Dyfarnu Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Ioan Guile

Aled Rhys Jones, Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, gyda Ioan Guile
14 Gorffennaf 2026
Mae Ioan Guile, tiwtor Cymraeg i oedolion sy'n dysgu, wedi derbyn Cymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Aberystwyth.
Hyfforddodd Ioan Guile, sydd wedi byw yn Aberystwyth ers ei fod yn saith oed, fel athro yng Ngholeg Normal Bangor, gan ennill Tystysgrifau mewn Addysg ac Addysg Ddwyieithog. Ers dros chwarter canrif mae wedi bod yn diwtor dysgu Cymraeg i oedolion.
Ac yntau’n berfformiwr brwd ar lwyfan, mae wedi bod yn ymwneud â Chwmni Theatr y Wardens yn Aberystwyth ers bron i 50 mlynedd ac wedi arwain nifer o ddigwyddiadau cymunedol.
Cyflwynwyd Cymrodoriaeth er Anrhydedd i Ioan Guile gan yr Athro Jamie Medhurst ar 14 Gorffennaf.
Mae'r datganiad cyflwyno llawn i’w weld isod yn yr iaith gyflwyno wreiddiol.
Cyflwyno Ioan Guile gan Yr Athro Jamie Medhurst
Dirprwy Ganghellor, Dirprwy Is-Ganghellor, graddedigion, gyfeillion. Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Ioan Guile yn gymrawd Prifysgol Aberystwyth.
Pro Chancellor, Pro Vice-Chancellor, graduates and supporters. It is an honour and a privilege to present Ioan Guile as a Fellow of Aberystwyth University.
If you were to ask the ubiquitous AI to ‘make me Mr Aberystwyth’, then the person standing beside me now would be the result of that request.
Yn enedigol o Benrhosgarnedd, Bangor (ie, mae e’n ‘gog’), mae wedi byw yn Aberystwyth ers yn saith mlwydd oed. Fe gafodd ei addysgu mewn ysgolion cynradd Cymraeg lleol ac ysgolion Ardwyn a Phenglais. Aeth nôl wedyn i’r gogledd er mwyn hyfforddi fel athro yn y Coleg Normal gan ennill tystysgrifau mewn Addysg ac Addysg Ddwyieithog.
After studying in Bangor, thankfully for us he returned to Aber and has, for over a quarter of a century, been working as a tutor teaching Welsh to adults. Os oes rhywun wedi cyfrannu at y miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, wel, Ioan yw hwnnw. Dwi’n gwybod ei fod yn diwtor sydd wedi ennyn parch cymaint o siaradwyr Cymraeg newydd – mae ei frwdfrydedd heintus a’i angerdd dros yr iaith Gymraeg yn amlwg i bawb sy’n ddigon ffodus i gael astudio gydag e.
The passion, energy and enthusiasm which Ioan exudes in his work as a Welsh-language tutor also extends to his work on stage in pantomime. Oh, yes it does! Sadly, my one and only foray into Panto land – in the 1999 production of ‘Puss in Boots’ as King Roly Poly – was one of the very few years that Ioan did not take part on stage, so we have not had the opportunity to tread the boards together … yet! But whether it’s as Dame Nanny Myfanwy, Baron Hardup, Friar Tuck, or Widow Twankey, I quote from a review of this year’s pantomime: ‘The star of the show is undoubtedly panto royalty'.
In 2020, Ioan received an award from the National Operatic and Dramatic Association in recognition for his contribution to the Wardens Dramatic Society, a company with which he has been associated for almost fifty years.
Ond mae cyfraniad Ioan i Aberystwyth yn mynd y tu hwnt i'r llwyfan a'r pantomeim. Boed yn cynnal sesiwn ‘Desert Island Discs’ yn Eglwys Sant Ioan, Penrhyn-coch (mae llun o'r noson ar Facebook yn ei ddisgrifio fel 'yr Ioan Guile direidus'), yn arwain seremoni cynnau goleuadau Nadolig y dref yn flynyddol, yn cynnal digwyddiadau dirifedi yn yr ardal, ei ddiddordeb mewn hanes lleol ac achau teuluol, neu ei waith elusennol, mae ei gyfraniad at fywyd Aberystwyth dros y blynyddoedd wedi bod yn amhrisiadwy, ac rwyf mor falch heddiw ein bod ni'n gallu anrhydeddu popeth y mae Ioan wedi'i wneud dros ein tref ni.
Dirprwy Ganghellor mae’n bleser gen i gyflwyno Ioan Guile i chi yn Gymrawd.
Pro Chancellor it is my absolute pleasure to present Ioan Guile to you as a Fellow of Aberystwyth University.
Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2026
Bob blwyddyn, mae Prifysgol Aberystwyth yn cyflwyno Dyfarniadau er Anrhydedd i nifer fach o unigolion nodedig er mwyn cydnabod eu cyflawniadau a’u cyfraniad eithriadol yn eu meysydd. Mwy o wybodaeth am Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2026.
