7. Sut y galla i gymryd rhan?

Yn ogystal â derbyn negeseuon e-bost am y broses, bydd y staff dysgu ar eich modiwlau yn rhoi gwybod i chi pryd yn union fydd hyn yn digwydd.   Bydd yn digwydd rywbryd yn ystod wythnosau dysgu 7-10 yn semester un a dau.  

Cyn y sesiwn... 

  • Lawrlwythwch ApAber o'ch storfa apiau - gallwch weld yr arolygon drwy deilsen yr ABM

Neu 

  • Dewch â gliniadur neu ddyfais glyfar i'r sesiwn, a bydd cydlynydd eich modiwl yn darparu dolen i'r ABM
  • Sicrhewch fod y ddyfais rydych wedi'i dewis yn gallu defnyddio'r rhwydwaith Eduroam
  • Os nad oes gennych ddyfais addas, bydd nifer fechan o dabledi ar gael i’w benthyca yn ystod y sesiwn er mwyn cwblhau'r arolwg

Yn ystod y sesiwn... 

  • Bydd eich darlithydd yn egluro pwrpas yr ABM, sut i’w gwblhau’n gywir, ac yn ateb unrhyw gwestiynau
  • Yna gofynnir ichi gysylltu â'r rhwydwaith Eduroam
  • Defnyddiwch y cod QR, a bydd rhif PIN y modiwl yn cael ei roi ar sleid PowerPoint
  • Dyfeisiau clyfar: tapiwch ar deilsen yr ABM yn ApAber
  • Gliniaduron neu gyfrifiaduron: rhowch yr URL yn eich bar chwilio
  • Rhowch y rhif PIN a neilltuwyd ar gyfer cod eich modiwl
  • Llenwch yr holiadur
  • Pan fyddwch yn fodlon â’ch atebion, cliciwch 'Cyflwyno'
  • Ar ôl ichi ei anfon, ni fydd modd ichi fynd yn ôl i’r holiadur
  • Rydym yn rhagweld na fydd y broses hon yn cymryd mwy na chwarter awr.