Cyllid a Chymorth

Mae YBA yn darparu cymorth ar gyfer amrywiaeth o gyfleoedd ariannu i alluogi staff a myfyrwyr y brifysgol i ddilyn ymchwil ac arloesi o safon fyd-eang. Mae rhestr o’r cyrff ariannu rydym yn eu cefnogi i’w gweld isod.

Research Connect

Mae Research Connect yn gronfa ddata ar-lein arbenigol iawn sy'n cynnwys galwadau agored cyfredol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol; chwiliadwy a didoliadwy.

Mae gan Brifysgol Aberystwyth danysgrifiad i'r gwasanaeth, ac mae wedi actifadu Mewngofnodi Unigol, felly gallwch fewngofnodi 'drwy fy sefydliad' o'r dudalen agoriadol: https://search.myresearchconnect.com/

Am unrhyw gymorth a chyngor pellach cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Ymchwil, neu e-bostiwch rdostaff@aber.ac.uk