DU, tu allan i Gymru

Gwiriwch y wybodaeth ar gyfer y wlad rydych chi fel arfer yn byw ynddi i gael gwybodaeth am gyllid.

Lloegr

Mae cyllid ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr i ddechrau cwrs ym mis Medi 2025.

Os ydych yn byw yn Lloegr gallwch wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr i gael cyllid ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/26. Mae'r arian sydd ar gael gan Gyllid Myfyrwyr Lloegr yn cynnwys arian ar gyfer ffioedd dysgu ac arian i dalu costau byw.

Benthyciad ffioedd dysgu

Yn amodol ar delerau ac amodau, ni fydd rhaid i fyfyrwyr sy’n byw yn Lloegr ac yn astudio tuag at eu gradd gyntaf dalu eu ffioedd dysgu ymlaen llaw. Yn lle hynny, gallent fod yn gymwys am fenthyciad ffioedd dysgu ad-daladwy gwerth hyd at £9,535 y flwyddyn i dalu costau eu ffioedd dysgu. Byddai'r arian hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i'ch Prifysgol ar ôl i chi gofrestru.

Byddwch yn dechrau ad-dalu'r benthyciad hwn pan fyddwch wedi cwblhau eich astudiaethau ac yn ennill cyflog sydd uwch na £25,000* y flwyddyn (yn dibynnu ar delerau ac amodau).

*Trothwy blwyddyn ariannol 2025/26. Adolygir y ffigwr hwn yn flynyddol

Cyllid ar gyfer costau byw

Gall pob myfyriwr cymwys sy'n gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr gael benthyciad cynhaliaeth i'w helpu i dalu ei gostau byw. Disgwylir i'r benthyciad hwn gyfrannu at gostau llety, bwyd, teithio a byw yn gyffredinol. Bydd y swm sydd ar gael yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol a ble rydych yn byw yn ystod eich astudiaethau.

Mae'r tabl canlynol yn dangos enghreifftiau o'r arian sydd ar gael yn ddibynnol incwm y cartref a ble mae'r myfyriwr yn byw yn ystod ei astudiaethau:

Cymorth cynhaliaeth ar gyfer myfyriwr israddedig amser llawn sy’n byw oddi cartref yn 2025/26

Incwm yr aelwyd

Benthyciad ar Gael – 2025/26 (Ffigurau yn dibynnu ar gymeradwyaeth seneddol)

£25,000 a llai

£10,544

£30,000

£9,791

£35,000

£9,038

£40,000

£8,285

£45,000

£7,532

£50,000

£5,512

£55,000

£6,026

£60,000

£5,273

£65,000

£4,915

£70,040 a throsodd

£4,915

Fel y gwelir uchod, bydd faint o arian cynhaliaeth sydd ar gael yn cael ei effeithio gan fanylion incwm yr aelwyd.

Sylwer os bydd incwm y cartref yn uwch, mae’r Llywodraeth yn disgwyl i rieni gyfrannu tuag at gostau byw’r myfyriwr.

Bydd y benthyciad cynhaliaeth hwn yn cael ei dalu'n uniongyrchol i fyfyrwyr, fel arfer mewn tri thaliad; un ar ddechrau pob tymor. Fel arfer bydd y taliad cyntaf yn cael ei ryddhau i chi ymhen 3-5 diwrnod gwaith ar ôl i chi orffen ymrestru. Felly, mae'n bwysig gwneud yn siŵr bod arian gennych ar gyfer o leiaf pythefnos pan fyddwch yn cyrraedd y Brifysgol.

Os byddwch yn newid unrhyw fanylion am eich cwrs neu fan astudio ar ôl i chi wneud cais am arian, dylech roi gwybod i Gyllid Myfyrwyr Lloegr cyn gynted ag y byddwch yn gwybod am newid neu gallai hyn achosi oedi cyn talu'r arian.

