Cyfleusterau, arbenigedd a gwasanaethau arloesi

Rydym yn helpu sefydliadau i gyflymu ymchwil, datblygu ac arloesi trwy fynediad i'n cyfleusterau o'r radd flaenaf, offer arbenigol ac arbenigedd academaidd. 

P'un a ydych chi'n chwilio am amgylcheddau profi arbenigol, cyfleusterau ymchwil uwch neu gymorth technegol arbenigol, mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig gwasanaethau sydd wedi'u cynllunio i helpu sefydliadau i ddatrys heriau cymhleth, dilysu technolegau a chynhyrchu tystiolaeth ystyrlon. 

O logi cyfleusterau i brosiectau ymchwil ac arloesi cydweithredol, rydym yn gweithio gyda busnesau, sefydliadau'r sector cyhoeddus a phartneriaid ymchwil i droi syniadau'n ganlyniadau yn y byd go iawn. 

Arbenigedd, cyfleusterau ac offer profi Sbectrwm Amledd Radio (RF)

Dilysu technolegau di-wifr, synhwyro a chyfathrebu mewn amgylcheddau byd go iawn. 

Mynediad i dros 500 hectar o amgylcheddau profi gwledig, anghysbell ac arfordirol ynghyd ag arbenigedd RF arbenigol, offer a galluoedd dadansoddi data. P'un a oes arnoch angen llogi cyfleusterau, cymorth technegol neu raglen ddilysu wedi'i rheoli'n llawn, gallwn eich helpu i gynhyrchu tystiolaeth gadarn a lleihau'r risg cyn ei ddefnyddio. 

Yn ddelfrydol ar gyfer: Telathrebu, amddiffyn, awyrofod, systemau ymreolaethol, Rhyngrwyd Pethau (IoT) a sefydliadau technoleg synhwyryddion.

Edrych ar y gwasanaethau profi Sbectrwm RF

Arbenigedd a chyfleusterau roboteg

Dilysu systemau ymreolaethol a roboteg mewn amgylcheddau awyr agored heriol 

Mae ein hamgylcheddau profi ar raddfa fawr a'n harbenigedd academaidd yn helpu sefydliadau i asesu perfformiad systemau o dan amodau realistig. O dreialon annibynnol i raglenni dilysu wedi'u cefnogi'n llawn, gallwn eich helpu i gynhyrchu tystiolaeth, lleihau risg a chyflymu'r datblygiad o'r prototeip i'r gweithredu. 

Yn ddelfrydol ar gyfer: Cwmnïau technoleg amaeth, amddiffyn, datblygwyr roboteg, datblygwyr a gweithgynhyrchwyr systemau ymreolaethol, cwmnïau technoleg DA a thimau ymchwil a datblygu sy'n datblygu technolegau ar gyfer gweithredu mewn amgylcheddau awyr agored cymhleth.

Edrych ar y Gwasanaethau Roboteg

Llogi Labordai Cyfyngu Lefel 2 a Lefel 3

Hyrwyddo ymchwil fiolegol mewn amgylcheddau labordy diogel, cyfyngu lefel-uchel. 

Mynediad at labordai CL2 a CL3, offer arbenigol a chymorth arbenigol ar gyfer ymchwil sy'n ymwneud â phathogenau, samplau biolegol a deunyddiau sensitif. Gallwn eich helpu i gynhyrchu data cadarn, bodloni gofynion rheoleiddiol a symud ymlaen tuag at ddilysu a masnacheiddio. 

Yn ddelfrydol ar gyfer: Sefydliadau biotechnoleg, diagnosteg, fferyllol a therapiwteg, ymchwilwyr iechyd anifeiliaid, sefydliadau ymchwil contract a busnesau bach a chanolig sy'n weithgar o ran ymchwil.

Edrych ar Wasanaethau’r Labordai Cyfyngu

Chwilio am rywbeth arall? 

Mae Prifysgol Aberystwyth yn dwyn ynghyd ymchwil sy'n arwain y byd, cyfleusterau arbenigol a chymorth arloesi ymarferol i helpu sefydliadau i ddatrys heriau cymhleth a dod o hyd i gyfleoedd newydd.  

Mae ein harbenigedd yn rhychwantu bridio planhigion a geneteg, biotechnoleg, bioburo a bioynni, gofal iechyd a diagnosteg, ymchwil i glefydau heintus, parasitoleg, epidemioleg, gwyddor yr amgylchedd a dadansoddeg data - i enwi dim ond ychydig.  

P'un a ydych chi'n datblygu technolegau newydd, yn dilysu cynnyrch, yn hyrwyddo ymchwil neu’n ystyried cyfleoedd masnachol newydd, gallwn eich cysylltu â'r bobl, y cyfleusterau a'r wybodaeth sydd eu hangen i gyflawni eich amcanion. 

Cysylltwch â ni i drafod eich gofynion a darganfod sut y gall Prifysgol Aberystwyth gefnogi eich prosiect nesaf.