Atriwm newydd yn allweddol i ddatgloi potensial enfawr yr Hen Goleg
28 Mawrth 2024
Bydd mynedfa ac atriwm newydd yng nghefn yr Hen Goleg yn datgloi potensial aruthrol yr adeilad hanesyddol rhestredig gradd 1 yn ôl Lyn Hopkins o gwmni penseiri’r prosiect, Lawray.
Mosaig yr Hen Goleg
29 Tachwedd 2023
Ddiwedd yr 1800au cafodd ei ddifrïo a’i alw’n "flotyn" ac yn "anffodus", ond mae'r mosaig ar ben deheuol Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth wedi dod yn un o nodweddion diffiniol yr adeilad Gothig eiconig o Oes Fictoria.
Cydnabod myfyrwraig gyfranodd at ddatrys cod Enigma
30 Tachwedd 2023
Mi fydd ystafell seminar yn Hen Goleg Prifysgol Aberystwyth yn cael ei henwi er cof am gyn-fyfyrwraig gyfrannodd at ddatrys y cod Enigma yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Dechrau gwaith i ailddatblygu maes parcio Eglwys Mihangel Sant
02 Hydref 2023
Bydd gwaith i ailddatblygu maes parcio Eglwys Mihangel Sant yn Aberystwyth yn dechrau’r wythnos hon fel rhan o gynllun uchelgeisiol i roi bywydd newydd i'r Hen Goleg.
Gwaith adnewyddu’n dechrau ar yr Hen Goleg
12 Mehefin 2023
Mae cyfnod adnewyddu prosiect yr Hen Goleg wedi dechrau wrth i waith ar waliau cerrig, ffenestri a tho’r adeilad sydd wedi ei ddifrodi gan stormydd fynd yn ei flaen.