Prentisiaid yn dysgu eu crefft yn yr Heg Goleg
Tomi Williams
29 Mai 2025
Mae cartref Coleg Prifysgol cyntaf Cymru yn cynnig amgylchedd dysgu cyfoethog i genhedlaeth newydd o adeiladwyr proffesiynol.
Mae’r Hen Goleg yn cael ei drawsnewid yn ganolfan ddiwylliannol a chreadigol newydd o bwys gan brif gontractwr y prosiect, Andrew Scott Cyf o Abertawe, cwmni sydd â hanes rhagorol o waith ym maes treftadaeth.
Mae portffolio’r cwmni’n cynnwys Castell Aberteifi a wobrwywyd gan Channel 4, Parc Margam, a Gerddi Dyffryn ym Mro Morgannwg.
Gyda thua 120 o staff yn gweithio ar y safle ar unrhyw adeg, mae prosiect yr Hen Goleg wedi denu crefftwyr arbenigol, gan gynnwys tôwyr, gweithwyr plwm, seiri maen, plastrwyr calch a seiri treftadaeth, o bob rhan o’r Deyrnas Gyfunol.
Yn gweithio ac yn dysgu ochr yn ochr â nhw mae cenhedlaeth newydd o adeiladwyr proffesiynol ym maes treftadaeth sy'n elwa o heriau niferus ac amrywiol yr adeilad rhestredig gradd 1 a'r angen i gyfuno technegau adeiladu traddodiadol â phrosesau ac offer modern.
Maent yn cynnwys syrfewyr meintiau a pheirianwyr sifil, mecanyddol a thrydanol yn ogystal â chrefftau treftadaeth mwy traddodiadol.
I Shaun Davies, sy’n rheoli’r prosiect ar ran Andrew Scott Cyf, mae prosiectau treftadaeth fel yr Hen Goleg yn cadw sgiliau adeiladu traddodiadol yn fyw.
“Rydym yn ymfalchïo’n fawr yn llwyddiant ein prentisiaid yn Andrew Scott Cyf ac yn gweithio’n agos gyda cholegau a darparwyr hyfforddiant ar draws de Cymru a thu hwnt i ddarparu’r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt i ddatblygu eu gyrfaoedd.”
“Mae prentisiaeth ar brosiect fel yr Hen Goleg yn anarferol ac yn gyfle gwych a fydd yn sicr yn agor drysau. Yn y coleg, bydd prentisiaid yn astudio technegau adeiladu modern sy’n aml yn defnyddio systemau adeiladu modiwlaidd tra bod yr Hen Goleg yn rhoi cipolwg iddynt ar sut roedd adeiladau’n cael eu codi 150 mlynedd yn ôl. Drwy weithio gyda phobl proffesiynol profiadol ar brosiect fel hwn, maen nhw’n elwa o’r blynyddoedd o brofiad sydd o’u cwmpas – gallwch chi weld y crefftau’n cael eu trosglwyddo o un genhedlaeth i’r llall.”
“Mae gan brentisiaid sydd wedi cyfuno eu sgiliau treftadaeth â thechnegau adeiladu mwy modern fantais yn y gweithle hefyd. Wedi’u hyfforddi’n llawn, gallan nhw droi eu llaw at weithio ar safleoedd adeiladu modern a chymryd heriau mwy crefftus prosiectau treftadaeth pan fyddan nhw’n codi. Ac, yn aml, bydd cwmnïau adeiladu yn y sector treftadaeth yn mynd yr ail filltir i sicrhau gwasanaethau’r crefftwyr medrus sydd eu hangen arnyn nhw i ymgymryd â phrosiect fel yr Hen Goleg.”
“Yn ogystal â phrentisiaethau cydnabyddedig, mae prosiect yr Hen Goleg yn darparu cyfleoedd i bobl sydd heb brofiad blaenorol o weithio ym maes adeiladu ac rydym ni’n mawr obeithio y bydd eu profiad ar y prosiect yn eu hysbrydoli i ddatblygu’r sgiliau y maen nhw’n eu dysgu yma ac adeiladu gyrfa yn y sector treftadaeth.”
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn prentisiaeth gydag Andrew Scott Cyf yn ardal Aberystwyth gysylltu â careers@andrewscott.co.uk.
Prentisiaid yr Hen Goleg
Ellis Evans, 22
Prentis Technegol Peirianneg Sifil, Andrew Scott Cyf
Yn wreiddiol o Gastell Nedd, ymunodd Ellis ag Andrew Scott Cyf ym mis Awst 2021 a dechreuodd weithio ar brosiect yr Hen Goleg ym mis Hydref 2023. Fel Prentis Technegol Peirianneg Sifil, mae Ellis yn agosáu at ddiwedd cymhwyster Tystysgrif Cenedlaethol Uwch dwy flynedd yng Ngholeg Afan, Port Talbot, sy’n rhan o grŵp NPCT, ac mae’n gobeithio symud ymlaen i radd ac yn y pen draw i reoli prosiect. Bydd wythnos arferol yn ei weld yn gweithio tridiau ar yr Hen Goleg, diwrnod yn y coleg a diwrnod ar safle arall Andrew Scott.
