Dyfarnu cymrodoriaeth y Gymdeithas Frenhinol am waith "rhagorol" i ymchwilydd o Aberystwyth

Dr Hannah Rees, Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
15 Hydref 2026
Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn Cymrodoriaeth nodedig Dorothy Hodgkin 2026, sy'n cefnogi gwyddonwyr "rhagorol" ar ddechrau eu gyrfa.
Bydd Dr Hannah Rees, o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, yn derbyn dros £1.8m i ariannu wyth mlynedd o ymchwil.
Bwriad Dr Rees yw defnyddio'r arian i astudio a yw morwellt wedi esblygu clociau sy’n dilyn llif y llanw, gan eu helpu i newid eu hymddygiad yn unol â newidiadau disgwyliedig yn y llanw.
Mae morwellt yn chwarae rhan allweddol wrth feithrin bioamrywiaeth bywyd môr. Maen nhw’n gartref i bysgod arbennig o brin ac maen nhw’n gyfrifol am ddal 10% o’r carbon yn y cefnfor.
Dywedodd Dr Rees: "Mae morwellt yn rhywogaeth hynod ddiddorol. Maen nhw’n ganolog i ecosystem y cefnforoedd ac mae eu gwreiddiau’n helpu i amddiffyn ein harfordir. Diolch i'r Gymdeithas Frenhinol, byddaf yn gallu astudio sut mae clociau biolegol mewn morwellt yn gweithio a sut y gellir eu defnyddio i gynorthwyo ymdrechion adfer. O ganfod clociau sy’n dilyn cylchred y llanw mewn morwellt, byddwn wedi dadlennu mecanwaith amseru hollol newydd mewn planhigion blodeuol – mae’n gyffrous dros ben!
“Mae'n anrhydedd enfawr cael bod yn un o’r sawl sy’n derbyn Cymrodoriaeth Dorothy Hodgkin eleni. Mae'n chwarae rôl bwysig o ran helpu academyddion sydd â chyfrifoldebau gofalu i gael yr amser a'r gefnogaeth i gynnal ymchwil.”
Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS: "Rydyn ni wrth ein bodd bod Hannah wedi derbyn Cymrodoriaeth Dorothy Hodgkin. Mae’r wobr fawreddog hon yn cydnabod ei photensial eithriadol fel ymchwilydd ac arwyddocâd rhyngwladol ei gwaith.
“Bydd ymchwil Hannah yn gwella ein dealltwriaeth o ecosystemau morwellt, sy’n dod yn fwyfwy pwysig o ran adfer bioamrywiaeth, gwytnwch arfordirol a storio carbon. Mae’r Gymrodoriaeth yn fuddsoddiad sylweddol mewn gwyddonydd rhagorol sydd ar ddechrau ei gyrfa, ac mae’n atgyfnerthu ymhellach gryfder y gwyddorau planhigion ac amgylcheddol yn IBERS.”
Dywedodd Syr Paul Nurse, Llywydd y Gymdeithas Frenhinol: "Rwy'n falch iawn o groesawu'r garfan ddiweddaraf hon o Gymrodyr Dorothy Hodgkin. Mae'r gwyddonwyr hynod fedrus yma’n cynrychioli'r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr a fydd yn arwain y byd yn eu meysydd.
"Mae cefnogi ymchwilwyr rhagorol ar ddechrau eu gyrfa wrth iddyn nhw fynd ar drywydd syniadau uchelgeisiol a gwreiddiol yn hanfodol i ddyfodol gwyddoniaeth. Mae'r Gymdeithas Frenhinol yn falch o ddarparu'r cyllid a'r gefnogaeth hirdymor sy'n helpu i feithrin talent eithriadol."
AU23026
