4. Pam mae'r Brifysgol yn cynnal yr holiaduron hyn?

Mae'r Brifysgol yn cynnal yr Arolwy ar Brogiad Myfyrwyr (ABM) i gael gwybodaeth er mwyn gwella profiad myfyrwyr drwy wneud gwelliannau i fodiwlau, defnyddio'r hyn sy'n gweithio'n dda mewn modiwlau eraill a gwella'r profiad dysgu i fyfyrwyr cyfredol a myfyrwyr y dyfodol.

Mae'r ABM yn darparu gwybodaeth yn rhan o system sicrhau ansawdd y Brifysgol, ac maent yn cyfrannu at yr atebolrwydd cyhoeddus sy'n rhan o addysg uwch.

Dyma'r pedwar prif ddull o ddefnyddio'r adborth a ddaw yn sgil yr ABM:

  1. Er mwyn i arweinydd y modiwl ddeall sut mae'r addysgu a'r adborth ynglŷn ag asesiadau wedi cyfrannu at yr hyn y mae myfyrwyr yn ei ddysgu.
  2. I helpu'r tîm a gynlluniodd y modiwl wybod sut mae'r modd y cynlluniwyd ac y cyflwynwyd y modiwl wedi gweithio'n dda neu beidio, a'r hyn y gellir ei wella i fyfyrwyr y dyfodol.
  3. Er mwyn i'r Brifysgol yn gyffredinol adolygu sut mae'r modiwl wedi perfformio o'i gymharu â modiwlau eraill yn y gyfadran, ar yr un lefel neu ar draws y Brifysgol.
  4. Mae'n ffynhonnell wybodaeth i'r Brifysgol sy'n ei helpu i wella ansawdd ei darpariaeth, fel y gall arbenigwyr sy'n ymchwilio i ddysgu ac addysgu, neu sut mae modiwlau wedi'u cynllunio, ddysgu o'r hyn a weithiodd yn dda i chi a'r hyn y gellid ei wella.