9. Dysgu ac Addysgu
Mae copi pdf o'r adran hon ar gael i'w lawrlwytho: Mae'r adran hon wrthi'n cael ei datblygu.
-
9.1 Dysgu ac Addysgu
1. Mae Dysgu ac Addysgu yn ganolog i Gynllun Strategol Prifysgol Aberystwyth a’i chenhadaeth i barhau i fod yn Brifysgol ymchwilio ac addysgu sy’n gystadleuol yn rhyngwladol wrth fynd i’r afael â heriau byd-eang ac sy’n ymateb i anghenion y gymuned leol, anghenion Cymru ac anghenion y byd ehangach. Cefnogir Dysgu ac Addysgu trwy’r dogfennau canlynol:
(i) Strategaeth Dysgu ac Addysgu
(ii) Cynllun Academaidd Cyfrwng Cymraeg
(iii) Strategaeth Cyflogadwyedd.
2. Cyhoeddir gwybodaeth ynghylch modiwlau cyfredol, strwythurau cynlluniau astudio, a manylebau rhaglenni ar-lein.
3. Gellir dod o hyd i wybodaeth am y Polisi Cipio Darlithoedd, gan gynnwys gwybodaeth am bolisïau preifatrwydd a'r defnydd o ddata sydd yn deillio o Panopto, yma: https://www.aber.ac.uk/cy/is/regulations/lecture-capture-policy/
4. Gellir dod o hyd i wybodaeth am y polisïau canlynol ar y dolenni isod:
Canllawiau Cenadwri Pwyllgor y Senedd ar E-gyflwyno
Polisi Defnydd Derbyniol Blackboard
Isafswm Presenoldeb Gofynnol Blackboard
Canllawiau Amserlennu Arholiadau
Canllawiau Cymorth Addysgu gan Gymheiriaid
Strategaeth Dysgu ac Addysgu PA
Strategaeth Hygyrchedd Digidol ac Cyfarwyddyd ar Greu Deunyddiau Dysgu Hygyrch
-
9.2 Meini Prawf ar gyfer Dyfarnu Graddau, Diplomâu a Thystysgrifau
Disgrifydd ar gyfer cymwysterau addysg uwch Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch (FHEQ) / Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (CQFW) Lefel 4: Tystysgrif Addysg Uwch (CertHE) /Tystysgrif Genedlaethol Uwch (HNC).
1. Atodiad D ASA: Ceir disgrifiadau dosbarthiad canlyniadau ar gyfer graddau FHEQ Lefel 6 a FQHEIS Lefel 10 yma: https://ukscqa.org.uk/wp-content/uploads/2019/10/Frameworks-Annex-with-Degree-classification-descriptions.pdf . Mae'r atodiad yn nodi disgrifiadau cyffredin ar gyfer y pedwar prif ddosbarthiad canlyniad gradd ar gyfer graddau baglor gydag anrhydedd. Mae'r datganiadau hyn yn adeiladu ar y disgrifwyr yn Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau'r DU (FHEQ) a Fframwaith Cymwysterau Sefydliadau Addysg Uwch yn yr Alban (FQHEIS), ar gyfer graddau baglor gydag anrhydedd (Lefel 6 yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon; a Lefel 10 yn yr Alban). Cyhoeddir y rhain gyda'i gilydd yma: https://www.qaa.ac.uk/docs/qaa/quality-code/qualifications-frameworks.pdf .
2. Bydd deiliaid Tystysgrif Addysg Uwch / Tystysgrif Genedlaethol Uwch yn meddu ar wybodaeth dda o gysyniadau sylfaenol pwnc, a byddant wedi dysgu sut i fabwysiadu dulliau gwahanol wrth ddatrys problemau. Byddant yn gallu cyfathrebu’n gywir a bydd ganddynt y nodweddion angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth fydd yn gofyn am ymarfer rhywfaint o gyfrifoldeb personol. Bydd yr HNC yn cynnwys hyfforddiant galwedigaethol. Gallai’r CertHE a’r HNC ill ddau fod yn gam cyntaf at sicrhau cymwysterau uwch.
3. Caiff cymwysterau Tystysgrif Addysg Uwch /Tystysgrif Genedlaethol Uwch eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi dangos y canlynol:
(i) gwybodaeth o’r cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol sy’n gysylltiedig â’u maes/meysydd astudio, a’r gallu i werthuso a dehongli’r rhain o fewn cyd-destun y maes astudio hwnnw
(ii) y gallu i gyflwyno, gwerthuso a dehongli data ansoddol a/neu feintiol, er mwyn datblygu dadleuon a gwneud penderfyniadau cadarn yn unol â damcaniaethau a chysyniadau sylfaenol eu pwnc/pynciau astudio.
4. Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:
(i) gwerthuso addasrwydd gwahanol ddulliau o ddatrys problemau sy’n ymwneud â’u maes/meysydd astudio a/neu waith
(ii) cyfleu canlyniadau eu hastudiaethau/gwaith yn gywir ac yn ddibynadwy trwy ddadleuon strwythuredig a rhesymegol
(iii) ymgymryd â rhagor o hyfforddi a datblygu sgiliau newydd o fewn amgylchedd strwythuredig dan reolaeth.
5. A bydd gan y deiliaid:
(i) y nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth fydd yn gofyn am ymarfer rhywfaint o gyfrifoldeb personol.
Disgrifydd ar gyfer cymwysterau addysg uwch FHEQ/CQFW Lefel 5: Gradd Sylfaen/HND/DipHE
6. Bydd deiliaid cymwysterau ar y lefel hon wedi datblygu dealltwriaeth gadarn o’r egwyddorion yn eu maes astudio, ac wedi dysgu cymhwyso’r egwyddorion hynny’n ehangach. Drwy hyn byddant wedi dysgu gwerthuso addasrwydd dulliau gwahanol wrth ddatrys problemau. Mae’n bosibl y bydd gogwydd galwedigaethol wedi bod i’w hastudiaethau, er enghraifft Graddau Sylfaen ac HND, gan ganiatáu iddynt berfformio’n effeithiol yn eu dewis faes. Bydd deiliaid cymwysterau ar y lefel hon yn meddu ar y nodweddion angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth mewn sefyllfaoedd sy’n gofyn am ymarfer cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau.
7. Caiff Graddau Sylfaen / Diplomâu Cenedlaethol Uwch a Diplomâu Addysg Uwch eu dyfarnu i fyfyrwyr sydd wedi dangos y canlynol:
(i) gwybodaeth a dealltwriaeth feirniadol o egwyddorion sefydledig eu maes/meysydd astudio, a’r modd y mae’r egwyddorion hyn wedi datblygu
(ii) y gallu i gymhwyso cysyniadau ac egwyddorion sylfaenol y tu hwnt i’r cyd-destun yr astudiwyd hwy ynddo i ddechrau, gan gynnwys, lle bo’n briodol, cymhwyso’r egwyddorion hynny mewn cyd-destun cyflogaeth
(iii) gwybodaeth o’r prif ddulliau ymchwilio yn y pwnc/pynciau sy’n berthnasol i’r cymhwyster a enwir, a’r gallu i werthuso’n feirniadol addasrwydd gwahanol ddulliau o ddatrys problemau yn y maes astudio
(iv) dealltwriaeth o derfynau eu gwybodaeth, a sut mae hyn yn dylanwadu ar ddadansoddiadau a dehongliadau sy’n seiliedig ar yr wybodaeth honno.
8. Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:
(i) defnyddio amrywiaeth o dechnegau sefydledig i gychwyn ar ac ymgymryd â dadansoddiad beirniadol o wybodaeth a chynnig datrysiadau i broblemau sy’n codi o’r dadansoddiad hwnnw
(ii) cyfleu gwybodaeth, dadleuon a dadansoddiad yn effeithiol mewn amrywiaeth o ffurfiau i gynulleidfaoedd o arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwyr, a defnyddio technegau allweddol y ddisgyblaeth yn effeithiol
(iii) ymgymryd â rhagor o hyfforddi, datblygu sgiliau cyfredol a dysgu cymwyseddau newydd fydd yn eu galluogi i ymgymryd â chyfrifoldeb sylweddol mewn sefydliadau.
9. A bydd gan y deiliaid:
(i) y nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth a fydd yn gofyn am ymarfer cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau.
Disgrifydd ar gyfer cymwysterau addysg uwch FHEQ/CQFW Lefel 6: Gradd Baglor ag anrhydedd / Diplomâu Graddedigion / Tystysgrifau Graddedig
10. Bydd deiliaid gradd Baglor ag anrhydedd / Diploma Graddedig / Tystysgrif Raddedig wedi datblygu dealltwriaeth o gorff cymhleth o wybodaeth, a bydd rhywfaint o’r wybodaeth honno ar ffiniau cyfredol disgyblaeth academaidd. Drwy hyn, bydd y deiliad wedi datblygu technegau dadansoddi a sgiliau datrys problemau y gellir eu cymhwyso i nifer o fathau o gyflogaeth. Bydd deiliad cymhwyster o’r fath yn gallu gwerthuso tystiolaeth, dadleuon a thybiaethau, i ddod i farn gadarn a chyfathrebu hynny’n effeithiol.
11. Dylai deiliad cymhwyster ar y lefel hon feddu ar y nodweddion sydd eu hangen ar gyfer cyflogaeth mewn sefyllfaoedd sy’n gofyn am ymarfer cyfrifoldeb personol a gwneud penderfyniadau mewn amgylchiadau cymhleth nad oes modd eu rhagweld.
