Datblygu cymdeithion DA wedi’u personoli – astudiaeth newydd

Yr Athro Mark Whitehead, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth

Yr Athro Mark Whitehead, Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, Prifysgol Aberystwyth

07 Medi 2026

Potensial cynorthwywyr personol Deallusrwydd Artiffisial (DA) i ddod yn rhan reolaidd o fywydau beunyddiol pobl fydd testun astudiaeth newydd bwysig ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Bydd yr ymchwil yn archwilio datblygiad technolegau DA a ddylunnir i weithredu fel cynorthwywyr personol bythol-barod - a ddisgrifiwyd gan Brif Weithredwr Meta, Mark Zuckerberg, fel "uwch-ddeallusrwydd personol".

Yn wahanol i’r offer DA cynhyrchiol sydd ar gael nawr fel ChatGPT, Claude, Gemini a Meta AI, ni fyddai'r systemau hyn yn dibynnu ar wybodaeth a gafwyd o'r rhyngrwyd agored yn unig. Yn hytrach, byddent yn dysgu'n uniongyrchol o drywydd digidol yr unigolyn, gan gynnwys ei rwydweithiau cymdeithasol, ei arferion teithio, ei ymddygiad fel cwsmer, ei ddewisiadau adloniant a’i ddiddordebau personol.

Mae’r rhai sydd o’i blaid yn dadlau y gallai DA wedi'i bersonoli helpu pobl i reoli eu bywydau cynyddol gymhleth, gwneud gwell penderfyniadau, symleiddio eu bywydau dyddiol, cryfhau eu perthnasoedd, a chynorthwyo â’u nodau personol a phroffesiynol.

Ond mae beirniaid yn rhybuddio y gallai uwch-ddeallusrwydd personol arwain at or-ddibyniaeth ar DA a galluogi dylanwad digynsail ar ddewisiadau unigolion. Maent hefyd yn codi pryderon am breifatrwydd data, bias, ac effaith bosib systemau o'r fath ar ymddiriedaeth mewn rhyngweithio digidol ac yn y byd go iawn.

Ariennir yr ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, ar adeg sy’n gweld y cyhoedd yn ymddiddori’n fwyfwy yng ngoblygiadau cymdeithasol DA.

Dywedodd yr Athro Mark Whitehead o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear Prifysgol Aberystwyth, sy’n arwain yr ymchwil:

"Mae deallusrwydd artiffisial yn esblygu'n gyflym, o offeryn rydyn ni'n ymgynghori ag ef o bryd i'w gilydd, i dechnoleg a allai gael ei wreiddio’n ddwfn ym mywydau bob dydd pobl. Drwy ddysgu o'n trywydd digidol, gallai uwch-ddeallusrwydd wedi’i bersonoli gael dealltwriaeth fanwl am ein perthnasoedd, ein dewisiadau, ein harferion a’n hymddygiad. Y potensial yw y gall helpu pobl i ymgodymu â byd cynyddol gymhleth trwy ddeall eu harferion a'u hanghenion – efallai hyd yn oed yn ein hadnabod yn well nag yr ydym yn ein hadnabod ein hunain.

"Er hynny, un cwestiwn allweddol sy'n llywio ein hymchwil yw hyn: pe gallwn deithio yn ôl ugain mlynedd a rhagweld canlyniadau cymdeithasol y cyfryngau cymdeithasol, pa rybuddion a roddem ni? Trwy ofyn cwestiynau tebyg am DA wedi'i bersonoli heddiw, gobeithiwn helpu i sicrhau bod y technolegau hyn yn cael eu datblygu mewn ffyrdd sy'n sicrhau cymaint o fudd a chyn lleied o niwed annisgwyl â phosib."

Mae cwmnïau fel Meta wedi awgrymu y gallai technolegau gwisgadwy, gan gynnwys sbectol glyfar, fod yn llwyfan allweddol i DA wedi'i bersonoli. Yn y pen draw efallai y gall offer o'r fath ddysgu trwy arsylwi’n barhaus ar elfennau o amgylchiadau a phrofiadau dyddiol y defnyddiwr. Ynghyd â data o weithgarwch ar-lein yr unigolyn, gallai'r arsylwadau hyn o’r byd go iawn olygu bod systemau DA yn gallu dehongli sefyllfaoedd a chynorthwyo ar y pryd.

Ychwanegodd yr Athro Whitehead:

"Dychmygwch gerdded i lawr y stryd ac adnabod wyneb rhywun ond heb gofio’n union pwy ydyw. Gallai’r uwch-ddeallusrwydd personol ddarparu ei enw yn syth, eich atgoffa am y tro diwethaf i chi ei weld, nodi’ch cyd-ddiddordebau, a hyd yn oed awgrymu sut i gychwyn sgwrs.

"Ond er y gallai'r galluoedd hyn ddod â chryn fanteision, maent hefyd yn codi cwestiynau mawr am breifatrwydd, ymreolaeth, ymddiriedaeth a sut beth fydd rhyngweithio dynol yn y dyfodol." 

Bydd prosiect Prifysgol Aberystwyth yn archwilio'r arferion corfforaethol sy'n sylfaen i'r technolegau hyn, a phrofiadau’r bobl sydd eisoes wedi datblygu perthynas agos â systemau DA.

Ar y cyd â’r phryderon presennol am dechnoleg yn ein gwylio a phreifatrwydd data, bydd y prosiect yn craffu ar sut y gall cymdeithion DA efallai ail-lunio’r cof, cyfeillgarwch, sgiliau cymdeithasol, gwneud penderfyniadau a natur ymddiriedaeth.

Bydd yr ymchwil yn nodi’r materion cymdeithasol sy'n dod i'r amlwg, cyn i DA wedi'i bersonoli fynd yn rhan o fywyd bob dydd, i helpu llunwyr polisi, datblygwyr technoleg, a'r cyhoedd i sicrhau’r budd mwyaf posib a lliniaru’r niwed posib.

AU11426