Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol

Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (RPL) – Mae’r Brifysgol yn croesawu ceisiadau gan y rhai sydd â thystiolaeth o astudiaeth Addysg Uwch (AU) flaenorol, a gall hyn fod o sefydliad yn y DU neu dramor. Gellir ystyried credydau modiwlau unigol fel rhan o’r broses hon, yn ogystal â chymwysterau wedi’u cwblhau megis Tystysgrif Addysg Uwch neu Radd Sylfaen. Weithiau gelwir yr olaf hefyd yn ‘drosglwyddo credydau’ yn ogystal â ‘RPL’.

Cydnabyddiaeth o Ddysgu Trwy Brofiad Blaenorol (RPEL) – Mae’r Brifysgol hefyd yn croesawu ceisiadau gan y rhai sy’n gallu darparu tystiolaeth o ddysgu trwy brofiad blaenorol, sy’n ymwneud â gwybodaeth a sgiliau a gafwyd drwy brofiad, megis drwy gyflogaeth, gwirfoddoli neu brofiadau bywyd. Bydd llwyddiant cais drwy RPEL yn dibynnu ar ba mor dda y gellir paru gwybodaeth, sgiliau neu brofiad blaenorol â deilliannau modiwlau’r cwrs y gwneir cais amdano.

Gweithdrefn Ymgeisio am RPL neu RPEL – Mae’n rhaid i ymgeiswyr sy’n dymuno cael eu hystyried ar gyfer RPL neu RPEL gwblhau’r ffurflen gais Ffurflen Gais RPL/RPEL a’i dychwelyd ynghyd â dogfennau megis tystysgrifau, deilliannau modiwlau, trawsgrifiadau, portffolio ac ati. Dylai ymgeiswyr fod yn ymwybodol bod terfyn amser o 5 mlynedd ar gyfer hawlio RPL neu RPEL.

Yna bydd y dystiolaeth yn cael ei hystyried gan yr adran, a fydd yn gwirio a yw’r modiwlau/credydau/dysgu trwy brofiad yn bodloni deilliannau dysgu unrhyw un o’r cyrsiau y gwneir cais amdanynt. Byddant hefyd yn gwirio bod unrhyw fodiwlau rhagofynnol neu orfodol ar gyfer cwrs Aberystwyth yn gallu cael eu mapio i’r modiwlau/profiad y mae’r ymgeisydd wedi’u cwblhau.

Os bydd angen unrhyw wybodaeth ychwanegol ar yr adran, byddant yn cysylltu’n uniongyrchol â’r ymgeisydd. Gall methiant i ymateb neu ymgysylltu â’r adran arwain at dynnu’r cais yn ôl. Yn ogystal, os bydd ymgeisydd yn gwneud cais o fewn pedair wythnos i ddechrau’r cwrs, efallai na fydd digon o amser i ystyried y cais, ac felly gall gael ei dynnu’n ôl neu ei ystyried ar gyfer y cylch derbyn nesaf.

Os bydd y cais yn llwyddiannus, gall y credydau a gafwyd eisoes gyfrif tuag at astudiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth, gan sicrhau bod yr ymgeisydd yn dechrau ar y lefel briodol, er enghraifft mynediad i Flwyddyn 2. Yn ogystal, gall fod achosion lle dyfernir credyd rhannol i’r ymgeisydd, er enghraifft dim ond 60 credyd y mae angen eu cwblhau ym Mlwyddyn 1. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd hyn yn lleihau nifer y modiwlau/credydau y mae angen i’r ymgeisydd eu hastudio er mwyn ennill eu cymhwyster ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae gwybodaeth am y Polisi Cronni a Throsglwyddo Credydau – Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol wedi’i nodi yn y Llawlyfr Ansawdd Academaidd: 9.3 Cronni a Throsglwyddo Credydau – Polisi Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol, ac mae’n cynnwys tabl sy’n dangos y gwerthoedd credyd lleiaf ac uchaf ar gyfer cymwysterau Ôl-raddedig, Graddedig ac Israddedig, a therfynau trosglwyddo credydau.

Bydd ymgeiswyr yn cael eu hysbysu o ganlyniad eu cais RPL gan y Swyddfa Derbyn, a byddant yn derbyn copi o’u ffurflen gais wedi’i chwblhau er gwybodaeth.