12. Caiff dyfarniadau ar y lefel hon eu gwneud i fyfyrwyr sydd wedi dangos y canlynol:
(i) dealltwriaeth systematig o agweddau allweddol eu maes astudio, gan gynnwys caffael gwybodaeth gydlynol a manwl, gyda rhywfaint o’r wybodaeth honno o leiaf yn arwain agweddau diffiniedig o’r ddisgyblaeth benodol
(ii) y gallu i ddefnyddio technegau sefydledig o ddadansoddi ac ymholi mewn disgyblaeth yn gywir
(iii) dealltwriaeth gysyniadol o’r hyn sy’n galluogi i’r myfyriwr wneud y canlynol:
- o dyfeisio a chynnal dadleuon, a/neu ddatrys problemau, gan ddefnyddio syniadau a thechnegau, a bydd rhai ohonynt yn arwain y ddisgyblaeth dan sylw;
- o ddisgrifio a chynnig sylwadau ar agweddau penodol o ymchwil cyfredol, neu ysgolheictod uwch cyfatebol, yn y ddisgyblaeth
(iv) dealltwriaeth o ansicrwydd, amwyster a therfynau gwybodaeth
(v) y gallu i reoli eu dysgu eu hun, a gwneud defnydd o adolygiadau ysgolheigaidd a ffynonellau gwreiddiol (er enghraifft erthyglau wedi’u cymedroli a/neu ddefnyddiau gwreiddiol priodol i’r ddisgyblaeth).
13. Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:
(i) cymhwyso’r dulliau a’r technegau y maent wedi’u dysgu i adolygu, atgyfnerthu, estyn a chymhwyso eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a chychwyn a gweithredu prosiectau
(ii) gwerthuso dadleuon, tybiaethau, cysyniadau haniaethol a data (a all fod yn anghyflawn) yn feirniadol, dod i farn, a fframio cwestiynau priodol i ganfod datrysiad - neu ystod o ddatrysiadau - i broblem
(iii) cyfathrebu gwybodaeth, syniadau a datrysiadau i gynulleidfaoedd o arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwyr.
14. A bydd gan y deiliaid y nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth a fydd yn gofyn am:
(i) ddefnyddio menter a chyfrifoldeb personol
(ii) wneud penderfyniadau mewn cyd-destunau cymhleth nad oes modd eu rhagweld
(iii) y gallu angenrheidiol i ddysgu er mwyn ymgymryd â rhagor o hyfforddi o natur broffesiynol neu gyfatebol.
Disgrifydd ar gyfer cymwysterau addysg uwch FHEQ/CQFW Lefel 7: Gradd Meistr Trwy Gwrs / Diploma Uwchraddedig / Tystysgrif Uwchraddedig
15. Bydd llawer o’r astudio a wneir ar y lefel hon wedi bod ar y blaen, neu wedi’i oleuo gan y syniadau diweddaraf mewn disgyblaeth academaidd neu broffesiynol. Bydd myfyrwyr wedi dangos gwreiddioldeb wrth gymhwyso gwybodaeth a byddant yn deall sut mae ffiniau gwybodaeth yn cael eu hymestyn drwy ymchwil. Byddant yn gallu ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol a byddant yn dangos gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys. Bydd ganddynt y nodweddion sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth mewn amgylchiadau sy’n galw am farn gadarn, cyfrifoldeb bersonol a menter mewn amgylcheddau proffesiynol cymhleth nad oes modd eu rhagweld.
16. Mewn llawer o achosion, mae graddau Meistr Trwy Gwrs yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cychwyn ar ymchwil, er enghraifft drwy Radd Meistr trwy Ymchwil neu radd MRes.
17. Caiff dyfarniadau ar y lefel hon eu gwneud i fyfyrwyr sydd wedi dangos y canlynol:
(i) dealltwriaeth systematig o wybodaeth ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediadau newydd, sydd i raddau helaeth yn arwain y ddisgyblaeth academaidd, maes astudio neu arfer proffesiynol dan sylw neu’n cael eu harwain ganddo
(ii) dealltwriaeth gyfansawdd o dechnegau sy’n gymwys i’w hastudiaethau eu hunain neu ysgolheictod uwch
(iii) gwreiddioldeb yn y modd y caiff gwybodaeth ei chymhwyso ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o’r modd y defnyddir technegau ymchwil ac ymholi sefydledig i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth
(iv) dealltwriaeth gysyniadol sy’n caniatáu i’r myfyriwr wneud y canlynol:
- gwerthuso ymchwil gyfredol ac ysgolheictod uwch yn y ddisgyblaeth yn feirniadol
- gwerthuso methodoloegau a datblygu dadansoddiadau ohonynt a, lle bo’n briodol, cynnig damcaniaethau newydd.
18. Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:
(i) ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, gwneud penderfyniadau cadarn yn absenoldeb data cyflawn, a chyfathrebu eu casgliadau’n glir i gynulleidfaoedd o arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwyr
(ii) dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys, a gweithio’n annibynnol wrth gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol
(iii) parhau i gynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a datblygu sgiliau newydd i lefel uchel.
19. A bydd gan y deiliaid y nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth a fydd yn gofyn am:
(i) ddefnyddio menter a chyfrifoldeb personol
(ii) wneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oes modd eu rhagweld
(iii) y gallu i ddysgu’n annibynnol sydd ei angen ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
Graddau Ymchwil: Meini Prawf ar gyfer dyfarnu Gradd PhD (gan gynnwys PhD yn seiliedig ar ymarfer)
20. Gall y Brifysgol ddyfarnu gradd Doethur mewn Athroniaeth (PhD) i gydnabod cwblhau’n llwyddiannus gynllun o astudiaethau pellach ac ymchwil y bernir bod ei ganlyniadau yn gyfraniad gwreiddiol i ddysg ac i roi tystiolaeth o astudio systematig a’r gallu i gysylltu canlyniadau astudiaeth o’r fath â’r corff cyffredinol o wybodaeth yn y maes. Dyfernir graddau doethurol i fyfyrwyr sydd wedi dangos eu bod wedi cyflawni’r canlynol:
(i) creu a dehongli gwybodaeth newydd, trwy ymchwil wreiddiol neu ysgolheictod uwch arall, sydd o ansawdd sy’n bodloni adolygiad cymheiriaid, sy’n estyn ffiniau’r ddisgyblaeth ac sy’n teilyngu cyhoeddi neu gynhyrchu
(ii) caffael a deall yn systematig gorff sylweddol o wybodaeth sydd ar flaen disgyblaeth academaidd neu faes o ymarfer proffesiynol
(iii) y gallu cyffredinol i gysyniadu, cynllunio a gweithredu prosiect er mwyn creu gwybodaeth, cymwysiadau neu ddealltwriaeth newydd sydd ar flaen y ddisgyblaeth, ac addasu cynllun y prosiect yn wyneb problemau na ragwelwyd mohonynt
(iv) dealltwriaeth fanwl o dechnegau cymwys ar gyfer ymchwil ac archwilio academaidd uwch.
21. Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:
(i) dod i farn wybodus ar faterion cymhleth mewn meysydd arbenigol, yn aml yn absenoldeb data cyflawn, a gallu mynegi eu syniadau a’u casgliadau yn glir ac yn effeithiol i gynulleidfaoedd o arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwyr
(ii) dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys, a gweithredu’n annibynnol i gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol
(iii) parhau i ymgymryd ag ymchwil a datblygu pur a/neu gymwysedig ar lefel uwch, gan gyfrannu’n sylweddol at ddatblygu gwybodaeth, technegau, syniadau neu ymagweddau newydd.
22. A bydd deiliaid wedi cwblhau hyfforddiant ymchwil sy’n cyflenwi’r nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, sef:
(i) arfer menter a chyfrifoldeb personol
(ii) gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oedd modd eu darogan mewn amgylchedd proffesiynol neu gyfatebol
(iii) y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
23. Wrth farnu teilyngdod y gwaith a gyflwynir mewn ymgeisyddiaeth am radd PhD, bydd yr arholwyr yn cadw mewn cof safon a chwmpas gwaith y mae’n rhesymol ddisgwyl i fyfyriwr galluog a diwyd ei gyflwyno ar ôl cyfnod o ddwy neu dair blynedd (fel y bo’n briodol) o astudio amser llawn, neu astudio rhan amser cyfatebol.
24. Ar ôl cwblhau gradd Doethur, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 8, fel y’i diffinnir gan Fframwaith yr ASA ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch).
Meini Prawf ar gyfer dyfarnu PhD drwy Weithiau a Gyhoeddwyd
25. Mae’r meini prawf ar gyfer dyfarnu Gradd Doethur mewn Athroniaeth drwy Weithiau a Gyhoeddwyd yr un fath â’r rheini a sefydlwyd ar gyfer Gradd PhD. Gellir diffinio gweithiau a gyhoeddwyd fel gweithiau sydd yn y parth cyhoeddus neu sydd o leiaf wedi eu derbyn i’w cyhoeddi (cyhyd â bod yr ymgeisydd yn gallu darparu prawf digonol fod hyn yn wir). Ni ddylai gweithiau a gyflwynir i’w harholi fel rheol fod wedi’u cyhoeddi dros ddeng mlynedd cyn y dyddiad cofrestru.
