Rhwydwaith Arloesi Cymru

Beth yw Rhwydwaith Arloesi Cymru?

Platfform cydweithredol yw Rhwydwaith Arloesi Cymru sy'n cysylltu prifysgolion, busnesau a sefydliadau ymchwil i feithrin arloesedd, ysgogi twf economaidd, a chefnogi cyfnewid gwybodaeth.

Mae’r Rhwydwaith yn chwarae rhan ganolog wrth hybu arloesedd, cyfnewid gwybodaeth, a thwf economaidd yng Nghymru. Daw â rhwydwaith amrywiol o brifysgolion, busnesau, sefydliadau ymchwil ac arloeswyr ynghyd. Mae’n gwasanaethu fel pont rhwng y byd academaidd a diwydiant, ac yn ei gwneud hi’n haws i rannu arbenigedd, adnoddau a syniadau arloesol. 

Cenhadaeth graidd y Rhwydwaith yw meithrin cydweithrediad rhwng y rhanddeiliaid hyn, gan greu amgylchedd lle mae syniadau ac ymchwil yn troi'n atebion diriaethol a chyfleoedd economaidd.

Mae'n gweithredu fel catalydd ar gyfer mentrau ymchwil a datblygu. Mae’n galluogi busnesau i gael defnyddio’r datblygiadau diweddaraf a phrifysgolion i roi ymchwil ar waith mewn cyd-destunau yn y byd go iawn. Mae hyn yn hybu twf economaidd yn ogystal â chynyddu cynaliadwyedd ac ysbryd cystadleuol busnesau o fewn Cymru.

Aelodaeth Prifysgol Cymru â Rhwydwaith Arloesi Cymru

Prif nod Prifysgol Aberystwyth yw llunio partneriaeth strategol gyda Rhwydwaith Arloesi Cymru i hwyluso arloesi cydweithredol a rhannu gwybodaeth.  

Ein bwriad yw hwyluso’r broses o rannu gwybodaeth, ymchwil ac arbenigaeth rhwng y Brifysgol, busnesau a sefydliadau eraill sy’n gysylltiedig â’r Rhwydwaith. 

Rydym hefyd yn dod o hyd i’r cyfleoedd ymchwil, grantiau ac opsiynau am gyllid sydd ar gael trwy’r Rhwydwaith ac yn trin a thrafod y posibiliadau er mwyn cefnogi prosiectau ymchwil yn y Brifysgol.

Cyfleoedd cyllido i ddod

Cyfleoedd ariannu sydd ar ddod i'w cyhoeddi ar y dudalen hon pan fyddant ar gael.