Cydnabyddiaeth i gwmni adeiladu'r Hen Goleg

24 Ebrill 2025

Mae prif gontractwr prosiect yr Hen Goleg wedi cael ei gydnabod mewn seremoni wobrwyo fawr y diwydiant adeiladu yn y DU.

Cyflwynwyd gwobrau Efydd i Andrew Scott Cyf yng Ngwobrau Safle Cenedlaethol 2025 Cynllun Adeiladwyr Ystyriol gafod eu cynnal ym Manceinion ym mis Ebrill.

Gwobrwywyd y cwmni, sy’n adnabyddus am waith ym meysydd cadwraeth a threftadaeth, am ei gwaith ar yr Hen Goleg a phedwar prosiect arall mewn cydnabyddiaeth o’r ymdrechion y maent wedi'u gwneud i fod y cymdogion mwyaf ystyriol.

Mae'r gwobrau hefyd yn cydnabod cwmnïau sy'n creu gwerth yn y cymunedau o'u cwmpas, a'r rhai sy'n parchu’r cyhoedd, y gweithlu a'r amgylchedd.

Dywedodd Mark Bowen, Rheolwr Gyfarwyddwr Andrew Scott Ltd, “Rydym ni’n falch iawn o fod wedi derbyn gwobr Efydd am bump o'n prosiectau yng Ngwobrau Safle Cenedlaethol 2025 Cynllun Adeiladwyr Ystyriol. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o ymroddiad a phroffesiynoldeb ein timau prosiect ac yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gwerth parhaol yn y cymunedau yr ydym yn byw ac yn gweithio ynddynt, gan gynnal y safonau uchaf o barch tuag at y cyhoedd, ein gweithlu a'r amgylchedd.”

Yn ogystal â phrosiect yr Hen Goleg, cafodd Andrew Scott Cyf gydnabyddiaeth am waith ar Barc Eco Sir Benfro; Watton Mount, Aberhonddu; Parc Gwledig Ystad y Gnoll; a Cei'r De, Sir Benfro.

Cefnogir prosiect yr Hen Goleg gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Llywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, Llywodraeth y DU, Cronfa Cymunedau'r Arfordir, Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ymddiriedolaethau dyngarol ac unigolion.