Myfyrwyr yn cyrraedd Aberystwyth wrth i Benwythnos Croeso ddechrau

18 Medi 2026
Bydd miloedd o fyfyrwyr yn cyrraedd Aberystwyth heddiw ac ar hyd y penwythnos, wrth i Brifysgol Aberystwyth baratoi i groesawu myfyrwyr newydd a rhai sy'n dychwelyd ar gyfer ei Phenwythnos Croeso blynyddol.
Bydd myfyrwyr yn symud i lety ac yn cyrraedd y dref rhwng 18 a 20 Medi, cyn i weithgareddau'r Wythnos Groeso ddechrau ddydd Llun.
I lawer o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf, dyma fydd eu profiad cyntaf o fyw yn Aberystwyth a dechrau eu taith brifysgol. Mae dyfodiad blynyddol y myfyrwyr yn un o'r cyfnodau prysuraf yng nghalendr y Brifysgol a’r dref, gan ddod â miloedd o bobl o bob rhan o'r DU ac o bedwar ban byd i Geredigion.
Dywedodd Ian Munton, Cyfarwyddwr Taith y Myfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae'r Penwythnos Croeso yn un o adegau mwyaf cyffrous y flwyddyn wrth i ni ddweud 'Croeso' wrth filoedd o fyfyrwyr sy'n ymuno â chymuned ein Prifysgol.
"Mae ein myfyrwyr nyrsio a gwyddor filfeddygol eisoes wedi dechrau eu cyrsiau, ond mae'r penwythnos hwn yn nodi dechrau'r flwyddyn academaidd i'r rhan fwyaf o'n myfyrwyr.
"Rydym am helpu myfyrwyr i ymgartrefu yn eu cartref newydd a darganfod popeth sy'n gwneud Aberystwyth yn lle mor arbennig i fyw ac astudio, o'r Brifysgol ei hun i'r dref, y cefn gwlad cyfagos a'r arfordir bendigedig.
"Un o'r pethau sy'n gwneud Aberystwyth yn unigryw yw'r croeso cynnes y mae myfyrwyr yn ei dderbyn gan y gymuned leol. Boed yn drigolion lleol, busnesau annibynnol, bariau, bwytai neu gaffis, maen nhw i gyd yn chwarae rhan bwysig wrth helpu ein myfyrwyr i deimlo'n gartrefol yn Aber.
"Mae croesawu miloedd o fyfyrwyr a'u cefnogwyr yn naturiol yn golygu cyfnod prysur yn y dref, ac mae pawb yn y Brifysgol yn hynod ddiolchgar i drigolion a busnesau am eu cefnogaeth barhaus, eu cyfeillgarwch a'u hamynedd."
Mae'r Brifysgol wedi trefnu amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau trwy gydol y Penwythnos Croeso a'r wythnosau i ddilyn i helpu myfyrwyr i ymgartrefu, cwrdd â phobl newydd a pharatoi ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Wrth i'r criw newydd gyrraedd Aberystwyth a pharatoi i ddechrau eu hastudiaethau, mae'r Brifysgol yn diolch i drigolion a busnesau’r dref am helpu i wneud dechrau'r flwyddyn academaidd yn brofiad cadarnhaol i’r myfyrwyr a'u teuluoedd.
