Celfyddyd y Sgaffaldiau

Rob Jenkins o Rowecord Total Access Limited sydd wedi arwain gwaith adeiladu'r sgaffaldiau ar brosiect yr Hen Goleg.

Rob Jenkins o Rowecord Total Access Limited sydd wedi arwain gwaith adeiladu'r sgaffaldiau ar brosiect yr Hen Goleg.

03 Hydref 2025

Wrth i’r gwaith o drawsnewid yr Hen Goleg brysuro, un o’r nodweddion sydd wedi diffinio’r prosiect uchelgeisiol hwn yw'r sgaffaldiau sydd wedi'u lapio o amgylch yr adeilad rhestredig Gradd 1.

Mae'r ffigyrau’n drawiadol; danfonwyd 93 cilomedr o diwbiau sy'n pwyso dros 400 tunnell i'r safle gan y contractwr sgaffaldiau o Abertawe, Rowecord Total Access Limited, ynghyd â 17,600 o ystyllod pren a 138,000 o ffitiadau.

O’u gosod ben wrth gynffon, byddai'r tiwbiau’n ymestyn yr holl ffordd o Aberystwyth i bencadlys prif gontractwr y prosiect Andrew Scott Cyf yn Abertawe.

Yn ychwanegol at y rhain mae'r llu o risiau, ysgolion a gatiau sy'n darparu mynediad i bob un o'r 14 llawr, neu 'lifftiau' fel y'u gelwir yn y diwydiant, a'r hoistiau sy'n hanfodol i godi’r holl offer a deunyddiau i lle mae eu hangen.

Yr Hen Goleg wedi'i lapio mewn sgaffaldiau, gan gynnwys y deuddeg lefel oedd eu hangen ar gyfer ail-doi tyredau De Seddon sydd ar ochr dde'r llun.

Yr hyn sy'n fwy nodedig yw cymhlethdod y set Meccano anferth hon sydd wedi'i hadeiladu gan dîm bach, ymroddedig dan arweiniad y Goruchwyliwr Safle Rob Jenkins.

Gyda dros 30 mlynedd o brofiad, mae Rob wedi gweithio ar adeiladau o bob lliw a llun, o dai i burfeydd olew, yn ogystal â phrosiectau treftadaeth fel Pont Gludo Casnewydd.

Yn fwy diweddar, bu'n rhan o ailddatblygiad Neuadd Pantycelyn Prifysgol Aberystwyth.

Aelodau'r tîm sgaffaldiau (o'r chwith i'r dde) Craig Locke, Richard Newton, Matthew Davies, John Donne, Richard Cope a Rob Jenkins.

Un o'r heriau mwyaf ar yr Hen Goleg i Rob a’i dîm fu amddiffyn y gwaith carreg sy'n golygu nad yw'r sgaffaldiau prin yn cyffwrdd â thu allan yr adeilad o gwbl.

“Fel arfer, byddem yn gosod angorau yn y garreg neu ar wyneb yr adeilad, ond gyda’r Hen Goleg allwn ni ddim gan y byddai’n difrodi’r garreg addurniadol. Felly, rydym yn clymu trwy’r ffenestri ac wedi gorfod trefnu fod y gosodwyr ffenestri yn tynnu paneli o wydr allan fel y gallwn roi tiwbiau y tu mewn, trwy’r adeilad.”

Prin yn cyffwrdd â’r waliau, mae sgaffaldiau’r Hen Goleg wedi’u cynllunio i beidio difrodi’r gwaith carreg.

“Wrth godi’r sgaffaldiau i fyny at y toeau, fe wnaethon ni osod haen amddiffynnol o ewyn o dan yr ystyllod er mwyn peidio difrodi’r llechi. Mae’n rhaid cymryd gofal ychwanegol bob cam o’r ffordd, mae hyn yn wahanol i sgaffaldio arferol dydd i ddydd.”

Erbyn i’r Hen Goleg gael ei gwblhau, bydd 70,000 o lechi, rhai’n newydd a rhai o’r hen lechi, wedi’u gosod ar y to.

Er mwyn galluogi Greenough & Sons Roofing Contractors o Ynys Môn i wneud y gwaith, mae’r sgaffaldiau wedi’u haddasu’n barhaus, weithiau’n ddyddiol.

Mae hefyd wedi bod yn allweddol i adnewyddu/newid y 664 o ffenestri pren, y 209 o ffenestri dur, a'r rhai lle mae'r gwydr yn eistedd mewn fframiau carreg.

Yn ychwanegol at hynny mae atgyweirio a newid y gwaith carreg a'r gargoeliau a'r grotesgau sy'n addurno'r adeilad, ailbwyntio'r ffasâd carreg, adnewyddu’r 17 simnai ac adeiladu'r atriwm saith llawr newydd.

“Mae gennym berthynas agos â'r seiri maen, y towyr a'r gosodwyr ffenestri. Rydym wedi dod i'w deall ac maen nhw wedi dod i ddeall y ffordd ry ni’n gweithio. Yn amlwg, rydym yn ceisio gweithio i'r hyn sydd ei angen arnynt, i'w cadw'n hapus ac mewn amgylchedd gwaith diogel, gofod diogel. Mae'n gweithio'n dda, rydym ar delerau enw cyntaf ac rydym wedi dod i adnabod ein gilydd ac rydym i gyd yn ffrindiau nawr. Rwy'n mentro dweud y byddwn yn cadw mewn cysylltiad ar ôl cwblhau’r gwaith hwn.”

Linteli carreg newydd wedi'u gosod uwchben ffenestri ar Stryd y Brenin.

Mae Rob yn cydnabod mai dyma'r adeilad mwyaf heriol iddo weithio arno.

