Gwasanaethau Ymgynghori
Os ydych chi'n sefydliad sy'n ceisio ysgogi arloesedd ar gyfer eich busnes trwy elwa ar arbenigedd a gwybodaeth ymchwil blaenllaw'r Brifysgol, hoffem glywed gennych. Gall ein hymchwil arloesol helpu i fynd i'r afael â'ch heriau busnes, llywio penderfyniadau strategol, a datgloi cyfleoedd twf newydd.
Cysylltwch â ni i drafod cyfleoedd cydweithio trwy anfon e-bost atom: drbi@aber.ac.uk
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i sicrhau bod arbenigedd ar gael i gwmnïau cleient lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol drwy gynnig gwasanaethau ymgynghori.
Mae llawer o fanteision i staff sy’n ymgymryd ag ymgynghoriaeth gan gynnwys:
- meithrin cysylltiadau â sefydliadau cyhoeddus a phreifat
- darparu cyfrwng ar gyfer adborth i ymchwil ac addysgu
- datblygiad personol
Os ydych yn Aelod o Staff Aberystwyth a bod rhywun wedi cysylltu â chi ynglŷn â darparu Gwasanaethau Ymgynghori, cliciwch yma i ddysgu mwy am broses y Brifysgol.
Tysteb
“Mae ein profiad o weithio gyda Phrifysgol Aberystwyth wedi bod yn ardderchog”
“Roedd yr ymgynghorydd Dr Ben Roberts yn ardderchog, yn ddiwyd ac yn effeithlon yn y gwaith a wnaeth a rhoddodd fewnwelediad gwerthfawr iawn”
Dr Graham Spelman, Cyd-sylfaenydd LimosAero

Cydweithio gyda ni
Chris Heidt, Rheolwr Masnachol
I ddysgu mwy am y gwasanaethau ymgynghori sydd ar gael, cysylltwch â: