Eiddo Deallusol a Throsglwyddo Technoleg

Mae’r adran Ymchwil, Busnes ac Arloesi wedi ymrwymo i helpu staff academaidd Prifysgol Aberystwyth i amddiffyn eiddo deallusol (IP) a chynorthwyo gyda masnacheiddio technoleg briodol.

Mae yna gyfoeth o IP: patentau, hawlfraint, hawliau dylunio, hawliau cronfa ddata, hawliau bridio planhigion, a “gwybod sut” anghyhoeddedig a grëwyd trwy ymchwil a gweithgaredd academaidd arall. Er mwyn helpu aelodau staff i ddeall dosbarthiad IP a buddion amddiffyn IP, mae'r swyddfa trosglwyddo technoleg wedi cynhyrchu'r ddogfen ganlynol: Eiddo Deallusol - Eich Canllaw Gwybodaeth

Efallai bod gan Eiddo Deallusol botensial masnachol, fel cynhyrchion neu wasanaethau newydd. Rôl y tîm Trosglwyddo Technoleg yw nodi'r potensial hwn a gweithio gyda chi i'w symud ymlaen i'r farchnad. Mae gennym broses ddiffiniedig a fydd yn rhoi'r cyfle gorau i'ch dyfais gyrraedd y farchnad.

I gael trafodaeth un i un anffurfiol a chyfrinachol yn ymwneud â'ch gwaith, cysylltwch â'r Tîm Trosglwyddo Technoleg i drefnu cyfarfod.

Yn dilyn cyfarfod gyda'r Tîm Trosglwyddo Technoleg gofynnir i chi lenwi ffurflen datgelu dyfais i gofnodi'ch syniad / ymchwil. Ar ôl ei chwblhau gellir cyflwyno'r ffurflen trwy e-bost i'r Tîm Trosglwyddo Technoleg.