Cyllid ar gyfer Blynyddoedd Lleoliad Gwaith

Cyllid ar gyfer Blynyddoedd Lleoliad Gwaith

Os ydych chi'n fyfyriwr israddedig ar leoliad blwyddyn/blwyddyn mewn diwydiant, mae'r cyllid y gallwch ei dderbyn yn wahanol

Ffioedd Dysgu

Ar gyfer Blwyddyn Academaidd 2025/26, y ffi dysgu ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy'n ymgymryd â blwyddyn integredig mewn diwydiant yw:

Lleoliad rhyng-gwrs £1,905
Blwyddyn dramor £1,430

Cynhaliaeth

Os byddwch yn ymgymryd â lleoliad, os ydych yn gymwys, gallwch wneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr am fenthyciad cynhaliaeth ar gyfradd is. Ni fydd y benthyciad cynhaliaeth ar gyfradd is hwn yn ystyried incwm eich cartref - nid yw'r benthyciad yn dibynnu ar brawf modd - ac mae'n amrywio yn ôl ble y byddwch chi'n byw yn ystod y lleoliad.

Y symiau ar gyfer blwyddyn academaidd 2025-2026 yw:

  • £2,396 os ydych chi'n byw gartref
  • £3,194 os ydych chi'n byw oddi cartref a thu allan i Lundain
  • £4,485 os ydych chi'n byw yn Llundain

Nid yw myfyrwyr â phlant neu oedolyn dibynnol, neu fyfyrwyr â Lwfans i Fyfyrwyr Anabl, fel arfer yn gymwys i gael y cymorth hwn pan fyddant yn derbyn benthyciad cynhaliaeth ar gyfradd is.

Gallai myfyrwyr sy'n ymgymryd â rhai lleoliadau di-dâl penodol fod yn gymwys i gael cyllid llawn, ar yr amod bod y lleoliad yn bodloni un o’r canlynol:

  • Gwasanaeth di-dâl mewn ysbyty neu mewn labordy gwasanaeth iechyd cyhoeddus neu gyda grŵp comisiynu clinigol yn y DU
  • Gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y DU sy'n gweithredu wrth arfer swyddogaethau yn ymwneud â gofalu am blant a phobl ifanc, iechyd neu les, neu gyda sefydliad gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu'n cynnal gweithgareddau o'r un natur yn y DU
  • Gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol sy'n gweithredu wrth arfer swyddogaethau iechyd cyhoeddus yn y DU
  • Gwasanaeth di-dâl yn y carchar neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y DU
  • Ymchwil di-dâl mewn sefydliad yn y DU neu, yn achos myfyriwr sy'n mynychu sefydliad tramor yn rhan o'u cwrs, mewn sefydliad tramor
  • Gwasanaeth di-dâl gydag Awdurdod Iechyd Arbennig, Bwrdd Comisiynu'r GIG, y Sefydliad Cenedlaethol dros Ofal a Rhagoriaeth, Canolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Bwrdd Iechyd Lleol, Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig yn yr Alban, neu Fwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon.
  • Gwasanaeth di-dâl yn Senedd y DU

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Cyllid Myfyrwyr Lloegr

Gall myfyrwyr cymwys o'r DU wneud cais am gyfradd is o Fenthyciad Cynhaliaeth i helpu gyda chostau byw fel bwyd, llety a theithio.

Mae swm y Benthyciad Cynhaliaeth y gallwch ei dderbyn yn dibynnu ar incwm eich cartref, lle byddwch yn byw tra byddwch ar leoliad gwaith, a meini prawf ychwanegol.

Cyllid ychwanegol gan Brifysgol Aberystwyth

Yn Aberystwyth, cynigiwn ysgoloriaethau a bwrsariaethau i roi cymorth ariannol i chi wrth astudio.

Ad-dalu benthyciadau

Mae’r cyhoeddiad polisi cyllid o Addysg Uwch diweddar Llywodraeth y DU, sydd am newid telerau ad dalu benthyciad myfyrwyr, yn effeithio myfyrwyr sydd yn cychwyn astudio o’r flwyddyn 2024/25 ymlaen. Cyn gynted ag y caiff y newidiadau eu cadarnhau, byddwn yn diweddaru’r dudalen hon. Cofiwch fynd i wefan eich corff cyllido yn rheolaidd i gael y wybodaeth diweddaraf.

Os byddwch yn cael benthyciad ffioedd dysgu a benthyciad cynhaliaeth, bydd y rhain yn cael eu cyfuno i fod yn un swm y byddwch yn ei ad-dalu ar ôl gadael eich cwrs. Byddwch yn atebol i ad-dalu unrhyw fenthyciadau rydych chi wedi eu cymryd yn y mis Ebrill cyntaf ar ôl i chi adael eich cwrs. 

