Llais Myfyrwyr Seicoleg: Ffurflen Adborth Dysgu ac Addysgu

Rydyn ni eisiau clywed gennych chi.

Mae'r Ffurflen Adborth Dysgu ac Addysgu yn gyfle am adborth dienw lle gall myfyrwyr yr Adran Seicoleg rannu eu sylwadau, eu hawgrymiadau, eu pryderon neu bethau maen nhw wedi'u gweld yn gadarnhaol o ran eu profiadau o ddysgu ac addysgu yn yr adran seicoleg. Mae croeso ichi gyflwyno adborth unrhyw bryd a hynny mor aml ag y bo angen.

 Sylwch nad yw'r cyfeiriad ebost/ffurflen adborth yma yn cael eu monitro'n barhaus ac felly ddylech chi mo’u defnyddio mewn unrhyw argyfwng. Mewn amgylchiadau eithriadol, sylwch y gall fod angen torri cyfrinachedd mewn achosion lle bernir bod pobl yn wynebu risg neu os yw hynny'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

Cewch ddefnyddio'r ffurflen er mwyn:

  •  Rhannu sylw am eich profiad yn yr adran
  • Awgrymu syniad neu argymell gwelliant
  • Rhoi adborth am addysgu, dysgu neu asesu
  • Codi pryder yr hoffech i'r adran fod yn ymwybodol ohono
  • Gwneud cwyn am fater rydych chi wedi'i brofi ynghylch dysgu ac addysgu





Os ydych chi wedi gofyn inni ddilyn i fyny, byddwn ni’n cysylltu â chi.

Cofiwch y cewch chi hefyd gysylltu â'ch Tiwtor Personol neu’ch Cynullydd Modiwl os oes arnoch chi angen rhagor o gymorth gydag unrhyw bryderon academaidd.

Os oes arnoch chi angen cymorth llesiant, cysylltwch â'r Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr yn uniongyrchol yn lles@aber.ac.uk .

Diolch ichi eto am ein helpu i wella’r profiad myfyrwyr.