Cadw Hawliau
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ymrwymo i sicrhau bod ei hymchwil a'i hysgolheictod ar gael mor eang â phosibl. Yn unol â cOAlition S ac egwyddorion ‘Plan S’, ac er mwyn cydymffurfio â gofynion mynediad agored cyllidwyr ac ymchwil, o 1 Ionawr 2026 ymlaen bydd y Brifysgol yn rhoi polisi Cadw Hawliau Awduron ar waith.
Bydd hyn yn caniatáu i awduron Prifysgol Aberystwyth gadw digon o hawliau i alluogi’r Brifysgol i roi mynediad agored ar unwaith i lawysgrif awdur wedi’i dderbyn (‘AAM’) / ôl-argraffiad o’u gwaith academaidd a gyflwynwyd ac a dderbyniwyd i’w gyhoeddi mewn erthyglau neu bapurau cynadleddau gyda rhif ISSN, neu a gyhoeddwyd ar blatfform cyhoeddi. Mae'r Brifysgol wedi rhoi gwybod i’r holl gyhoeddwyr y mae awduron y Brifysgol wedi cyhoeddi gyda nhw yn ddiweddar am y newid polisi hwn.
Beth yw Cadw Hawliau?
Mae Cadw Hawliau yn strategaeth sy’n caniatáu i awduron gadw’r hawlfraint ar eu gwaith eu hunain yn hytrach na’i drosglwyddo i’r cyhoeddwr. Mae hyn yn golygu y gellir adneuo llawysgrif awdur wedi’i dderbyn (AAM) ar unwaith i storfa mynediad agored o dan drwydded agored, fel trwydded Creative Commons Attribution (CC-BY). Mae hyn yn galluogi'r awdur ac eraill i rannu ac ailddefnyddio'r ymchwil heb gyfyngiadau cyhoeddwyr ac embargos, wrth hefyd sicrhau mynediad agored ar unwaith a chydymffurfiaeth â pholisïau'r cyllidwr.
Mae Cadw Hawliau yn gynllun a sefydlwyd gan gyllidwyr (cOAlition S) ac mae gan dros 50 o Sefydliadau Addysg Uwch yn y DU bolisi Cadw Hawliau Awduron ar waith: https://sje30.github.io/rrs/rrs.html
Heb Bolisi Cadw Hawliau Awdur a gyda Pholisi Cadw Hawliau Awdur
Cliciwch ar y tabl uchod i'w ehangu.
Cwestiynau Cyffredin
1. Pam mae Aberystwyth yn mabwysiadu cadw hawliau?
a. Mae'n gwneud mynediad agored yn syml, yn sicrhau eich bod yn cydymffurfio â chyllidwyr a'r FfRhY, mae'n caniatáu ichi gyhoeddi lle rydych chi eisiau, ac yn rhoi'r rhyddid i chi rannu ac ailddefnyddio eich gwaith eich hun. Byddwn yn hysbysu cyhoeddwyr ac yn eich cefnogi drwy gydol y broses.
2. Pwy sy'n rhaid dilyn y polisi cadw hawliau?
a. Awduron a chyd-awduron Aberystwyth sy'n staff; neu fyfyrwyr y mae gan eu cyllidwyr ofynion mynediad agored.
3. A yw hyn yn berthnasol os yw fy nghyhoeddwr y tu allan i'r DU?
a. Ydy.
Mae ein dull rhybudd ymlaen llaw yn berthnasol lle bynnag y mae'r cyhoeddwr wedi'i leoli. Os nad yw eich cyfnodolyn ar ein rhestr o gyhoeddwyr hysbysedig, anfonwch e-bost at mynediadagored@aber.ac.uk a byddwn yn helpu.
4. Beth os bydd fy nghyhoeddwr yn holi am hyn?
a. Mae hyn yn anghyffredin, ond os bydd yn digwydd: anfonwch yr ymholiad ymlaen at mynediadagored@aber.ac.uk; byddwn yn ymateb ac yn eich cynghori. Nid oes angen i chi drafod - byddwn yn delio ag ef.
5. Pwy arall sy'n defnyddio cadw hawliau?
a. Mae Harvard wedi bod yn defnyddio cadw hawliau ers 2008, ac yn y DU, dechreuodd Caeredin yn 2022. Mae llawer o sefydliadau addysg uwch eraill eisoes wedi mabwysiadu'r dull hwn, ac mae mwy yn ymuno â nhw. Hefyd, nid yw rhai cyrff erioed wedi caniatáu i hawlfraint gael ei drosglwyddo yn y lle cyntaf fel llywodraethau'r Unol Daleithiau neu'r DU, gan arwain at Hawlfraint y Goron ar gyfer y DU.
6. Beth os yw fy nghyd-awduron mewn sefydliadau eraill neu os oes ganddyn nhw gwestiynau am gadw hawliau?
a. Eglurwch ein bod yn defnyddio cadw hawliau i hyrwyddo mynediad agored i ymchwil heb gyfyngu ar ble y gall awduron gyhoeddi, ei fod yn helpu pawb i gydymffurfio heb unrhyw waith ychwanegol. Rhannwch y Cwestiynau Cyffredin hyn gyda nhw'n gynnar, os bydd ymholiadau neu wrthwynebiadau'n codi, cysylltwch â ni am gyngor.