26. Ar ôl cwblhau gradd Doethur, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 8, fel y’i diffinnir gan Fframwaith yr ASA ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch.
Meini Prawf ar gyfer dyfarnu y Ddoethuriaeth Broffesiynol
27. Bydd y meini prawf ar gyfer y Ddoethuriaeth Broffesiynol yr un fath â’r rhai a sefydlwyd ar gyfer gradd PhD ac eithrio’r ffaith y gall y cyfraniad fod at ddysg neu at faes ymarfer proffesiynol ac y gall arwain at newid proffesiynol neu sefydliadol yng ngweithle/proffesiwn yr ymgeisydd.
28. Wedi cwblhau gradd Ddoethurol, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 8, yn unol â diffiniad fframwaith yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd ar gyfer cymwysterau addysg uwch yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.
Meini Prawf ar gyfer dyfarnu Gradd MPhil ac LLM drwy Ymchwil
29. Gall y Brifysgol ddyfarnu gradd Athro mewn Athroniaeth i gydnabod cwblhau’n llwyddiannus gynllun o astudiaethau pellach ac ymchwil y bernir bod ei ganlyniadau yn werthusiad a dadansoddiad beirniadol o gorff o wybodaeth a/neu yn gyfraniad gwreiddiol i wybodaeth. Dyfernir Graddau Ymchwil Meistr i fyfyrwyr sydd wedi dangos:
(i) dealltwriaeth systematig o wybodaeth ac ymwybyddiaeth feirniadol o broblemau cyfredol a/neu fewnwelediad newydd, a bydd y rhain yn cynnwys neu wedi’u goleuo gan elfennau blaenllaw o’r ddisgyblaeth academaidd, y maes astudio neu faes ymarfer proffesiynol
(ii) dealltwriaeth gyfansawdd o dechnegau sy’n gymwys i’w hymchwil neu eu hysgolheictod uwch
(iii) gwreiddioldeb yn y modd y cymhwysir gwybodaeth, ynghyd â dealltwriaeth ymarferol o’r modd y mae technegau ymchwil ac ymholi sefydledig yn cael eu defnyddio i greu a dehongli gwybodaeth yn y ddisgyblaeth
(iv) dealltwriaeth gysyniadol sy’n caniatáu i’r myfyriwr:
- werthuso ymchwil gyfredol ac ysgolheictod uwch yn feirniadol o fewn y ddisgyblaeth
- werthuso methodolegau a datblygu dehongliadau ohonynt a lle bo’n briodol, gynnig damcaniaethau newydd.
30. Yn nodweddiadol, bydd deiliaid y cymhwyster yn gallu gwneud y canlynol:
(i) ymdrin â materion cymhleth yn systematig ac yn greadigol, gwneud penderfyniadau doeth yn absenoldeb data cyflawn, a mynegi casgliadau yn glir i gynulleidfaoedd o arbenigwyr a rhai nad ydynt yn arbenigwr
(ii) dangos hunangyfeirio a gwreiddioldeb wrth ymdrin â phroblemau a’u datrys, a gweithio’n annibynnol i gynllunio a gweithredu tasgau ar lefel broffesiynol neu gyfatebol
(iii) parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u sgiliau, a datblygu sgiliau newydd i lefel uchel.
31. A bydd deiliaid wedi cwblhau hyfforddiant ymchwil sy’n cyflenwi’r nodweddion a’r sgiliau trosglwyddadwy angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth, sef:
(i) arfer menter a chyfrifoldeb personol
(ii) gwneud penderfyniadau mewn sefyllfaoedd cymhleth nad oedd modd eu darogan
(iii) y gallu i ddysgu’n annibynnol sy’n angenrheidiol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus.
32. Ar ôl cwblhau MPhil neu LLM drwy Ymchwil, bydd graddedigion wedi cyflawni Lefel 7, fel y’i diffinnir gan Fframwaith yr ASA ar gyfer Cymwysterau Addysg Uwch.
-
9.3 Cynllun Casglu a Throsglwyddo Credydau
Cyflwyniad
1. Ac eithrio lle nodir hynny, mae’r cynllun hwn yn berthnasol i raglenni sy’n dechrau o Fedi 2013. Bydd myfyrwyr a gofrestrwyd ar raglenni cyn y dyddiad hwnnw yn cael eu rheoli gan y cynllun a oedd mewn grym ar adeg eu mynediad.
Diffiniad o Gredyd
2. Mae’r Brifysgol yn cadarnhau barn Llywodraeth Cymru, fel y’i cyflwynwyd yn ei Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (Fframwaith Cymru), y gellir diffinio credyd fel dyfarniad a roddir i ddysgwr i gydnabod llwyddiant mewn canlyniadau dysgu dynodedig ar lefel gredyd benodedig. Mae’r Brifysgol yn gweithredu hefyd o fewn i Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (Fframwaith yr ASA).
3. Mae swm y credyd a briodolir yn seiliedig ar amcangyfrif o’r amser dysgu a gymerai dysgwr cyffredin i gyflawni’r canlyniadau dysgu penodedig.
Pwysiad Credydau ac Oriau Tybiannol
4. Mae un credyd yn cyfateb i 10 awr dybiannol o ddysgu gan fyfyriwr, gan gynnwys amser cyswllt, astudio dan gyfarwyddyd ac astudio annibynnol, ac asesu.
5. Ar y sail hon byddai myfyriwr israddedig amser-llawn yn casglu 120 o gredydau o fewn blwyddyn academaidd o 1,200 awr a byddai myfyriwr Meistr trwy Gwrs amser-llawn yn casglu 180 o gredydau mewn blwyddyn academaidd o 1,800 awr.
Credydau Cyffredinol a Phenodol
6. Credydau cyffredinol yw’r cyfanswm credydau sydd gan fyfyriwr yn sgil eu dysgu blaenorol. Yn nhermau trosglwyddo credydau, mae’r holl gredydau cyffredinol sydd gan fyfyriwr yn gymwys i’w hystyried. Credydau penodol yw’r gyfran o gyfanswm credydau’r myfyriwr sy’n cael ei derbyn fel un sy’n uniongyrchol berthnasol i’r cynllun astudio y mae’r myfyriwr yn cael ei (d)derbyn ar ei gyfer.
Lefel yr Uned Astudio Fodiwlar
7. Yn unol â Fframwaith Cymru, gellir diffinio lefelau credyd fel dangosyddion o’r baich a’r cymhlethdod cymharol, dyfnder cymharol y dysgu ac ymreolaeth gymharol dysgwr ar sail disgrifyddion lefel generig y cytunwyd arnynt. Nid yw lefelau yn hanfodol berthnasol i flynyddoedd astudio amser-llawn nac i’r addysg a gyflawnwyd yn flaenorol nac i/neu i brofiad y dysgwr. Mae lefelau credyd yn ymwneud â modiwlau yn hytrach na dyfarniadau cyflawn.
8. Mae lefelau, fel y diffiniwyd uchod, yn ddangosol ac o’r herwydd yn wahanol i ganlyniadau dysgu penodol a’r meini prawf asesu cysylltiedig, sy’n nodi’r safonau trothwy sy’n angenrheidiol i ddyfarnu credyd ar gyfer unrhyw fodiwl neu uned benodol.
Dangosyddion Lefel
9. Mae dangosyddion lefel y Brifysgol, a nodir isod, yn adlewyrchu Fframwaith Cymru a Fframwaith yr ASA:
Lefel
Gofynion
AU0/Lefel 3 Fframwaith Cymru
Defnyddio gwybodaeth a sgiliau o fewn ystod o weithgareddau cymhleth gan arddangos dealltwriaeth o ddamcaniaethau perthnasol; cyrchu a dadansoddi gwybodaeth yn annibynnol a gwneud penderfyniadau rhesymegol, gan ddethol o blith dewis sylweddol o weithdrefnau, mewn cyd-destunau cyfarwydd ac anghyfarwydd, a chyfeirio’ch gweithgareddau eich hun, gyda pheth cyfrifoldeb dros gynnyrch pobl eraill.
[Modiwlau a astudir yn y flwyddyn ragarweiniol/sylfaen sy’n arwain at fynediad i gynllun gradd cychwynnol.]AU1/Lefel 4 Fframwaith Cymru
Datblygu dull cadarn o gaffael sylfaen eang o wybodaeth; defnyddio ystod o sgiliau arbenigol; gwerthuso gwybodaeth a’i defnyddio i gynllunio a datblygu strategaethau ymchwiliol ac i benderfynu ar ddatrysiadau i amrywiaeth o broblemau anrhagweladwy; a gweithredu o fewn ystod o gyd-destunau amrywiol a phenodol, i sicrhau canlyniadau penodol.
[Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod blwyddyn gyntaf cynllun gradd amser-llawn neu’r hyn sydd gyfwerth.]AU2/Lefel 5 Fframwaith Cymru
Cynhyrchu syniadau drwy ddadansoddi cysyniadau ar lefel haniaethol, gyda meistrolaeth ar sgiliau arbenigol a chreu ymatebion i broblemau sydd wedi’u diffinio’n glir a phroblemau haniaethol; dadansoddi a gwerthuso gwybodaeth; datblygu’r gallu i ddefnyddio crebwyll sylweddol ar draws ystod eang o weithgareddau; a derbyn cyfrifoldeb dros bennu canlyniadau personol a/neu ganlyniadau grŵp.
[Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod ail flwyddyn cynllun gradd amser-llawn neu’r hyn sydd gyfwerth.]AU3/Lefel 6 Fframwaith Cymru
Adolygu’n feirniadol, atgyfnerthu ac ymestyn corff systematig a chydlynol o wybodaeth, gan ddefnyddio sgiliau arbenigol ar draws maes astudio; gwerthuso’n feirniadol gysyniadau a thystiolaethau newydd o ystod o ffynonellau; trosglwyddo a defnyddio sgiliau diagnostig a chreadigol a defnyddio crebwyll sylweddol mewn ystod o sefyllfaoedd; a derbyn cyfrifoldeb dros bennu a chyflawni canlyniadau personol a/neu ganlyniadau grŵp.
[Modiwlau a astudir fel arfer yn ystod trydedd flwyddyn a/neu flwyddyn olaf cynllun gradd safonol amser-llawn neu’r hyn sydd gyfwerth.]AUM/Lefel 7 Fframwaith Cymru
Arddangos meistrolaeth dros faes cymhleth ac arbenigol o wybodaeth a sgiliau; defnyddio sgiliau uwch i gynnal ymchwil, neu weithgaredd technegol neu broffesiynol uwch; derbyn atebolrwydd dros wneud penderfyniadau perthnasol gan gynnwys y defnydd o oruchwyliaeth a, dan amgylchiadau addas, cynghori eraill.
[Modiwlau a astudir fel arfer ym mlwyddyn olaf cynllun gradd Meistr integredig cychwynnol amser-llawn neu fel rhan o gynllun Meistr trwy Gwrs, gan gynnwys y traethawd estynedig neu’r hyn sydd gyfwerth.]AUD/Lefel 8 Fframwaith Cymru
Gwneud cyfraniad sylweddol a gwreiddiol i faes ymchwil arbenigol gan arddangos meistrolaeth dros faterion methodolegol a chymryd rhan mewn deialog feirniadol â chymheiriaid; derbyn atebolrwydd llawn dros ganlyniadau.
[Mae hyn yn cynrychioli gwaith ymchwil ar lefel ddoethurol.]Ceir tabl sy’n dangos y gydberthynas rhwng credydau’r Brifysgol a System Gasglu a Throsglwyddo Credydau Ewrop ym mharagraff 24 isod.
Fframwaith Dyfarniadau
10. Mae rheoliadau’r Brifysgol ar gyfer cynlluniau astudio modiwlar yn darparu ar gyfer dyfarnu’r cymwysterau a restrir isod trwy gasglu credydau. Gall cynlluniau astudio israddedig, graddedig ac uwchraddedig, gyda dilyniant cyfnodol o gymwysterau is i rai uwch, gael eu llunio ar y sail ganlynol:
(i) Lefel Israddedig
Tystysgrif Addysg Uwch
Diploma Addysg Uwch
Gradd Sylfaen
Gradd Gychwynnol(ii) Lefel Raddedig
Tystysgrif i Raddedigion
Diploma i Raddedigion(iii) Lefel Uwchraddedig
Tystysgrif i Uwchraddedigion
Diploma i Uwchraddedigion
Gradd Meistr Integredig
Gradd Meistr11. Gall y credydau sy’n angenrheidiol ar gyfer dyfarnu’r cymwysterau hyn gael eu casglu drwy gwblhau’r cynlluniau astudio perthnasol yn foddhaol, neu ran ohonynt yn unol â’r hyn a bennir yn y Rheoliadau.
Dyfarniadau Gadael ac Ailfynediad
12. Gall myfyrwyr sy’n gadael cynllun astudio gyda neu heb gymhwyster ar adeg gadael, yn ôl disgresiwn y Brifysgol, gael caniatâd i ailymuno â’r cynllun yn y man addas, ar yr amod nad ydynt yn flaenorol wedi cynnig am a methu’r cymhwyster uwch ar ôl dihysbyddu pob hawl adfer ac yn amodol ar y terfynau amser ar gyfer cwblhau’r cynllun astudio.
Tystysgrif a Diploma
13. Gellir hefyd ddefnyddio’r Dystysgrif a’r Ddiploma, ar lefel israddedig ac uwchraddedig fel ei gilydd, fel amcanion cymwysterol eu hunain. Fel rheol, ni fyddai’r cymhwyster is (h.y. Tystysgrif neu Ddiploma) yn cael ei ddyfarnu’n awtomatig i fyfyrwyr sy’n cyflawni’r gofynion ar gyfer y cymhwyster hwnnw, pa un ai a ydynt yn symud ymlaen yn uniongyrchol i ran nesaf y cynllun ai peidio, h.y. fel ‘dyfarniad canolradd’, ond dim ond i’r myfyrwyr cymwysedig hynny sydd:
(i) yn gadael ran o’r ffordd drwy’r cynllun (dyfarniadau pwynt gadael)
neu
(ii) sydd wedi cwblhau’r cynllun ond wedi methu’r cymhwyster uwch (dyfarniadau canolradd).
14. Yn unol â Rheoliadau’r Brifysgol, mae’r Dystysgrif a’r Ddiploma i Uwchraddedigion yn gymwysterau gadael ar gyfer y sawl sy’n tynnu’n ôl o radd Meistr cyn y traethawd estynedig neu’r hyn a gymeradwywyd yn gyfwerth iddo, ond gellir eu dyfarnu’n ogystal ar ddiwedd y rhaglen i gydnabod cwblhau’n llwyddiannus y nifer ofynnol o gredydau a nodwyd yn y confensiynau perthnasol.
Strwythur y Cynlluniau a Lefelau Credyd
15. Dangosir y gwerthoedd credyd isaf ac uchaf ar gyfer Cymwysterau Uwchraddedig, Graddedig ac Israddedig yn y tabl canlynol:
Cymhwyster
Isafswm y credydau a astudiwyd yn gyffredinol
Nifer y credydau ar y lefel uchaf
Uchafswm y credydau ar y lefel isaf
Uwchraddedig
Gradd Meistr
180 credyd
Lefel M
180 credyd ar Lefel M
Ni chaniateir dim
Gradd Meistr Integredig
480 credyd
Levelau (0),1,2,3 ac M
Isafswm o 120 credyd ar Lefel M
Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0
Diploma i Uwchraddedigion
120 credyd
Lefelau M
120 credyd ar Lefel M
Ni chaniateir dim
Tystysgrif i Uwchraddedigion
60 credyd
Lefelau M
Isafswm o 60 credyd ar Lefel M
Ni chaniateir dim
Graddedig
Diploma i Raddedigion
120 credyd
Lefelau (0,1,2),3
Isafswm o 90 credyd ar Lefel 3Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0
Tystysgrif i Raddedigion
60 credyd
Lefelau (0,1,2,),3
Isafswm o 90 credyd ar Lefel 3Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0
Israddedig
Gradd Anrhydedd
360 credyd
Lefelau (0),1,2,3
Isafswm o 120 credyd ar Lefel 3Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0
Gradd Gyffredin
300 credyd
Lefelau (0),1,2,3
Isafswm o 60 credyd ar Lefel 3Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0
Gradd Sylfaen
240 credyd
Lefelau (0),1,2
Isafswm o 100 credyd ar Lefel 2Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0
Diploma AU
240 credyd
Lefelau (0),1,2
Isafswm o 100 credyd ar Lefel 2Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0
Tystysgrif AU
120 credyd
Lefelau (0),1
Isafswm o 100 credyd ar Lefel 1Uchafswm o 20 credyd ar Lefel 0
Asesu
16. Bydd y cymwysterau yn cael eu hasesu a’u dyfarnu yn unol â’r darpariaethau yn:
(i) y rheoliadau PA perthnasol
(ii) confensiynau PA; a’r
(iii) rheoliadau ar gyfer y cynllun astudio penodol.
Dosbarthiadau Graddau Israddedig
17. Er mwyn sicrhau cymaroldeb o ran mesur llwyddiant cymharol myfyrwyr wrth gyflawni eu credydau ac i hwyluso achredu dysgu blaenorol oddi mewn ac oddi allan i’r Brifysgol, defnyddir y tabl canlynol fel graddfa drosi gyffredinol ar gyfer dyfarniadau israddedig:
Canran
Canlyniad Gradd
70 ac uwch
Anrhydedd Dosbarth Cyntaf
60 - 69
Anrhydedd Ail Ddosbarth Uwch
50 - 59
Anrhydedd Ail Ddosbarth Is
40 - 49
Anrhydedd Trydydd Dosbarth
39 ac is
Methu
Graddau Uwchraddedig
18. Defnyddir y term ‘Rhagoriaeth’ i ddynodi perfformiad ardderchog gan ymgeiswyr ar gyfer graddau Meistr trwy gwrs ac fe’i gosodir ar 70% ar Lefel M neu’n uwch. Er mwyn ennill Gradd Meistr gyda Rhagoriaeth bydd angen i ymgeiswyr sicrhau marc cyfartalog wedi’i dalgrynnu o 70% neu’n uwch. Defnyddir y term ‘Teilyngdod’ i ddynodi perfformiad sy’n deilwng o’i gydnabod lle ceir marc cyfartalog wedi’i dalgrynnu rhwng 60% a 69%.
19. Mae’r termau ‘Rhagoriaeth’ a ‘Teilyngdod’ hefyd yn berthnasol ar gyfer tystysgrifau a diplomâu uwchraddedig sy’n cyrraedd 70% neu’n uwch, neu 60% i 69%, ar ôl cofrestru ar gyfer y dyfarniadau hyn fel cymwysterau annibynnol neu wrth adael gradd Meistr heb gwblhau’r traethawd estynedig. Os bydd ymgeisydd yn cwblhau’r radd Meistr, ond yn ei methu, lefel Pasio yn unig y gellir ei dyfarnu ar gyfer y Dystysgrif neu’r Ddiploma.
Amodau Achredu
20. Mae’r rheolau isod yn berthnasol wrth asesu dysgu blaenorol ar gyfer credyd:
(i) gellir asesu credydau ar sail dysgu blaenorol, dysgu blaenorol trwy brofiad a dysgu ar sail gwaith
(ii) dim ond y modiwlau rheiny sydd wedi eu pasio (neu rai sy’n cael eu cydnabod gan RPEL) all gael eu derbyn ar gyfer trosglwyddo credydau
(iii) caiff y lefel y derbynnir y credydau arni ei phenderfynu cyn derbyn i’r Brifysgol
(iv) gellir derbyn lefel perfformiad y myfyriwr (yn nhermau gradd/marciau) yn y credydau a drosglwyddwyd i mewn a, lle bo’n briodol, gall gyfrif fel cyfraniad tuag at y dyfarniad
(v) mae’r cwestiwn pa un ai a yw’r credydau a gasglwyd ar gyfer dysgu blaenorol yn parhau yn ddilys mewn perthynas â’r cynllun astudio y caiff y myfyriwr ei (d)derbyn ar ei gyfer ai peidio yn fater i’w benderfynu cyn derbyn i’r Brifysgol, yn amodol ar y terfynau amser cyffredinol ar gyfer cwblhau cynlluniau astudio
(vi) ni all ymgeiswyr sydd â gradd gychwynnol ac sy’n dychwelyd i astudio pwnc cytras gyfrif y credydau sydd ganddynt eisoes (ar Lefelau 1 a 2) am yr eilwaith tuag at radd gychwynnol ddilynol. Mewn achosion o’r fath, caiff ymgeiswyr sy’n dychwelyd astudio ar Lefel 3 eu dyfarnu â Thystysgrif i Raddedigion neu Ddiploma i Raddedigion, fel y bo’n addas.
Terfynau Trosglwyddo
21. Yn unol â Rheoliadau PA, dangosir y terfynau trosglwyddo credydau yn y tabl isod:
Cymhwyster
Terfyn Trosglwyddo Credydau
Uwchraddedig
Gradd Meistr
120 credyd
Gradd Meistr Integredig
320 credyd
Diploma i Uwchraddedigion
60 credyd
Tystysgrif i Uwchraddedigion
30 credyd
Graddedig
Diploma i Raddedigion
60 credyd
Tystysgrif i Raddedigion
30 credyd
Israddedig
Gradd Anrhydedd
240 credyd*
Cynlluniau Nyrsio Cyn-Gofrestru
Caniateir uchafswm o 50% fel Cydnabyddiaeth o Ddysgu Blaenorol (Trwy Brofiad) (RP(E)L)
Gradd Sylfaen
120 credyd
Diploma AU
160 credyd
Tystysgrif AU
80 credyd
* Lle bo uchafswm y credyd y gellir ei drosglwyddo wedi ei dderbyn, dylai’r credydau sy’n weddill ac sydd i’w hastudio fel arfer fod ar Lefel 6 neu’n uwch.
Derbyn
22. Dylai mynediad gyda chredyd academaidd fod yn amodol ar yr un egwyddorion â mynediad ar gyfer dechrau cynllun astudio, a chaiff ei reoli gan ofynion derbyn cynlluniau’r Brifysgol, fel y bo’n addas.
23. Lle bo ymgeiswyr gyda chymhwyster arbennig i’w derbyn yn rheolaidd gyda chyfanswm safonol o gredydau, dylai’r fath drefniadau gael eu ffurfioli yn y rheoliadau ar gyfer y cynllun dan sylw.
Casglu a Throsglwyddo Credydau PA ac Ewrop
24. Mae’r tabl isod yn dangos y gydberthynas rhwng credydau PA a chredydau System Gasglu a Throsglwyddo Credydau Ewrop (ECTS):
Cymhwyster
Credydau PA
Credydau ECTS
Uwchraddedig
Gradd Meistr
180 credyd
90 credyd
Gradd Meistr Integredig
480 credyd
240 credyd
Diploma i Uwchraddedigion
120 credyd
60 credyd
Tystysgrif i Uwchraddedigion
60 credyd
30 credyd
Graddedig
Diploma i Raddedigion
120 credyd
60 credyd
Tystysgrif i Raddedigion
60 credyd
30 credyd
Israddedig
Gradd Anrhydedd
360 credyd
180 credyd
Gradd Gyffredin
300 credyd
150 credyd
Gradd Sylfaen
240 credyd
120 credyd
Diploma AU
240 credyd
120 credyd
Tystysgrif AU
120 credyd
60 credyd
Tystysgrif Sylfaen
120 credyd
60 credyd
Fframwaith Cymru a’r Lefelau AB ac AU
25. Mae’r tabl isod yn dangos y gydberthynas rhwng lefelau credyd argymelledig Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru (Fframwaith Cymru) a’r lefelau AB ac AU a ddefnyddir yn gyffredin:
Lefelau Credyd Fframwaith Cymru
Lefelau AB/AU
Lefelau Cymhwyster
Lefel 8
Lefel 7Lefel M
Lefel Doethur
Lefel MeistrLefel 6
Lefel 5
Lefel 4Lefel AU 3
Lefel AU 2
Lefel AU 1Lefel Anrhydedd
Lefel Ganolradd
Lefel TystysgrifLefel 3
Lefel 2
Lefel 1Lefel AB 3
Lefel AB 2
Lefel AB 1Lefel 3 Uwch
Lefel 2 Canolradd
Lefel 1 SylfaenDiweddarwyd: Medi 2021
-
9.4 Cynlluniau gyda blwyddyn Rhyng-gwrs integredig (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant neu gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor)
1. Mae’r adran hon yn darparu fframwaith ar gyfer cynlluniau sy’n cynnwys blwyddyn integredig mewn diwydiant neu flwyddyn astudio dramor, sy’n cael eu diffinio fel Blwyddyn Ryng-gwrs yn y Confensiynau Arholiadau. Gall y rhain fod yn un o’r canlynol:
(i) cynlluniau pedair blynedd gyda dwy flynedd yn Aberystwyth ar ôl dechrau’r cynllun ynghyd â Blwyddyn Ryng-gwrs
(ii) cynlluniau pum mlynedd gyda thair blynedd yn Aberystwyth ar ôl dechrau’r cynllun ynghyd â Blwyddyn Ryng-gwrs
(iii) Cynlluniau Gradd Sylfaen tair blynedd gyda dwy flynedd yn Aberystwyth ynghyd â Blwyddyn Ryng-gwrs
(iv) Cynlluniau Meistr dwy flynedd gyda Blwyddyn Ryng-gwrs rhwng yr elfen trwy gwrs a chyflwyno’r traethawd hir.
2. Dylid nodi nad yw’r canllawiau yn yr adran hon yn cynnwys cynlluniau Iaith sy’n cynnwys blwyddyn yn astudio mewn lleoliad arall er mwyn i fyfyrwyr feithrin gallu a phrofiad ieithyddol.
3. Bydd y flwyddyn integredig mewn diwydiant yn cynnwys cyfnod yn gweithio o fewn y DU neu dramor. Pennir pwysedd y rhaeadr farciau ar gyfer blwyddyn integredig mewn diwydiant ar lefel cynllun, yn unol â’r Confensiynau Arholiadau. Bydd teitlau cynlluniau yn cydymffurfio â’r geiriad canlynol: (gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant).
4. Disgwylir i fyfyrwyr ar gynllun gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor astudio mewn prifysgol dramor. Pwysedd y flwyddyn yn astudio dramor yn y rhaeadr farciau fydd sero ‘0’. Bydd teitlau cynlluniau yn cydymffurfio â’r geiriad canlynol: (gyda blwyddyn integredig yn astudio dramor).
5. Bydd cynlluniau gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant yn cynnwys canlyniadau dysgu safonol ar gyfer y Flwyddyn Ryng-gwrs. Darperir canlyniadau dysgu cyffredinol mewn templed manyleb rhaglen, a gellir cymeradwyo canlyniadau dysgu ychwanegol ar lefel pwnc ar gyfer cynlluniau penodol.
6. Ni chaniateir i fyfyrwyr ar gynlluniau gyda blwyddyn integredig mewn diwydiant neu flwyddyn yn astudio dramor i fynd ar leoliadau cyfnewid yn ystod y flwyddyn sy’n rhagflaenu’r Flwyddyn Ryng-gwrs. Bydd hyn yn sicrhau nad yw’r myfyrwyr yn treulio mwy na blwyddyn i ffwrdd o Aberystwyth, a’u bod yn cael paratoad priodol ar gyfer y flwyddyn mewn diwydiant neu’r flwyddyn yn astudio dramor.
7. Bydd y rheol arferol bod yn rhaid llwyddo mewn 100 credyd ym mhob blwyddyn astudio er mwyn symud ymlaen yn cael ei weithredu ar gyfer y Flwyddyn Ryng-gwrs.
