgol.  Mae’n cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio BVSc Gwyddor Filfeddygol ar y cyd â'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, ac cwrs gradd sylfaen mewn Nyrsio Milfeddygol.