“Nid yw cyfle i weithio ar adeilad rhestredig gradd 1 fel hwn yn dod yn aml iawn. I ddechrau bûm yn gweithio ar agoriadau a lloriau strwythurol newydd a oedd yn cael eu creu, ond yn fwy diweddar rwyf wedi bod yn gweithio ar yr atriwm newydd, yn gwirio llinell a lefel wrth i’r concrit gael ei arllwys i wneud y waliau a’r llawr gwaelod newydd. Mae hwn yn amgylchedd gwych i ddysgu mwy am ddyluniadau a manylebau ac i elwa o brofiadau cymaint o’r bobl sy’n gweithio ar y prosiect. Mae Peirianneg Sifil yn golygu llawer o ddylunio cyfrifiadurol, ond yn yr Hen Goleg rwy’n aml yn dal fy hun yn edrych i fyny ac yn gofyn sut gafodd hyn i gyd ei wneud yr holl flynyddoedd yn ôl?”
Tomi Williams, 19
Prentis Technegol Syrfëwr Meintiau, Andrew Scott Cyf
Mae Tomi, sydd o Llanbedr Pont Steffan, yn Brentis Technegol Syrfëwr Meintiau gydag Andrew Scott Cyf. Ymunodd â phrosiect yr Hen Goleg o’r ysgol ym mis Awst 2023 trwy Gynllun Prentisiaeth Ar y Cyd Sgiliau Adeiladu Cyfle ac mae’n agosáu at ddiwedd cymhwyster BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu dwy flynedd yng Ngholeg Castell Nedd, sy’n rhan o grŵp NPCT, lle mae’n astudio diwrnod yr wythnos. Mae'n gobeithio dechrau ar radd pedair blynedd mewn Mesur Meintiau a Rheolaeth Adeiladu ym mis Medi gan barhau i gyfuno gwaith ac astudio.
“Mae prentisiaeth yn rhoi’r gorau o ddau fyd i mi, profiad o weithio ar brosiect byw go iawn ac astudio agweddau technegol yn y coleg. Yn y gwaith, yn aml y pethau bychain sy’n gwneud gwahaniaeth, yr amgylchedd gwaith, siarad â chontractwyr a dysgu gan bobl sydd wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers blynyddoedd lawer. Wrth gerdded drwy’r Hen Goleg, gallwch chi weld y math o waith rydyn ni’n delio ag ef, o’r gwaith carreg treftadaeth i’r toeau helaeth a’r cannoedd o ffenestri sy’n cael eu hadnewyddu. Rwy’n falch o fod wedi chwarae fy rhan yn hanes yr adeilad anhygoel hwn. Mae hefyd wedi bod yn gyfle gwych i ddechrau fy ngyrfa broffesiynol mor agos at adref.”
Kitty Gooch, 27
Adferwr ffenestri, Gary Davies Historical Carpenter Restoration Wales Cyf.
Ymunodd Kitty â phrosiect yr Hen Goleg yn 2023 fel aelod o dîm Gary Davies Historical Carpenter Restoration Wales Cyf sy’n adnewyddu’r ffenestri fframiau pren. Heb unrhyw brofiad blaenorol o waith treftadaeth, mae hi wedi bod yn dysgu yn y swydd; tynnu ffenestri, stripio paent a thynnu hen wydr cyn eu trosglwyddo at seiri treftadaeth y tîm. Unwaith y bydd y fframiau wedi'u hadfer, mae Kitty yn gosod gwydr diogelwch treftadaeth newydd os nad yw'n bosibl cadw'r gwydr gwreiddiol.
“Prosiect yr Hen Goleg yw fy mhrofiad cyntaf o weithio ar safle adeiladu. Rwy’n mwynhau natur gorfforol y gwaith, mae’n well gen i hynny nac eistedd wrth ddesg. Mae pob diwrnod yn wahanol, rwy’n teimlo fy mod i’n dysgu rhywbeth newydd drwy’r amser am y grefft o adfer ac ailosod ffenestri. Mae pob ffenestr yn unigryw ac mae gweithio gyda gwydr treftadaeth yn gofyn am amodau arbennig. Mae hefyd yn gyfle i ddysgu oddi wrth grefftwyr eraill gan ein bod yn gweithio’n agos gyda seiri maen wrth i ni baratoi’r ffenestri. Mae’r Hen Goleg wedi rhoi i mi’r awydd i ennill cymhwyster ffurfiol mewn gwaith treftadaeth. Mae'r adeilad hefyd yn siarad â ni - yn ddiweddar roeddwn i'n tynnu ffenestr y gweithiwyd arni ddiwethaf ym 1973. Ar y ffrâm roedd y geiriau “Pa mor hir wnaethon nhw bara?”.
