Oriel Yr Atriwm

Mae'r Hen Goleg yn cael ei drawsnewid yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol newydd o bwys.

Mae’r atriwm yn rhan annatod o'r prosiect uchelgeisiol hwn ac wedi'i gynllunio i wneud yr Hen Goleg yn hygyrch i bawb am y tro cyntaf er ei adeiladu 160 mlynedd yn ôl.

Wedi'i leoli ar safle hen adeilad Ystadau'r Brifysgol, mae'r gwaith wedi golygu cloddio ac adeiladu craidd concrit saith llawr sydd wedi'i atgyfnerthu â dur.

Yn ymestyn allan o'r craidd mae'r ffrâm ddur ar gyfer yr ystafell ddigwyddiadau newydd ar gyfer hyd at 220 o westeion â golygfeydd gwych dros Fae Ceredigion.

Mae'r gwaith wedi'i ddogfennu yn y gyfres ganlynol o luniau.

 

Oriel 1

Hen adeilad Swyddfa'r Ystadau cyn ei ddymchwel, cloddio islawr yr atriwm a chyrraedd lefel y ddaear.

Golygfa o’r hen Adeilad Ystadau (gwyn) wrth edrych tuag at Heol y Wig.
Yr olygfa o Stryd y Brenin wrth i’r gwaith ar y ddwy fila Sioraidd fynd yn ei flaen.
Tynnu scaffaldiau yng nghefn y ddwy fila Sioraidd.
Gwaith paratoi’r mat ar gyfer gosod pileri concrit.
Gorffen gosod a phrofi’r mat cyn gosod y pileri concrit.
Dechrau’r gwaith o osod y pileri concrit.
Gosod y pileri concrit.
Dechrau cloddio’r islawr.
Cloddio’r islawr.
Datgelu darnau uchaf y pileri concrit er mwyn paratoi i osod trawst concrit ar eu pennau.
Gosod ‘shotcrete’ ar wal y Cambria er mwyn sefydlogi’r gwaith carreg islaw lefel y ddaear.
Gosod ‘shotcrete’.
Atgyfnerthu seiliau’r ddwy fila er mwyn caniatáu cloddio pellach o’r islawr i’r lefel angenrheidiol.
Atgyfnerthu seiliau’r Cambria.
Atgyfnerthu seiliau’r ddwy fila’n parhau.
Cloddio’r islawr yn parhau.
Codi gweddill y deunydd.
Nodi cwblhau’r gwaith o gloddio’r islawr ar safle’r atriwm – Tachwedd 2024.
Dechrau gosod y ffrâm ddur fydd yn atgyfnerthu slab concrit yr islawr.
Arllwys y concrit ar gyfer y slab.
Gosod y ffrâm ddur sy’n atgyfnerthu waliau’r islawr.
Parhau i osod y ffrâm ddur sy’n atgyfnerthu waliau’r islawr.
Gosod y ffrâm ddur sy’n atgyfnerthu slab  y llawr gwaelod.
Aelodau o staff Andrew Scott Cyf, Prif Gontractwr Prosiect yr Hen Goleg, a’r is-gontractwr M&C Civils, yn nodi cwblhau slab concrit llawr gwaelod yr atriwm – Ebrill 2025.

Oriel 2

Adeiladu'r pum llawr o lefel y ddaear i fyny at do'r atriwm.

Oriel 3

Adeiladu’r ffrâm ddur sy'n codi oddi ar graidd concrit saith llawr yr atriwm. Mae iddi 73 darn sy’n pwyso cyfanswm o 115 tunnell. Cyflenwyd a gosodwyd y dur gan Dollcast Ltd o dde Cymru gyda chefnogaeth Davies Cranes Ltd o Gaerfyrddin.

Oriel 4

Mehefin 2026. Nodi cwblhau Craidd Concrit a Ffrâm Ddur Atriwm yr Hen Goleg (o'r chwith i'r dde); Neil Smart (Goruchwyliwr Craen), Davies Cranes; Jim O'Rourke, Rheolwr Prosiect yr Hen Goleg, Prifysgol Aberystwyth; Justin Rees (Gweithredwr Craen), Davies Cranes; Lyn Hopkins, Uwch Gysylltydd / Uwch Bensaer, Lawray Architects; Colin Phillips, Rheolwr Cost a Phrosiect Cysylltiol, Blake Morgan; Shaun Davies, Uwch Reolwr Prosiect yr Hen Goleg, Andrew Scott; Calum Duncan, Asiant Safle, Andrew Scott; Stephen Lewis (Goruchwyliwr/Gweithiwr Cyffredinol), Andrew Scott.