gyrfaoeddABER a Gweithgareddau
gyrfaoeddABER yw’ch porth ar-lein i’n holl wasanaethau a gweithgareddau, a llawer mwy, megis:
- Rhaglen o weithgareddau gan gyflogwyr – archebwch le ar y porth
- Cyfres gynhwysfawr o weminarau datblygu gyrfa a sgiliau – archebwch le ar y porth
- Cronfa ddata o dros 7,000 o gyfleoedd gwaith o bob lliw a llun led-led y byd
- Apwyntiadau gydag Ymgynghorydd Gyrfaoedd
- System ymholiadau i ymateb i’ch holl gwestiynau
- Cynlluniau blwyddyn mewn gwaith, integredig ai peidio, a lleoliadau
- Adnoddau a gwybodaeth i’ch helpu i ddewis a chynllunio’ch gyrfa
Mewngofnodwch wrth ddefnyddio’ch enw defnyddiwr a chyfrinair prifysgol. Os ydych wedi graddio o Brifysgol Aberystwyth, gallwch parhau i ddefnyddio gyrfaoeddABER. Welwch ein dudalen Graddedigion am fwy o manylion ar sut i gofrestru ar gyfer gyrfaoeddABER.
Cewch fraslun byr o’r system gyrfaoeddABER ar ein fideo .
Bellach mae’r mwyafrif o’n gweithdai yn cael eu cynnig fel gweminarau, boed rheiny’n fyw neu wedi eu recordio, gan gynnwys recordiadau o bigion o’n gweminarau byw yn dilyn rhai o’r sesiynau hynny. Gwelwch beth sydd ar gynnig isod, a weler ein cylchlythyr misol hefyd am y digwyddiadau diweddaraf.
Gweminarau Datblygu Gyrfa a Sgiliau - Byw
Recordiadau Gweminarau Datblygu Gyrfa a Sgiliau
Sesiynau gyda Chyflogwyr
Entreprenwriaeth a Menter
Ffair Yrfaoedd Hydref 2025
Ydym yn edrych ymlaen at groesawu ystod eang o gyflogwyr a sefydliadau gwych i Ffair Yrfaoedd yr Hydref, un o brif ddigwyddiadau'r flwyddyn!
Fe fyddwn yn rhedeg 2 ffair eleni yn dilyn adborth gan gyflogwyr a myfyrwyr er mwyn gwella ymgysylltiad a'ch cysylltu'n well â'r myfyrwyr cywir,
- Ffair Yrfaoedd Cyfadran y Gwyddorau - Dydd Mawrth 14 Hydref '25 (10:30-14:30)
- Ffair Yrfaoedd Cyfadran y Dyniaethau - Dydd Mercher 15 Hydref '25 (10:30-14:30)
Cynhelir y ddwy ffair ym Medrus Mawr, ein lleoliad cynadleddau yn y brifysgol sydd wedi'i leoli uwchben y brif Neuadd Fwyd ar gampws Penglais.
Chyflogwyr
Fel bob amser, nid oes tâl am gymryd rhan yn Ffair Yrfaoedd yr Hydref. Bydd y ffeiriau yn agored i bob myfyriwr ledled y brifysgol sy'n chwilio am swyddi ar ôl graddio, interniaethau, profiad gwaith, rolau rhan-amser, neu gyfleoedd llawrydd / menter.
Os hoffech fynychu, archebwch drwy ein porth ar-lein www.aber.ac.uk/gyrfaoeddABER drwy fewngofnodi fel sefydliad a llywio i'r dudalen digwyddiadau. Dewiswch y ffair yr hoffech ei mynychu a chwblhewch y ffurflen archebu ar-lein.
Myfyrwyr
Maent i gyd yn awyddus i gael sgwrs gyda chi am sut beth yw gweithio yn eu sefydliad, yn ogystal â'r profiad gwaith, lleoliadau diwydiannol, swyddi i raddedigion neu gefnogaeth arbenigol y maent yn ei gynnig.
Bydd staff y Gwasanaeth Gyrfaoedd a cynrychiolwyr myfyrwyr hefyd wrth law ar y diwrnod i gefnogi unrhyw un sy'n teimlo'n ansicr o ble i ddechrau, neu'n nerfus am siarad â chyflogwyr.
Os nad ydych chi'n awyddus i dorfeydd mawr, mae'r 30 munud cyntaf yn Barth Tawel dynodedig felly dewch yna; unwaith eto, byddwn yn fwy na pharod i gyd-fynd â chi o gwmpas y stondinau os dymunwch.
Pryd: Dydd Mawrth 14 a dydd Mercher 15 Hydref 2025
Ble: Medrus Mawr, campws Penglais
Parth tawel: 10.00yb-10.30yb
Ar agor i bawb: 10.30yb-2.30yp
Rydyn ni am i chi gael y gorau o'r profiad Ffair Gyrfaoedd a bydd yr adnoddau ar y dudalen hon yn eich helpu i baratoi ar gyfer y Ffair yn ogystal â llywio'ch ffordd o gwmpas ar y diwrnod.
Porth gyrfaoeddABER: Am wybodaeth am y digwyddiad ac archebu ar-lein
*gywir ar adeg cyhoeddi'r