7. A yw’r polisi hwn yn gymwys yn ôl-weithredol?
a. Nac ydy.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i weithiau academaidd a gyflwynir ac a dderbynnir i'w cyhoeddi mewn cyfnodolion neu bapurau cynhadleddau gyda Rhif Cyfresol Safonau Rhyngwladol (ISSN), neu'r rhai a gynhelir ar blatfform cyhoeddi o 1 Ionawr 2026.
8. A yw hyn yn cyfyngu ar ble y gallaf gyhoeddi?
a. Nac ydy.
Gallwch barhau i gyhoeddi yn eich cyfnodolion dewisol.
9. A yw cadw hawliau yn costio unrhyw beth?
a. Nac ydy.
10. Pa gyhoeddwyr sydd wedi cael gwybod?
a. Rydym wedi cysylltu â'r rhan fwyaf o gyhoeddwyr y mae ein hawduron wedi gweithio gyda nhw dros y 5 mlynedd ddiwethaf.
11. A yw hyn yn berthnasol i lyfrau, monograffau, neu benodau?
a. Nac Ydy.
Nid yw hyn yn berthnasol ar hyn o bryd i'r hyn a elwir yn allbynnau "ffurf hir".
12. Beth yw'r Llawysgrif awdur wedi’i dderbyn/AAM/ôl-argraffu?
a. Dyma'r fersiwn sydd wedi'i hadolygu gan gymheiriaid rydych chi'n ei chymeradwyo ar ôl adolygiad gan gymheiriaid ond cyn golygu copi a brandio'r cyhoeddwr. Mae diagram AAM ar gael yma.
13. Beth os byddaf yn symud sefydliad? A allaf barhau i ddefnyddio fy ngwaith?
a. Gallwch
Rydych chi'n cadw'r hawl i rannu ac ailddefnyddio Llawysgrif awdur wedi’i dderbyn (AAM) am byth. Mae'r fersiwn agored ym Mhorth Ymchwil y Brifysgol yn parhau i fod ar gael i eraill ei ddarllen a'i ddyfynnu.
14. Mae fy nghyhoeddwr wedi anfon cytundeb hawlfraint/trwydded - beth ddylwn i ei wneud?
a. Nid yw cadw hawliau yn ymyrryd â'ch gallu i lofnodi'r cytundebau hyn os dymunwch. Mae cadw hawliau yn parhau i fod yn berthnasol waeth beth fo unrhyw gytundebau yn y dyfodol; gallwch chi bob amser anfon y cytundeb atom ni am gyngor os ydych chi'n ansicr.
15. A fydd hyn yn caniatáu i mi gydymffurfio â'r FfRhY nesaf a gofynion mynediad agored fy nghyllidwr?
a. Bydd.
Mae cadw hawliau yn golygu mai dim ond un broses syml rydych chi'n ei dilyn - dim embargos, dim camau ychwanegol - ac rydych chi'n parhau i gydymffurfio â chyllidwyr a FfRhY yn awtomatig.
16. Pam mae angen Trwydded Priodoliad Creative Commons (CC BY)? A allaf newid hyn neu optio allan?
a. Y drwydded CC BY yw'r drwydded a ffefrir gan y rhan fwyaf o gyllidwyr, ac mae'n gwneud y mwyaf o opsiynau ailddefnyddio. Os oes angen i chi newid y drwydded a ddefnyddir, cysylltwch â mynediadagored@aber.ac.uk a byddwn yn cynghori ar eithriadau a goblygiadau cyllidwyr.
17. A allaf barhau i gyhoeddi mynediad agored aur drwy ein cytundebau trosiannol neu drwy dalu tâl prosesu erthyglau (APC)?
a. Gallwch.
Mae cadw hawliau yn rhoi llwybr rhad am ddim i chi, mae aur yn dal i fod yn opsiwn os yw'n well gennych y llwybr hwnnw. Os ydych chi'n cyhoeddi mewn cyfnodolyn aur mynediad agored llawn, rydych chi'n cadw'ch hawliau'n awtomatig.
18. Mae fy ngwaith yn cynnwys deunyddiau trydydd parti, a yw cadw hawliau yn effeithio ar hyn?
a. Nac ydy.
Dim ond i'ch testun eich hun yn yr AAM y mae cadw hawliau'n berthnasol. Fodd bynnag, mae angen i chi sicrhau bod cynnwys trydydd parti yn cael ei drin yn gywir.
Naill ai gwnewch yn glir yn eich llawysgrif nad yw cynnwys trydydd parti wedi'i gynnwys o dan y drwydded CC BY, neu
Wrth negodi caniatâd, cofiwch gynnwys caniatâd i ddefnyddio'r deunydd o dan drwydded CC BY.
Os ydych chi'n ansicr sut i wneud hyn, os oes angen geiriad arnoch ar gyfer llinellau credyd, neu os oes angen cymorth cyffredinol arnoch gyda hawlfraint, cysylltwch â ni ar mynediadagored@aber.ac.uk am gyngor.