Richard Blinston, 35
Saer Coed Treftadaeth, Gary Davies Historical Carpenter Restoration Wales Cyf.
Mae Richard yn saer treftadaeth ac yn gweithio i Gary Davies Historical Carpenter Restoration Wales Ltd sy’n gyfrifol am adfer y ffenestri ffrâm bren ar yr Hen Goleg. Dechreuodd Richard weithio ar brosiect yr Hen Goleg yn haf 2023 ar ôl cymhwyso fel saer safle yn 2008. Trwy Gynllun Prentisiaeth Ar y Cyd Sgiliau Adeiladu Cyfle, mynychodd Ganolfan Tywi yn Llandeilo am bedair wythnos dros gyfnod o 12 mis, tra’n parhau i weithio ar brosiect yr Hen Goleg. Cymhwysodd Richard gyda NVQ lefel 3 mewn Sgiliau Adeiladu Treftadaeth ym mis Rhagfyr 2024.
“Mae prosiect yr Hen Goleg wedi rhoi’r cyfle i mi ddod yn saer treftadaeth. Mae’r gwaith ar y safle yn amrywiol, pob ffenestr yn wahanol ac mae gallu adfer pob un i’w gogoniant gwreiddiol yn rhoi boddhad mawr. Mae mynychu Canolfan Tywi yn Llandeilo wedi rhoi’r hyder i mi ddatblygu fy sgiliau saer treftadaeth tra’n dysgu gan eraill, ac mae’r profiad o weithio ar brosiect yr Hen Goleg wedi fy ysbrydoli i chwilio am ragor o waith treftadaeth, pan fydd ein gwaith yma wedi ei orffen.”
Mark Knight, 19
Prentis Töwr, Greenough & Sons Roofing Contractors Cyf
Ymunodd Mark â’r cwmni toi o Ynys Môn, Greenough & Sons Roofing Contractors Cyf, ym mis Gorffennaf 2022 fel prentis yn gweithio ar adnewyddu Neuadd y Dref Manceinion. Dechreuodd weithio ar yr Hen Goleg ym mis Rhagfyr 2023. Fel rhan o’i brentisiaeth, mae Mark yn mynychu Canolfan Hyfforddi Gwaith To Simian yn Warrington am wythnos bob mis. Ym mis Chwefror 2025 enillodd wobr Prentis To Pitch y Flwyddyn Simian am ei “grefftwaith eithriadol, gallu technegol, a sylw at fanylder”.
“Mae’n deimlad gwych gweithio ar adeilad fel yr Hen Goleg, dwi wrth fy modd yn dysgu am hanes hen adeiladau. Mae gweithio ar dyredau De Seddon yn arbennig wedi bod yn dipyn o brofiad ac yn rhywbeth i’w gofio – mae’n gyfle prin i wneud y math yma o waith. Byddwn i wrth fy modd yn mynd ymhellach gyda gwaith treftadaeth, mae’n rhoi boddhad mawr, cymaint ohono ddim yn sgwâr neu’n lefel ond angen iddo edrych yn iawn. Mae’r brentisiaeth yn edrych ar bob math o waith to, gan gynnwys gosod paneli solar, ond mae’r gwaith treftadaeth, fel ar yr Hen Goleg, yn cael ei ddysgu ar y safle.”
Daniel Knight, 18
Prentis Töwr, Greenough & Sons Roofing Contractors Cyf
Dilynodd Daniel ei frawd Mark i’r diwydiant toi pan ddaeth yn brentis töwr gyda Greenough & Sons Roofing Contractors Cyf ym mis Hydref 2023. Mae Daniel hefyd yn mynychu Canolfan Hyfforddi Gwaith To Simian yn Warrington am wythnos bob mis ac ym mis Chwefror 2025 daeth yn ail i’w frawd Mark yng nghystadeluaeth Prentis To Pitch y Flwyddyn Simian.
“Rwy’ wrth fy modd yn edrych ar fy ngwaith ac yn ymfalchïo yn yr hyn rwy’n ei wneud – y teimlad hwnnw o gamu’n ôl pan fydd darn wedi’i gwblhau a dweud “ni wnaeth hwnna!”. Mae gweithio gyda llechi yn rhyfeddol, adnabod pob llechen a gwrando arni wrth i chi ei thorri, sut maen nhw’n plethu gyda’i gilydd i ffurfio patrymau ac yn plygu mewn gwahanol ffyrdd – mae’n gelfyddyd i’w gosod. Torrwyd pob llechen ar dyredau De Seddon yn unigol gyda morthwyl llechi. Gallwn i fod wedi defnyddio ‘grinder’ ond roedd morthwyl llechi traddodiadol a wnaed dros 150 o flynyddoedd yn ôl, tua’r adeg pan oedd yr Hen Goleg yn cael ei adeiladu, yn gweithio cymaint yn well.”
Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, Cronfa Cymunedau’r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol ac unigolion.