8. Bydd yn rhaid i fyfyrwyr sy’n methu symud ymlaen ar ddiwedd Blwyddyn 2 (neu’r flwyddyn gyfatebol cyn y flwyddyn mewn diwydiant neu’r flwyddyn yn astudio dramor) gwblhau a phasio asesiadau ailsefyll Awst neu ailadrodd y flwyddyn cyn dechrau ar y Flwyddyn Ryng-gwrs.
9. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gwblhau isafswm o 30 wythnos mewn gwaith neu’n astudio dramor. Gall Cyfarwyddwyr Athrofa neu’r sawl a ddirprwywyd ganddynt gymeradwyo cyfnodau byrrach o dan amgylchiadau eithriadol. Mae’n rhaid i fyfyrwyr gydymffurfio â gofynion eu Hathrofa wrth gadw mewn cysylltiad â’u tiwtoriaid yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n bosibl hefyd y bydd gofynion ychwanegol yn achos cynlluniau sy’n cael eu hachredu gan Gyrff Proffesiynol, Statudol a Rheolaethol. Gall myfyrwyr sy’n methu gwneud cynnydd academaidd boddhaol yn ystod y Flwyddyn Ryng-gwrs wynebu cael eu cyfeirio at Gyfarwyddwr yr Athrofa neu’r sawl a enwebwyd yn unol â’r Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd.
10. Bydd y flwyddyn integredig mewn diwydiant yn cynnwys 120 credyd. Gall asesiadau gynnwys llyfr log neu ddyddiadur, adroddiadau dros dro, ac adroddiad myfyriol ar y diwedd. Bydd cyfarfod mis Medi o Fwrdd Arholi’r Senedd yn cadarnhau’r marc terfynol a chadarnhau bod myfyrwyr yn mynd ymlaen i’r flwyddyn astudio nesaf.
11. Bydd Flwyddyn Ryng-gwrs yn cael ei marcio yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ar gyfer asesu. Bydd Bwrdd Arholi’r Senedd yn mynnu bod myfyrwyr nad ydynt yn cyflawni’r canlyniadau dysgu ac yn sicrhau marc isaf o 40% neu’n cwblhau’r flwyddyn yn llwyddiannus yn symud i gynllun gradd cytras nad yw’n cynnwys y flwyddyn integredig mewn diwydiant / blwyddyn integredig yn astudio dramor.
12. Bydd trefnu asesu’r flwyddyn yn astudio dramor yn cael ei benderfynu ar lefel cynllun a gall gynnwys credydau a ddyfernir gan sefydliadau eraill, adroddiadau dros dro, ac adroddiad myfyriol ar y diwedd. O fis Medi 2018 ymlaen ni fydd marciau’n cael eu trosi o sefydliadau eraill, a chredydau yn unig fydd yn cael eu cynnwys wrth gadarnhau dosbarth terfynol y radd. Mewn achosion lle nad oes asesiad yn Aberystwyth, ni fydd marc yn cael ei ddyfarnu, a chaniateir i fyfyrwyr basio’r flwyddyn ar sail credydau a gwblhawyd yn ystod y Flwyddyn Ryng-gwrs.
-
9.5 Cynlluniau Meistr a Ddysgir: Goruchwylio Traethodau Hir
1. Bydd y Brifysgol yn gyfrifol am y canlynol:
(i) Cynigion ar gyfer traethodau hir i fod yn ddichonadwy o ran yr amserlen a'r adnoddau sydd ar gael ac i'w dyrannu i oruchwylwyr gydag arbenigedd priodol
(ii) Caniatáu amser digonol i oruchwylwyr gyflawni eu dyletswyddau, yn arbennig lle bo'r garfan yn fawr
(iii) Cyfarwyddyd Cyngor Ymchwil i gael ei ddilyn, pan fo'n briodol, mewn perthynas ô'r cyfleusterau sydd i fod ar gael (man astudio, llyfrgell, amgylchedd ymchwil priodol, etc)
(iv) Canllawiau ysgrifenedig i'w rhoi gyda golwg ar bresenoldeb, fframweithiau ar gyfer cyfarfodydd a disgwyliadau cyffredinol
(v) Dylai'r gwaith o weithredu pob canllaw o'r fath gael ei fonitro'n rheolaidd; os yw'r ymgeiswyr angen cymorth ychwanegol gyda sgiliau iaith, dylid darparu'r cyngor hwn fel gwasanaeth ar wahân i ddyletswyddau'r goruchwyliwr
(vi) Lle bo ar fyfyrwyr angen cymorth ychwanegol gyda sgiliau iaith, y cyngor hwn i'w ddarparu fel gwasanaeth ar wahôn i ddyletswyddau'r goruchwylwyr
(vii) Mecanwaith i fod yn ei le, lle gall myfyrwyr wneud cais am newid goruchwyliwr/wraig, a lle bydd aelod gwahanol o'r staff ar gael petai unrhyw oruchwyliwr/wraig yn absennol am gyfnod estynedig o amser
(viii) Nifer y myfyrwyr a ddyrennir i oruchwyliwr/wraig i fod o'r fath fel y gall nhw fod ô'r medr i gyflawni'r cyfrifoldebau a nodir isod.
2. Bydd y Goruchwyliwr/wraig yn gyfrifol am y canlynol:
(i) Darparu cyngor a chyfarwyddyd i'r myfyriwr/wraig gyda'r bwriad o hyrwyddo cynhyrchu traethawd hir o'r safon angenrheidiol i gael gradd Athro a Ddysgir
(ii) Y cynnig ar gyfer traethawd hir i fod o fewn maes arbenigedd y goruchwyliwr/wraig, y testun a ddewisir i'w ddiffinio mewn ymgynghoriad ô'r myfyriwr/wraig
(iii) Y cynnig ar gyfer traethawd hir i fod yn addas i'w gwblhau o fewn yr amser penodedig
(iv) Cytuno ar amserlen ar gyfer cyflwyno'r gwaith a threfnu cyfarfodydd rheolaidd
(v) Cofnod gofalus i'w gadw, mewn cytundeb rhwng y goruchwyliwr/wraig a'r myfyriwr/wraig, o bob cyfarfod ffurfiol o'r fath, gan gynnwys dyddiadau, y camau y cytunwyd arnynt a'r dyddiadau targed a osodwyd
(vi) Gwaith i'w ddychwelyd yn unol ô'r dyddiadau targed penodedig gyda sylwadau adeiladol.
Cyfrifoldebau’r Myfyriwr/wraig
3. Bydd y myfyriwr/wraig yn gyfrifol am y canlynol:
(i) Dylai'r traethawd hir a gynhyrchir fod yn bennaf oll yn waith y myfyriwr/wraig ei hun, er ei gyflawni gyda'r fantais o gyngor ac arweiniad gan y goruchwyliwr/wraig
(ii) Cytuno ar amserlen ar gyfer cyflwyno'r gwaith a threfnu cyfarfodydd rheolaidd
(iii) Cofnod gofalus i'w gadw, mewn cytundeb rhwng y goruchwylir/wraig a'r myfyriwr/wraig, o bob cyfarfod ffurfiol o'r fath, gan gynnwys dyddiadau, y camau y cytunwyd arnynt a'r dyddiadau targed a osodwyd
(iv) Cysylltu ô'r goruchwylwyr pe ystyrid bod cyfarfodydd ychwanegol yn angenrheidiol
(v) Gwaith i'w gwblhau o fewn y fframwaith y cytunwyd arno, gydag unrhyw broblemau sy'n ymwneud ô chyflwyniad hwyr (neu anfoddhaol) i'w dwyn i sylw'r goruchwyliwr/wraig yn ysgrifenedig cyn gynted â phosibl.
-
9.6 Cynlluniau iaith pedair blynedd gyda blwyddyn dramor
1. Mae’r adran hon yn darparu fframwaith ar gyfer cynlluniau iaith pedair blynedd sy’n cynnwys blwyddyn lle mae’r myfyriwr yn treulio cyfnod i ffwrdd o Aberystwyth er mwyn ennill medr a phrofiad ieithyddol. Nid yw’r adran yn ymdrin â rhaglenni cyfnewid fel rhan o gynlluniau tair blynedd, na threfniadau eraill ar gyfer astudio dramor.
2. Bydd y Flwyddyn Dramor yn cynnwys cyfnod yn gweithio neu’n astudio dramor. Pennir pwysedd rhaeadr farciau o 0.25 ar gyfer y Flwyddyn Dramor ac fe’i hystyrir wrth bennu dosbarth terfynol y radd yn unol â’r Confensiynau Arholiadau.
3. Mae’r Flwyddyn Dramor yn rhan annatod a gorfodol o bob cynllun iaith pedair blynedd. Caniateir eithriadau ar sail astudiaethau blaenorol neu brofiad mewn amgylchiadau eithriadol yn unig, pan fydd argymhelliad wedi ei gyflwyno a’i gymeradwyo gan y Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran, Cyfadran y Celfyddydau a’r Gwyddorau Cymdeithasol.
4. Ni chaniateir i fyfyrwyr ar gynlluniau iaith pedair blynedd fynd ar leoliadau cyfnewid yn ystod y flwyddyn sy’n rhagflaenu’r Flwyddyn Dramor. Bydd hyn yn sicrhau nad ydynt yn treulio mwy na blwyddyn i ffwrdd o Aberystwyth, a’u bod yn cael paratoad priodol ar gyfer y Flwyddyn Dramor.