Ni fyddwch yn dechrau gwneud ad-daliadau nes bydd eich incwm dros y trothwy ad-dalu, sef £25,000 y flwyddyn hyd at Ebrill 2027. O fis Ebrill 2027 ymlaen mae'r trothwy wedi'i osod i godi'n flynyddol gyda chwyddiant (RPI). Os byddwch yn astudio cwrs amser llawn, bydd disgwyl i chi ddechrau ad-dalu o’r mis Ebrill ar ôl cwblhau eich cwrs neu adael/tynnu’n ôl o Addysg Uwch.  Byddai myfyriwr graddedig yn 2026 sy’n dechrau swydd gyda chyflog o £28,000 y flwyddyn, yn disgwyl ad-dalu tua £11 y mis dros flwyddyn ariannol 2027/28.  Os bydd eich incwm yn disgyn o dan y trothwy ad-dalu, bydd ad-daliadau yn dod i ben a bydd unrhyw falans sy’n weddill yn cael ei ddileu 40 mlynedd ar ôl dechrau’r ad-daliad. Gallwch hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol ychwanegol i'r Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr ar unrhyw adeg.

Bydd pob myfyriwr yn atebol ar gyfer y benthyciad am 40 mlynedd ar ôl y mis Ebrill ar ôl gorffen ei gwrs. Os oes balans sy'n weddill ar ôl 40 mlynedd, bydd hyn yn cael ei ddileu.

Llog ar eich benthyciadau

Codir llog ar unrhyw fenthyciad a gewch, yn dechrau ar yr adeg pan fyddwch yn ei dderbyn (benthyciad cynhaliaeth) neu pan fydd yn cael ei ddefnyddio ar eich rhan (benthyciad ffioedd myfyrwyr) nes y byddwch wedi talu eich benthyciad yn llawn, neu caiff unrhyw falans ei ddileu.

Ar hyn o bryd, y gyfradd log yw RPI (Retail Price Index) - Mynegai Prisiau Manwerthu + hyd at 3%. Mae'r swm a godir arnoch chi hefyd yn dibynnu ar p'un a ydych yn astudio neu'n gweithio ac os ydych yn gweithio, faint rydych yn ei ennill.

Gallwch gael rhagor o fanylion ynghylch sut y codir llog ar eich benthyciad myfyrwyr ar wefan y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr.

Cost ad-daliadau

Ar hyn o bryd, mae ad-daliadau ar fenthyciadau israddedig wedi’u pennu ar gyfradd o 9% o’ch incwm sydd dros £25,000 y flwyddyn. Fel arfer, caiff ad-daliadau eu cymryd o’ch cyflog drwy’r system dreth. Gallwch hefyd wneud ad-daliadau gwirfoddol

Edrychwch ar y tabl isod i gael syniad o faint fyddai’r ad-daliadau misol.

Eich incwm blynyddol (cyn treth)

Amcan o'r ad-daliad misol

£25,000

£0 - cyflog yn is na'r trothwy

£29,000

£23

£32,000

£45

£35,000

£68

£45,000

£143

Sut i wneud cais am gyllid

Bydd myfyrwyr sydd fel arfer yn byw yn Lloegr yn gwneud cais i Gyllid Myfyrwyr Lloegr am eu cyllid. Mae disgwyl i’r broses o wneud cais i fyfyrwyr sy’n bwriadu dechrau cwrs agor mis Mawrth 2025.

Yr Alban

Benthyciad Ffïoedd Dysgu -hyd at £9,535 y flwyddyn

Os ydych yn byw yn yr Alban byddwch yn gallu gwneud cais am arian i Asiantaeth Cyllid Myfyrwyr yr Alban. Ewch i’w gwefan i gael gwybodaeth am yr arian fydd ar gael ar gyfer Medi 2025 a sut i wneud cais.

Gogledd Iwerddon

Benthyciad Ffïoedd Dysgu - hyd at £9,535 y flwyddyn

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon byddwch yn gallu gwneud cais am arian i Gyllid Myfyrwyr Gogledd Iwerddon. Ewch i’w gwefan i gael gwybodaeth am yr arian fydd ar gael ar gyfer Medi 2025 a sut i wneud cais.