Nid y gofynion o weithio ar adeilad rhestredig Gradd 1 yn unig sy’n gyfrifol am hyn, mae natur gyfyngedig y safle wedi golygu bod symud deunyddiau i ble mae eu hangen yn cymryd llawer mwy o amser nag ar lawer o safleoedd eraill lle mae wedi gweithio.

“Mae popeth yn cymryd ddwywaith yr amser oherwydd bod yn rhaid i chi fod mor ofalus, a'r logisteg, mae'r holl ddeunyddiau ym mhen pellaf y safle oherwydd nad oes llawer o le.”

Ond mae hefyd wedi rhoi llawer o bleser.

Byw ar yr ymyl; codi sgaffaldiau’r tŵr.

Ym mis Awst cyrhaeddodd y tîm y pwynt uchaf ar y prosiect, y tŵr.

Y briff oedd creu lle i gydweithwyr ailosod to concrit gwastad y tŵr heb orfod ymdopi â'r gwynt a'r glaw.

Yn unol gyda llawer o'r gwaith, datblygwyd cynllun penodol gan ddylunwyr sgaffaldiau i Rob a'i dîm weithio ohono.

Roedd angen 14 lefel o sgaffaldiau, neu ‘lifftiau’ fel y’u gelwir yn y diwydiant, ar gyfer y tŵr, y pwynt uchaf ar yr Hen Goleg.

Cyn dechrau ar y tŵr, dywedodd Rob: “Y darn fydd yn rhoi’r boddhad mwyaf i mi yw’r tŵr. Mae eisoes wedi gwneud hynny oherwydd y dyluniad, oherwydd nad yw’r rhan fwyaf ohono’n cyffwrdd â’r llawr, a phan fyddwn yn gosod y to, hwnna fydd darn ola’r jig-so.”

Mae to’r Cwad, gyda'i sgaffaldiau cantilifer, a thyred crwn De Seddon hefyd yn destun boddhad.

“Oherwydd onglau'r waliau, cylch gwirioneddol y tyred, roedd y gwaith hwnnw’n ddiddorol a dweud y lleiaf. Ar ôl i chi orffen ry chi’n gallu camu’n ôl ac edrych, ac mae'n edrych yn dda.”

Adeiladu Gwesty'r Castell tua 1865; sgaffaldiau’r oes a fu.

Wedi'i harneisio a'i glymu am lawer o'i amser uwchlaw’r Hen Goleg, mae Rob yn ymwybodol iawn o'r peryglon a wynebodd adeiladwyr Gwesty'r Castell yn ôl yn y 1860au.

“Parch mawr iddyn nhw i fod yn onest, yr hyn a wnaethon nhw i adeiladu'r lle, roedden nhw'n bendant yn arwyr. Mae'r hen luniau'n anhygoel i'w gweld.”

Er bod yr adeilad ei hun wedi newid yn sylweddol ers dod yn gartref i goleg prifysgol cyntaf Cymru, mae'r gwylanod yn parhau i reoli fyny fri.

Yn ystod y tymor nythu, o ddiwedd Mawrth tan ddiwedd Awst, mae'r gwaith yn cael ei gynllunio'n ofalus i ganiatáu i'r adar ddeor eu hwyau heb gael eu haflonyddu, ac yn ailddechrau pan fydd y cywion wedi gadael y nyth.

Wrth amddiffyn eu cywion, mae presenoldeb y gwylanod ar yr Hen Goleg yn amlwg.

“Heb os, d’yw gwylanod Aberystwyth ddim yn gyfeillgar iawn! Dydyn ni ddim yn gweld llawer ohonyn nhw yn y gaeaf, ond yn y gwanwyn a'r haf maen nhw i gyd yn dod yn ôl i'n gweld ni, ac maen nhw ar bob copa ar y coleg, y simneiau, y tu ôl i waliau’r parapet, ym mhobman. Rwy'n siŵr bod yr un rhai yn dod yn ôl flwyddyn ar ôl blwyddyn, magu’u hifanc, ac yn aros yma am ychydig fisoedd cyn mynd unwaith eto. Da o beth bod gennym hetiau caled!”

Wrth i'r hydref gyrraedd, mae'r sgaffaldiau ar De Seddon yn cael eu gostwng yn raddol.

Cyn bo hir, bydd y mosaig, a grëwyd gan yr artist Charles F A Voysey gyda'i liwiau bywiog, yn dominyddu'r olygfa o'r Castell o’r newydd, ond i lawer sydd wedi rhyfeddu at eu cymhlethdod, mae'r sgaffaldiau sydd wedi'i guddio wedi bod yn waith o gelfyddyd yn eu hunain.

Mosaig yr Hen Goleg.

Ar ôl goroesi'r amgylchedd glan môr llym a stormydd y gaeaf, nid yw'n syndod bod ei dynnu i lawr yn cymryd ychydig mwy gan fod yr heli wedi treiddio i'r ffitiadau.

I Rob, un o'r bobl gyntaf ar y safle, bydd yn edrych yn ôl ar ei gyfnod ar yr Hen Goleg ac yn teimlo ei fod wedi cyflawni rhywbeth gwerth chweil.

“Mae'n bendant yn fraint gweithio ar rhywbeth fel hwn. Hoffwn ddod i fyny yma ar ôl iddo gael ei orffen, cerdded o gwmpas a chamu'n ôl a dweud, ie, fe wnaethon ni weithio ar hwnna a gweld sut olwg sydd arno pan fydd wedi'i gwblhau.

“Bydd yn bleser pan fydd y cyfan wedi'i orffen, a'r tiwb olaf wedi'i gario o ‘ma.”

Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth y DU, Cronfa Cymunedau'r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol ac unigolion.