5. Nid oes amod bod myfyrwyr yn llwyddo i basio isafswm gredydau ar ddiwedd y Flwyddyn Dramor.
6. Pan fydd myfyrwyr yn methu symud ymlaen ar ddiwedd Blwyddyn 2 (neu’r flwyddyn gyfatebol cyn y Flwyddyn Dramor), bydd yn rhaid iddynt gwblhau a llwyddo yn asesiadau ailsefyll mis Awst neu ailwneud y flwyddyn cyn dechrau’r Flwyddyn Dramor.
7. Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau isafswm o 30 wythnos dramor mewn gwaith cyflogedig neu wirfoddol, neu’n astudio. Mewn rhai achosion bydd myfyrwyr yn cwblhau cyfuniad o waith cyflogedig ac astudiaethau academaidd. Mewn achosion eithriadol gall Dirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran neu ddirprwy gymeradwyo cyfnodau byrrach. Mae’n rhaid i fyfyrwyr gydymffurfio â gofynion eu hadran academaidd wrth gadw mewn cysylltiad â’u tiwtoriaid yn ystod y cyfnod hwn. Mae’n bosibl hefyd y bydd gofynion ychwanegol yn achos cynlluniau sy’n cael eu hachredu gan Gyrff Proffesiynol, Statutol a Rheolaethol. Gall myfyrwyr sy’n methu gwneud cynnydd academaidd boddhaol yn ystod y Flwyddyn Ryng-gwrs wynebu cael eu cyfeirio at Ddirprwy Is-Ganghellor y Gyfadran neu’r sawl a enwebwyd yn unol â’r Rheoliad Academaidd ynghylch Cynnydd Academaidd.
8. Bydd y Flwyddyn Dramor yn cynnwys 120 credyd. Gall asesiadau gynnwys llyfr log neu ddyddiadur, adroddiadau dros dro, ac adroddiad myfyriol ar y diwedd. I fyfyrwyr newydd sy’n dechrau o fis Medi 2018, bydd marciau’r Flwyddyn Dramor yn seiliedig ar asesiadau a osodwyd ac a aseswyd yn Aberystwyth. Gellir derbyn credydau a gwblawyd yn hytrach na thystiolaeth o waith cyflogedig neu wirfoddol, ond ni fyddant yn cyfrannu tuag at farc terfynol y Flwyddyn Dramor.
9. Bydd marc modiwl terfynol y Flwyddyn Dramor yn cael ei gadarnahu yn ystod y flwyddyn olaf, a hynny yng nghyfarfod Semester Un o Fwrdd Arholiadau’r Senedd.
10. Gellir ystyried Amgylchiadau Arbennig mewn achos o afiechyd neu amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr. Dylid eu hadrodd i’r adran cyn gynted â phosibl trwy gyflwyno ffurflen Amgylchiadau Arbennig ynghyd â thystiolaeth berthnasol, i’w hystyried gan y byrddau arholi. Os nad oes modd i fyfyrwyr barhau gyda’r Flwyddyn Dramor, dylent dynnu’n ôl o’u hastudiaethau am gyfnod dros dro.
-
9.7 Canllawiau ar drosglwyddo Credyd o sefydliadau eraill
1. Pan fydd myfyrwyr yn astudio dramor a hynny heb fod yn rhan orfodol o radd israddedig, trosglwyddir credyd yn unig i’w gradd yn Aberystwyth. Ni fydd marciau cyrsiau a astudir yn ystod rhaglen gyfnewid neu a drosglwyddir o sefydliadau eraill yn cael eu hystyried wrth bennu dosbarth gradd, nac yn cael eu rhestru ar drawsysgrif Aberystwyth. Mae’r cyfyngiad hwn yn cynnwys credydau a drosglwyddir o dan drefniadau ECTS. Mae’n weithredol ar gyfer Israddedigion a ddechreuodd Ran Un (sy’n cynnwys Lefel 0) eu hastudiaethau ers Medi 2018, ac i fyfyrwyr a ddechreuodd Ddyfarniadau Uwchraddedig ers Medi 2018.
2. Dim ond fel rhan o gytundeb cydweithredu llawn ar lefel cynllun y caniateir trosi marciau er mwyn eu cynnwys wrth bennu dosbarth gradd. Mewn achos o’r fath rhaid i’r cytundeb gynnwys mapio ffurfiol ar gyfer y graddfeydd marcio, a hynny’n cael ei adrodd i’r Bwrdd Darpariaeth Ryngwladol a Chydweithredol.
3. Ni chaniateir trosglwyddo credyd yn unig ar lefel 3 ac uwch o fewn graddau israddedig. Ar y lefelau hyn, caniateir rhaglenni cyfnewid a threfniadau eraill yn unig lle maent yn ddarostyngedig i gytundeb cydweithredol llawn, yn caniatau trosi marciau a’u cynnwys wrth bennu dosbarth gradd banglor neu radd meistr integredig.
-
9.8 Cytundebau Dysgu ar gyfer myfyrwyr sy'n mynd allan ar gynlluniau cyfnewid
Mae Cytundebau Dysgu yn rhoi manylion y cyrsiau a astudir gan fyfyrwyr yn ystod rhaglen gyfnewid. Er efallai na fydd sefydliadau partneriaethol yn gallu cyflwyno'r union gymysgedd o sgiliau a chynnwys a gynigir yn PA, bydd angen i gydlynwyr y cynllun gradd gadarnhau pa fodiwlau/cyrsiau sy'n gweddu orau â chynlluniau a manylebau rhaglenni PA ei hun. Mewn rhai achosion, efallai y bydd gofyn i fyfyrwyr gofrestru ar gyfer modiwlau craidd ychwanegol ym mlwyddyn olaf graddau israddedig i gydymffurfio â gofynion y cynllun neu Gorff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol (PSRB). Bydd Copïau o Gytundebau Dysgu yn cael eu cadw gan adrannau academaidd a Chyfleoedd Byd-eang, i gyfeirio atynt yn ystod cynllun cyfnewid un neu ddau semester, ac i'w hadolygu gan Gyfadrannau lle bo hynny'n briodol.
-
9.9 Dysgu’n Seiliedig ar Waith a Lleoliadau Gwaith Myfyrwyr
Cyflwyniad
1. Mae dysgu’n seiliedig ar waith yn golygu dysgu sydd fel arfer wedi’i gyflawni drwy waith â thâl neu heb dâl, y gellir ei asesu ar lefel addysg uwch ac sy’n cyfrannu at ddyfarnu credyd Prifysgol Aberystwyth (PA). Mae’r adran hon o’r Llawlyfr Ansawdd Academaidd yn ymwneud â chynlluniau astudio a modiwlau sy’n cynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu’n seiliedig ar waith.
2. Y nod wrth gynnwys dysgu’n seiliedig ar waith yn rhan o gynllun neu fodiwl yw galluogi myfyrwyr i gael profiadau ystyrlon mewn lleoliad fydd yn rhoi hwb i wella eu cyfleoedd Ym mhob achos dylai myfyrwyr fod yn siŵr y bydd pa bynnag brofiad a geir yn ychwanegu at eu set sgiliau ac yn eu galluogi i gymhwyso’r hyn a gaiff ei astudio ar y cwrs.
3. Mae PA wedi ymrwymo i weithio gyda chyflogwyr i sicrhau bod dysgu’n seiliedig ar waith yn ddeniadol i fyfyrwyr ac yn galluogi’r myfyrwyr i fodloni deilliannau dysgu eu cynllun / modiwl drwy ymgymryd â dysgu’n seiliedig ar waith. Bwriad y canllawiau canlynol yw:
(i) Sefydlu ymagwedd gymesur at reoli dysgu’n seiliedig ar waith drwy Gytundeb Ffurfiol
(ii) Sicrhau bod gweithdrefnau priodol ar waith i ddarparu dysgu’n seiliedig ar waith o safon uchel sy’n sicrhau profiad y myfyriwr ac yn bodloni deiliannau dysgu ar lefel y cynllun neu’r modiwl
(iii) Egluro cyfrifoldebau a hawliau’r cyflogwr, y Brifysgol a’r myfyriwr pan fydd myfyriwr ar leoliad gwaith.
Trosolwg o Ddysgu’n Seiliedig ar Waith
4. Ar gyfer unrhyw gynllun astudio sy’n cynnwys dysgu’n seiliedig ar waith, dylai’r broses gymeradwyo ymdrin â’r agwedd hon ar y cwrs i sicrhau ansawdd, safonau a phrofiad y myfyriwr. Dylai deilliannau dysgu gael eu nodi’n glir, eu hasesu’n briodol a chyfrannu at nodau’r cynllun mewn cyd-destun dysgu’n seiliedig ar waith priodol.
5. Caiff elfen dysgu’n seiliedig ar waith cwrs ei hadolygu fel rhan o Fonitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs (ffurflen AMTS1), i’w hadrodd i Bwyllgorau Materion Academaidd y Cyfadrannau. Cyflwynir crynodeb gan y Gyfadran i’r Bwrdd Academaidd.
Rheolaeth Gymesur o Ddysgu’n Seiliedig ar Waith
6. Mae gan y Brifysgol gyfrifoldeb i beidio â gosod myfyrwyr yn fwriadol mewn amgylchedd anniogel. Fel isafswm, dylai cyfadrannau sicrhau bod gan ddarparwyr dysgu’n seiliedig ar waith yswiriant ac asesiadau risg priodol a dylent sicrhau bod myfyrwyr yn ymwybodol o unrhyw risgiau penodol a gysylltir â dysgu’n seiliedig ar waith cyn dechrau ar y lleoliad. Fel gofyniad sylfaenol, dylid hysbysu myfyrwyr o lefel a natur yr oruchwyliaeth a’r gefnogaeth gan y Brifysgol a darparwyr dysgu’n seiliedig ar waith y gallant eu disgwyl yn ystod eu cyfnod o ddysgu’n seiliedig ar waith. Er mai ymweld â myfyriwr ar leoliad yw’r ymarfer gorau ar gyfer asesu cynnydd myfyrwyr ac addasrwydd parhaus cyfle dysgu’n seiliedig ar waith, cydnabyddir efallai nad yw hyn yn ymarferol i’w gyflawni gyda phob myfyriwr, yn enwedig cyfleoedd tramor neu fyr. Dylai staff fonitro cynnydd y myfyriwr, boed drwy ymweld â’r myfyriwr neu drwy barhau i gysylltu drwy ddulliau electronig, ar gyfnodau sy’n briodol i hyd y cyfnod dysgu’n seiliedig ar waith.
7. Bydd cynllunio, paratoi a rheoli gweithgaredd dysgu’n seiliedig ar waith yn amrywio yn ôl natur a hyd y lleoliad a disgwylir y bydd y gweithdrefnau ar gyfer rheoli gweithgaredd blwyddyn o hyd yn fwy helaeth na’r rheini ar gyfer lleoliadau gwaith llawer byrrach.
Cyfrifoldebau’r Myfyriwr
8. Gall adrannau naill ai osod myfyrwyr mewn lleoliad gwaith o’u dewis neu adael i’r myfyrwyr ddewis eu lleoliad eu hun. Os caniateir i’r myfyrwyr nodi lleoliad addas ar gyfer elfen dysgu’n seiliedig ar waith y cwrs, rhaid i adrannau ddarparu arweiniad ar addasrwydd y lleoliad ar gyfer bodloni deilliannau dysgu’r modiwl/cwrs.
9. Cyn dechrau ar leoliad gwaith rhaid i fyfyrwyr wneud y canlynol:
(i) Cwblhau gwiriad y Gwasanaeth Datgelu ac Atal (DBS) os oes ei angen ar gyfer y math o leoliad. Bydd y myfyriwr yn cadw hwn ac yn cyflwyno copi i gydlynydd y cynllun. Os ceir unrhyw euogfarnau rhaid eu trafod gyda’r cydlynydd. Rhaid i’r myfyriwr hysbysu’r darparwr lleoliad am unrhyw ystyriaethau sy’n codi o’r gwiriad DBS.
(ii) Ymgymryd ag ymweliad cychwynnol â’r darparwr lleoliad gwaith lle bo’n bosibl, i esbonio gofynion y lleoliad a deilliannau dysgu disgwyliedig.
(iii) Trafod gyda darparwr y lleoliad gwaith sut y bydd y lleoliad yn bodloni’r deilliannau dysgu ac esbonio unrhyw ofynion asesu.
(iv) Darparu Cytundeb Lleoliad Gwaith i ddarparwr y lleoliad yn egluro’r gofynion. Rhaid i ddarparwr y lleoliad lofnodi’r cytundeb a rhaid gwneud tri chopi: un i ddarparwr y lleoliad, un i’w gadw gan y myfyriwr ac un i’w ddychwelyd gan y myfyriwr i’r Gyfadran.
(v) Cyflwyno manylion y lleoliad gwaith, Cytundeb y Lleoliad a’r deilliannau dysgu a gytunwyd i’r Gyfadran i’w cymeradwyo cyn dechrau’r lleoliad.
Yn ystod y lleoliad gwaith bydd gofyn i’r myfyriwr gadw at y Rheoliad Academaidd ar Gynnydd Academaidd a’r gofynion manwl ar lefel y cynllun/modiwl. Lle bo’n briodol, rhaid i fyfyrwyr hefyd gydymffurfio â gofynion Addasrwydd i Ymarfer.
Cyfrifoldebau Darparwr y Lleoliad
10. Wrth drefnu lleoliadau gwaith, dylai darparwyr fod yn ymwybodol y bydd angen iddynt ddarparu goruchwyliwr/pwynt cyswllt dynodedig. Rôl y goruchwyliwr lleoliad fydd:
(i) Gweithio gyda’r myfyriwr i sicrhau bod y lleoliad gwaith yn bodloni deilliannau dysgu’r modiwl
(ii) Cyfarfod â’r myfyriwr yn rheolaidd i wirio cynnydd a thrafod unrhyw broblemau
(iii) Sicrhau bod ymsefydlu a hyfforddiant priodol yn cael eu darparu, gan gynnwys iechyd a diogelwch
(iv) Gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer unrhyw broblemau neu ymholiadau yn ystod y lleoliad gwaith
(v) Darparu adborth ar gynnydd ar ddiwedd y lleoliad drwy gwblhau Ffurflen Adroddiad Lleoliad Gwaith Myfyriwr
(vi) Darparu adborth ar reolaeth y lleoliad drwy gwblhau Ffurflen Adborth Cyflogwr
(vii) Darparu adborth gan y goruchwyliwr ar ôl cwblhau’r nifer gofynnol o oriau ymarfer
(viii) Cysylltu â chydlynydd y cwrs pe bai unrhyw broblemau’n codi yn ystod y lleoliad gwaith (gweler y siart llif Datrys Problemau).
11. Yn ystod y lleoliad gwaith gall myfyrwyr ddisgwyl:
(i) Cefnogaeth gan oruchwyliwr/pwynt cyswllt dynodedig y mae ei rôl yn cynnwys cynghori ar y gwaith a wneir
(ii) Cyfarwyddyd iechyd a diogelwch priodol er mwyn iddynt fod yn gyfarwydd â gweithdrefnau a gofynion y sefydliad maen nhw’n gweithio ynddo
(iii) Gweithio mewn amgylchedd diogel
(iv) Cael eu trin â pharch
(v) Cael eu hysbysu’n llawn am eu cyfrifoldebau, gan gynnwys rhai a gynhwysir mewn unrhyw ddeddfwriaeth statudol a/neu gontract di-dâl
(vi) Derbyn adborth gan y goruchwyliwr pan fydd yr oriau ymarfer gofynnol wedi’u cwblhau
(vii) Lle bo’n briodol, derbyn hyfforddiant llawn mewn unrhyw arferion anghyfarwydd y gofynnir iddynt ymgymryd â nhw
(viii) Gallu manteisio ar y weithdrefn Datrys Problemau (gweler y siart llif isod).
Cyfrifoldebau’r Gyfadran
12. Mae gan gyfadrannau gyfrifoldeb i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn cael eu paratoi’n ddigonol ar gyfer dysgu’n seiliedig ar waith gyda rhaglen cyn-leoliad a deilliannau dysgu’n seiliedig ar waith sydd:
(i) wedi’u nodi’n glir
(ii) yn cefnogi myfyrwyr i adnabod ac ymgeisio am leoliadau gwaith priodol
(iii) yn cyfrannu at nodau cyffredinol y cwrs
(iv) yn cael eu hasesu’n briodol
(v) yn atgyfnerthu trosglwyddedd a pherthnasedd ehangach y profiad.
13. Yn ogystal â sicrhau trylwyredd academaidd, bydd Cyfadrannau’n gyfrifol am y canlynol:
(i) Nodi aelod o staff y brifysgol yn arweinydd ar elfen dysgu’n seiliedig ar waith y cwrs a’r aelod hwn o staff fydd y pwynt cyswllt cyntaf.
(ii) Trafod addasiadau rhesymol gyda’r darparwr lleoliad os asesir bod gan fyfyriwr angen penodol, gan sicrhau bod lleoliadau gwaith yn gynhwysol, yn ddiogel ac yn gefnogol.
(iii) Caiff pwyntiau cyswllt a llinellau cyfathrebu eu diffinio’n glir gyda darparwr y lleoliad. Bydd hyn yn cynnwys cyfleoedd i’r darparwr lleoliad a’r myfyriwr wneud y canlynol:
-
- codi pryderon, neu gwynion am unrhyw agwedd ar y lleoliad, gan gynnwys perfformiad neu ymddygiad myfyriwr unigol
- gwneud awgrymiadau ar sut y gellid gwella gweithgaredd y lleoliad gwaith
14. Bydd myfyrwyr yn derbyn cyfarwyddyd cyn-leoliad cyn dechrau ar unrhyw leoliad gwaith, yn ogystal â gweithgaredd adfyfyriol priodol ar ôl dychwelyd, i atgyfnerthu perthnasedd dysgu’n seiliedig ar waith i’w cynnydd academaidd.
15. Caiff cyfleoedd dysgu’n seiliedig ar waith eu cynllunio, monitro, gwerthuso ac adolygu mewn partneriaeth gyda chyflogwyr. Bydd gan fyfyrwyr, cyflogwyr a rhanddeiliaid eraill gyfleoedd ffurfiol i ddarparu adborth. Bydd gan gyfadrannau drosolwg o gofnodion dysgu’n seiliedig ar waith, ac yn derbyn adroddiadau blynyddol fel rhan o Fonitro Blynyddol y Cynlluniau a Ddysgir trwy Gwrs (AMTS), i’w hadrodd i’r Bwrdd Darpariaeth Gydweithredol.
Adolygwyd y bennod: Awst 2023
-